Adolygiad Amserlenni’r Dyfodol TrC

Rhannu Adolygiad Amserlenni’r Dyfodol TrC ar Facebook Rhannu Adolygiad Amserlenni’r Dyfodol TrC Ar Twitter Rhannu Adolygiad Amserlenni’r Dyfodol TrC Ar LinkedIn E-bost Adolygiad Amserlenni’r Dyfodol TrC dolen

Fel y cyhoeddwyd y llynedd, rydym wedi treulio amser yn adolygu’n hymrwymiadau hirdymor ar gyfer amserlenni rheilffordd i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion cwsmeriaid yn y ffordd orau ac yn addas ar gyfer anghenion teithwyr. Rydym nawr yn falch o allu rhannu’r gwaith hwn â chi, ein rhanddeiliaid allweddol a'n cwsmeriaid.

Nodwch, mae’r wybodaeth hon yn ymwneud â gwasanaethau Cymru a’r Gororau, ac nid Metro De Cymru / Llinellau Craidd y Cymoedd sy’n cynnwys Treherbert, Aberdâr, Merthyr, Rhymni, Coryton, y Ddinas, y Bae a Phenarth. Bydd rhagor o wybodaeth am amserlenni Mehefin 2024 ar gyfer y llinellau hyn yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.Mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol wedi’u sefydlu ar nifer o ffactorau seiliedig ar dystiolaeth yn cynnwys tueddiadau galw a thwf, yn ogystal â ffactorau cymdeithasol ac economaidd. Cafodd ein strategaeth hirdymor ei datblygu drwy ystyried y rhain yn ofalus.

Yn sgil pandemig Covid 19, mae’r ffordd mae pobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd i’r gwaith, i gael addysg a hamddena wedi newid yn sylweddol. Rydym ni wedi newid hefyd, gan ddod yn rheilffordd gyhoeddus yng ngwir ystyr y gair. Mae bron pob gwasanaeth rydym yn ei redeg angen rhyw fath o gymhorthdal cyhoeddus ar adeg pan fo cyllidebau dan bwysau cynyddol. Mae pob ceiniog a wnawn uwchben ein costau gweithredu yn mynd yn ôl i leihau’r cymhorthdal a dderbyniwn. Fel gweithredwr cyfrifol mae’n hollbwysig ein bod ni’n cydbwyso’r anghenion am wasanaeth rheolaidd, cadarn a dibynadwy o fewn ein cyllidebau ac yn erbyn ein targedau i ddarparu trafnidiaeth fwy cynaliadwy.

Rydym wedi datblygu’n hamserlen ar gyfer y dyfodol i gyd-fynd yn well ag arferion a gofynion teithio newydd cwsmeriaid, gan fod yn weithredwr cwbl aml-ddull. Mae hynny’n golygu ein bod ni’n edrych ar y galw a’r cyfleoedd am dwf ar draws bysiau a threnau gyda’i gilydd. Ar y rheilffordd, ni fydd rhai llwybrau’n gweld fawr o newid, bydd eraill yn gweld patrymau galw ychydig yn wahanol sydd wedi’u targedu’n well i anghenion cyfredol, ond mewn ardaloedd eraill rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau ein bod ni’n darparu capasiti lle mae’r angen mwyaf, yn tyfu refeniw ac yn lleihau cymhorthdal cyhoeddus yn y pen draw. Mae adborth rheolaidd ar ein hamserlenni gan randdeiliaid wedi cyfrannu at hyn, ynghyd â niferoedd teithwyr ac ystyriaeth ofalus o opsiynau teithio amgen.

Bydd canlyniadau’r adolygiad yn gweld TrC yn:

• Rhedeg 87 o wasanaethau ychwanegol ar lwybrau prif lein o’i gymharu â phan gymeron ni’r awenau yn 2018 ac ychwanegwyd mwy o gerbydau at rai o’r gwasanaethau prysuraf er mwyn helpu i ateb y galw cynyddol.

