Helpwch lunio gwelliannau i orsaf drenau Bangor

Rhannu Helpwch lunio gwelliannau i orsaf drenau Bangor ar Facebook Rhannu Helpwch lunio gwelliannau i orsaf drenau Bangor Ar Twitter Rhannu Helpwch lunio gwelliannau i orsaf drenau Bangor Ar LinkedIn E-bost Helpwch lunio gwelliannau i orsaf drenau Bangor dolen

Helpwch i lywio dyfodol gorsaf drenau Bangor.

Mae'r prosiect Porth Bangor yn gynllun a arweinir gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) er mwyn gwella gorsaf drenau Bangor a'r ardal o'i hamgylch. Gan wasanaethu tua 720,000 o gwsmeriaid bob blwyddyn a chludo cwsmeriaid i ddinas Bangor, Eryri, a'r rhanbarth ehangach, gorsaf drenau Bangor yw'r orsaf brysuraf yng ngogledd Cymru.

Mae'r prosiect yn llywio rhan o raglen ehangach Rhwydwaith Gogledd Cymru, a'r nod yw creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n integredig ac sydd â gwasanaethau cyson a rheolaidd, sydd felly'n cludo unigolion yn well i leoliadau gwaith ac addysg, yn ogystal ag i wasanaethau a mannau ar gyfer hamdden ar draws gogledd Cymru.

Fel rhan o Rwydwaith Gogledd Cymru, gwnaeth gwasanaethau trên ar hyd Prif Lein Gogledd Cymru gynyddu 50% ym mis Mai 2026. Mae'r gwasanaethau ychwanegol hyn yn creu cyfle i ddenu mwy o gwsmeriaid at ddefnyddio'r trên ac mae'n gwella teithio cynaliadwy ar draws y rhanbarth. Nod prosiect Porth Bangor yw sicrhau y gall gorsaf drenau Bangor gefnogi'r twf hwn drwy ddarparu cyfleusterau gwell i gwsmeriaid, cyfnewidiad gwell gyda bysiau a choetsis a hygyrchedd gwell, yn ogystal ag amgylchedd sy'n fwy croesawgar i breswylwyr ac ymwelwyr.

Yr adborth yr ydym yn ei ddymuno

Rydyn ni'n dymuno deall y ffordd yr ydych yn defnyddio'r orsaf, sut mae'r orsaf yn cwrdd â'ch anghenion, a pha opsiynau o dan ystyriaeth sydd fwyaf poblogaidd. Bydd adborth cyhoeddus yn ein helpu ni i ddeall blaenoriaethau lleol ac i asesu sut y mae'r opsiynau arfaethedig yn cwrdd ag anghenion preswylwyr, busnesau, cwsmeriaid ac ymwelwyr.

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn clywed gan y rheini ohonoch sydd ddim bellach yn defnyddio gorsaf drenau Bangor a p'un a allai'r cynigion hyn eich annog chi i deithio ar y trên yn fwy rheolaidd.

Caiff yr adborth a dderbynnir yn ystod yr ymgysylltiad hwn ei ystyried ochr yn ochr ag asesiadau technegol, amcanion prosiectau a gofynion polisi, fel rhan o'r broses ar gyfer nodi'r opsiwn a ffafriwyd er mwyn mynd ag ef ymlaen. Bydd eich safbwyntiau yn helpu i sicrhau bod y cynllun yn ymateb i anghenion lleol ac yn cyflawni gwelliannau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i'r rheini sy'n defnyddio gorsaf drenau Bangor a'r ardal o'i hamgylch.

Sut ydw i'n cyflwyno f'adborth?

Byddem yn ddiolchgar petaech chi'n cymryd 5 munud i gwblhau ein harolwg ar-lein, a gellir cael mynediad ato drwy'r ddolen isod. Arolwg orsaf drenau Bangor | Bangor railway station Survey.

Mae'r arolwg ar agor o ddydd Mawrth 20 Hydref tan ddydd Gwener 20 Tachwedd.

Byddwn ni hefyd yn cynnal digwyddiadau galw heibio cyhoeddus yng ngorsaf drenau Bangor, lle fydd ein Tîm Prosiect ar gael i ateb eich ymholiadau a darparu manylion pellach ar y prosiect, os oes angen. Dyma fanylion y digwyddiadau galw heibio cyhoeddus:

  • Gorsaf drenau Bangor (Heol yr Orsaf, Bangor LL57 2DP) ddydd Iau 22 Hydref o 08:00am – 14:00pm.
  • Gorsaf drenau Bangor (Heol yr Orsaf, Bangor LL57 2DP) ddydd Llun 2 Tachwedd o 16:00pm – 21:00pm.

Mae'r opsiynau sy'n cael eu cynnig ar gyfer gorsaf drenau Bangor wedi'u nodi'n fanwl isod, ac mae'r dyluniadau i'w gweld ar ochr dde'r dudalen hon.

Opsiynau ym mlaen (ochr ogleddol) gorsaf drenau Bangor

Mae opsiwn a ffafriwyd eisoes wedi'i nodi ar gyfer blaen gorsaf drenau Bangor yn dilyn astudiaethau Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) ac ymgysylltiad cyhoeddus. Nod y cynnig yw creu man cyrraedd sy'n fwy deniadol, hygyrch a chroesawgar i gwsmeriaid, gan wella amgylchedd cyffredinol yr orsaf, hefyd.

