Arolwg

Bydd yr arolwg hwn yn fyw nes 11:59pm ar 27 Hydref.  

 

Rhannwch eich barn drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i chi ei gwblhau.   


Os na allwch gwblhau ein harolwg, anfonwch eich ymateb atom yn ysgrifenedig.  Dyma'r cyfeiriad: 

Tîm Ymgysylltu Cledrau Croesi Caerdydd, Trafnidiaeth Cymru, 3 Llys Cadwyn, Pontypridd, Rhondda Cynnon Taf, CF37 4TH. 

 

Neu gallwch e-bostio ymgysylltu@trc.cymru


Noder, efallai y bydd canfyddiadau'r arolwg ar gael i'r cyhoedd ar ôl i'r ymgysylltiad ddod i ben. Byddai hyn fel arfer ar ffurf adroddiad ar ganlyniadau'r ymarfer ymgysylltu, ond caiff unrhyw wybodaeth bersonol ei chadw'n gyfrinachol. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu a'i phrosesu'n briodol yn unol â gofynion deddfwriaeth preifatrwydd a diogelu data. Am fwy o wybodaeth, ewch ati i ddarllen ein Polisi Preifatrwydd.



Rydym am ei gwneud yn haws i bawb deithio'n fwy cynaliadwy. Boed hynny'n ymweld a ffrindiau neu deulu, teithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith, mynd i'r ysgol, coleg neu brifysgol, neu deithio yn eich amser hamdden. 

Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru (TrC) i ddatblygu a chyflawni cam cyntaf prosiect Cledrau Croesi Caerdydd, a fydd yn darparu cyswllt trên-tram rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd.
   

Gallwch ddarllen y pecyn gwybodaeth yma a fydd yn eich helpu i gwblhau'r arolwg hwn.

0% Ateb

Dewiswch opsiwn

Dewiswch opsiwn