• Dileu nifer fach o wasanaethau lle mae’r galw’n isel iawn gan deithwyr ar hyn o bryd;

• Gohirio rhai o’r ymrwymiadau blaenorol i ganiatáu mwy o wasanaethau ar lwybrau penodol.

Fel rhan o’r broses adolygu hon, ystyriwyd gwahanol lefelau o opsiynau arbed cymhorthdal a chytunwyd i fwrw ymlaen â set gymedrol o newidiadau i amserlenni trenau Cymru a’r Gororau, sydd wedi’u hamlinellu’n fanylach isod.

Mae’r amserlen newydd yn cynnwys:

• Mwy o alwadau i/o Aberdaugleddau a Hwlffordd gan ddarparu 13 gwasanaeth y dydd i’r ddwy dref ym mhob cyfeiriad, i fyny o 10 ar hyn o bryd.

• Gwasanaeth bob awr rhwng Aberystwyth ac Amwythig i redeg o fis Mai i fis Medi o Mai 2026

• Gwasanaethau oriau brig ychwanegol ar linell Bro Morgannwg erbyn 2026, ond y cynnydd i 2 drên yr awr gydol y dydd i’w ohirio

• Cynyddu gwasanaethau Caerdydd <> Cheltenham erbyn mis Mehefin 2024 i drên bob awr gydol y dydd.

• Mwy o wasanaethau rhwng Abertawe a Dinbych-y-pysgod rhwng mis Mai a mis Medi o 2025, yn amodol ar gytundeb gyda Network Rail

• Ymestyn gwasanaeth Lerpwl i Gaer i Landudno o 2026, yn amodol ar gytundeb gyda Network Rail a chwblhau gwaith ar groesfannau

• Bwriad i wasanaethau rheilffordd Calon Cymru groesi yn Llandrindod i roi profiad llawer gwell i gwsmeriaid pan fydd yna darfu (maent yn croesi yn Llanwrtyd ar hyn o bryd).

Mae rhai o’r penderfyniadau anodd rydym wedi gorfod eu gwneud yn cynnwys:

• Lleihau gwasanaethau trwodd llinell Calon Cymru o bump i bedwar y dydd o fis Rhagfyr 2024 a dileu’r ddau wasanaeth hwyr i Lanymddyfri a Llandrindod. Mae opsiynau bws yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.

Dileu pedwar gwasanaeth rhwng Machynlleth a Phwllheli (dau i bob cyfeiriad). Bydd dau wasanaeth arall yn cael eu hailamseru gan redeg rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr

• Newid pedair taith i ddod i ben yng Nghaerfyrddin (yn lle Caerdydd Canolog ar hyn o bryd), er y bydd y rhain yn cysylltu â gwasanaethau GWR o Gaerfyrddin <> Llundain Paddington. (Gellir gweld amseroedd cysylltu yn ein hamserlenni).

• Gohirio cyflwyno gwasanaethau ychwanegol min nos rhwng Caerdydd a Cheltenham Spa.

• Gohirio ymrwymiad blaenorol i gynyddu trenau rhwng Caerdydd Canolog a Phen-y-bont ar Ogwr, drwy linell Bro Morgannwg, i ddau drên yr awr. Fodd bynnag, byddwn yn cyflwyno gwasanaeth oriau brig ychwanegol ym mhob cyfeiriad.

• Gohirio ymrwymiad blaenorol i gyflwyno gwasanaeth newydd rhwng Caerdydd Canolog <> Amwythig <> Liverpool Lime Street, yn sgil faint o waith gwella seilwaith sydd ei angen gan Network Rail.

• Gohirio ymrwymiad blaenorol i gynyddu’n gwasanaethau rhwng Caerdydd ac Abertawe i un trên yr awr ar adegau tawel. Fodd bynnag, bydd y gwasanaeth hwn yn parhau bob awr yn ystod yr oriau brig.