Mae'r newidiadau arfaethedig yn cynnwys:

  1. Gwelliannau i fannau cyhoeddus a blaengwrt yr orsaf.

  1. Llwybrau cerdded a mannau croesi newydd a gwell.

  1. Gwell hygyrchedd ac arwyddion cliriach.

  1. Safleoedd bws, safleoedd tacsi, a mannau gollwng ym mlaen yr orsaf.

  1. Tynnu parcio arhosiad hir o flaen yr orsaf er mwyn creu mwy o le ar gyfer cwsmeriaid a gwneud gwelliannau i dir y cyhoedd.

  1. Mannau parcio i bobl anabl yn agos at fynedfa’r orsaf.

Nod hyn yw lleihau'r nifer o gerbydau sydd wedi'u parcio yn y brif fynedfa a chreu man croeso i'r ddinas sy'n ddeniadol ac sy'n adlewyrchu rôl yr orsaf yn well a'i rôl fel porth pwysig i Fangor ac Eryri.

Opsiynau ar gyfer y tu ôl (ochr ddeheuol) i orsaf drenau Bangor

Mae chwe opsiwn wrthi'n cael eu hystyried ar gyfer y tu ôl (ochr ddeheuol) i orsaf drenau Bangor. Byddai'r chwe opsiwn yn symud parcio arhosiad hir o flaen yr orsaf (yr ochr ogleddol), yn ogystal â phwyntiau gwefru ceir trydan, cyfleusterau parcio beiciau newydd, a gwelliannau i dir y cyhoedd.

Bwriedir i'r cynigion gefnogi'r gwelliannau a ffafriwyd ym mlaen (ochr ogleddol) yr orsaf gan sicrhau bod o hyd digon o gapasiti ar gyfer parcio a bod gwelliannau i'r cyfleusterau hyn hefyd. Gobeithir hefyd gwella mynediad i gwsmeriaid, annog mwy o bobl i ddefnyddio'r rheilffordd yn y dyfodol, darparu cyfleusterau ar gyfer gwasanaethau coetsis newydd, gwella cysylltiadau teithio cynaliadwy, a chwrdd â'r gofyn sy'n tyfu yn dilyn y cynnydd mewn gwasanaethau trên a gyflenwir drwy'r rhaglen Rhwydwaith Gogledd Cymru.

Y gwahaniaethau allweddol rhwng yr opsiynau yw'r lefel o fannau parcio ychwanegol, p'un a yw ffordd fynediad newydd yn cael ei chreu neu beidio, a ph'un a fydd cyfleusterau ar gyfer coetsis , a fyddai'n cefnogi gwasanaethau TaithCymru, yn cael eu creu.

Opsiwn 1: Maes Parcio mewn lleoliad newydd

Byddai'r opsiwn symlaf hwn yn symud y mannau parcio arhosiad hir o flaen yr orsaf i ochr ddeheuol yr orsaf.

Mae'n cynnwys:

  • Mannau newydd ar gyfer parcio arhosiad hir.

  • Cyfleusterau gwefru cerbydau trydan.

  • Mannau newydd ar gyfer parcio beiciau.

  • Un gyffordd â signalau ar Ffordd Caernarfon er mwyn gwella mynediad.

Opsiwn 2: Maes Parcio mewn lleoliad newydd gyda Chyfleusterau ar gyfer Coetsis

Mae'r opsiwn hwn yn adeiladu ar Opsiwn 1 drwy ddarparu safle coets newydd ochr yn ochr â lleoliad newydd ar gyfer mannau parcio ceir yn ogystal â mynediad newydd drwy Heol Euston.

  • Man gollwng.

  • Safle coetsis.

  • Ffordd fynediad newydd drwy Heol Euston.

Opsiwn 3: Mannau Parcio Arwynebol Ychwanegol

Byddai'r opsiwn hwn yn ehangu'r ddarpariaeth parcio y tu hwnt i newid lleoliad y mannau parcio, gan ddarparu mynediad hefyd drwy Heol Euston.

  • Capasiti ar gyfer parcio ychwanegol (40 o fannau parcio).

Opsiwn 4: Mannau Parcio Arwynebol Ychwanegol gyda Chyfleusterau Coetsis

Mae'r opsiwn hwn yn cyfuno mwy o gapasiti ar gyfer parcio gyda gwell gyfleusterau coetsis yn ogystal â mynediad newydd drwy Heol Euston.

  • Capasiti ar gyfer parcio ychwanegol (27 o fannau parcio)

  • Safle ar gyfer coetsis.

Opsiwn 5: Maes Parcio Aml-lawr

Byddai'r opsiwn hwn yn dod â pharcio ychwanegol drwy adeiladu maes parcio aml-lawr â pedwar llawr yn lle'r maes parcio sydd eisoes yn bodoli yng nghefn (ochr ddeheuol) yr orsaf, ar hyd mynediad newydd drwy Heol Euston.

Mae'n cynnwys:

  • Mannau newydd ac ychwanegol (67 o fannau parcio) ar gyfer parcio arhosiad hir, ar ffurf maes parcio aml-lawr yn lle'r maes parcio presennol.

Opsiwn 6: Maes Parcio Aml-lawr gyda Chyfleusterau ar gyfer Coetsis

Byddai'r opsiwn hwn yn dod â pharcio ychwanegol drwy adeiladu maes parcio aml lawr â tri llawr yn lle'r maes parcio sydd eisoes yn bodoli yng nghefn (ochr ddeheuol) yr orsaf. Mae hefyd yn cynnwys gwell gyfleusterau i gwsmeriaid a gwasanaethau coetsis, yn ogystal â mynediad newydd drwy Heol Euston.

Mae'n cynnwys:

  • Mannau newydd ac ychwanegol (108 o fannau parcio) ar gyfer parcio arhosiad hir, ar ffurf maes parcio aml-lawr yn lle'r maes parcio presennol.

Cyhoeddi: 20 Hyd 2026, 12:30 PM