Rydym yn bwriadu darparu’r amserlenni hyn dros y blynyddoedd nesaf, ond mae’n hollbwysig o hyd ein bod ni’n ystyried eich adborth chi. Er nad ydym yn gallu gwneud newidiadau sylfaenol i’r dull a amlinellwyd, efallai y gellir gwneud addasiadau i’r amseroedd a’r gwasanaethau. Mae gennym ddiddordeb arbennig clywed a oes yna bethau y gallem eu gwneud yn wahanol i helpu pobl yn eich ardaloedd i gael cysylltiadau gwell i drenau eraill neu i lwybrau bysiau lleol neu genedlaethol.

Mae hefyd yn bwysig nodi mai 441 o brif wasanaethau (ac eithrio Llinellau Craidd y Cymoedd) yr oeddem yn eu rhedeg pan ddechreuom wasanaethu pobl Cymru a’r Gororau yn 2018. Bydd ein hamserlen yn y dyfodol o dan y cynlluniau newydd yn gweld 528 o wasanaethau bob dydd yn yr Haf a 512 yn y Gaeaf. Mae’r teithiau hynny yn cael eu gwneud yn gynyddol ar drenau mwy newydd, hirach a mwy dibynadwy a fydd yn rhoi hyder i gwsmeriaid deithio ar rwydwaith rheilffordd Cymru a’r Gororau.

Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio trwy broses adolygu’r amserlenni yn ofalus. Rydym nawr yn eich annog i lenwi’r ffurflen adborth a welir ar y dudalen hon.

  • Diolch i chi am roi eich amser i rannu eich barn ynglŷn â’r newidiadau i amserlenni’r dyfodol drwy'r ffurflen ganlynol. Mae amserlenni’r dyfodol wedi’u datblygu'n ofalus yn seiliedig ar ddata ac rydym yn bwriadu dechrau cyflwyno'r amserlenni hyn o fis Rhagfyr eleni. 

     Ni allwn wneud newidiadau sylweddol; mae'r sylfeini, fel nifer y gwasanaethau y dydd a dosbarth y trên sy’n gwasanaethu pob llwybr – eisoes wedi'u gosod.  Fodd bynnag, mae'n dal yn hanfodol bwysig ein bod yn ystyried eich adborth ac yn gwneud mân welliannau lle bo hynny'n bosibl. 

     Gellid gwneud rhywfaint o addasiadau o ran amseru a gwasanaethau o hyd os oes pethau y credwch y gallem eu gwneud yn wahanol er mwyn helpu pobl yn eich ardaloedd chi i wneud cysylltiadau gwell, naill ai ar drenau eraill neu ar lwybrau bysiau lleol neu genedlaethol.  Byddem yn awyddus i glywed ynglŷn â sut y gallem wneud newidiadau sy’n unol ag anghenion lleol penodol yn eich ardal chi - fel traffig ysgol neu goleg - ystyriaethau ar gyfer gwell rhwydweithiau trafnidiaeth integredig a sut y gallwn annog cymunedau i ddewis dulliau mwy cynaliadwy o deithio yn y dyfodol.

    Rydym yn eich annog chi i gadw'ch ymatebion i bob cwestiwn hyd at uchafswm o 300 gair. Mae hyn er mwyn sicrhau bod atebion yn gryno ac i ganiatáu dealltwriaeth glir, fel y gallwn ddadansoddi'r data a gasglwyd yn drylwyr. 

     Unwaith eto, hoffem ddiolch i chi am roi eich amser i rannu eich syniadau gyda ni. Gallwch ddod o hyd i'r pum cwestiwn arolwg ar y dudalen nesaf. Diolch. 

    Take Survey
    Rhannu Ffurflen Adborth ar Facebook Rhannu Ffurflen Adborth Ar Twitter Rhannu Ffurflen Adborth Ar LinkedIn E-bost Ffurflen Adborth dolen
Diweddaru: 16 Ebr 2024, 08:01 PM