Porth Bangor - Ardal yr Orsaf

Rhannu Porth Bangor - Ardal yr Orsaf ar Facebook Rhannu Porth Bangor - Ardal yr Orsaf Ar Twitter Rhannu Porth Bangor - Ardal yr Orsaf Ar LinkedIn E-bost Porth Bangor - Ardal yr Orsaf dolen

Consultation has concluded

Gwybodaeth am y prosiect

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC), ochr yn ochr â Chyngor Gwynedd (CG), wedi nodi cyfle yng Ngorsaf Bangor – y prysuraf ar hyd Arfordir y Gogledd – i wella'r croeso i Ddinas Bangor, a gwella’r broses o gyfnewid gyda dulliau teithio ymlaen.

Nod yr astudiaeth Porth Bangor – Ardal yr Orsaf hon yw deall y problemau a'r rhwystrau a wynebir wrth deithio i Orsaf Reilffordd Bangor, ac oddi yno ac wrth ei defnyddio, gyda'r nod hefyd o gyflawni'r amcanion lefel uchel canlynol:

  • Gwella'r croeso i ddinas Bangor;
  • Gwella’r broses o gyfnewid â dulliau teithio ymlaen; a
  • Gwella

Gwybodaeth am y prosiect

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC), ochr yn ochr â Chyngor Gwynedd (CG), wedi nodi cyfle yng Ngorsaf Bangor – y prysuraf ar hyd Arfordir y Gogledd – i wella'r croeso i Ddinas Bangor, a gwella’r broses o gyfnewid gyda dulliau teithio ymlaen.

Nod yr astudiaeth Porth Bangor – Ardal yr Orsaf hon yw deall y problemau a'r rhwystrau a wynebir wrth deithio i Orsaf Reilffordd Bangor, ac oddi yno ac wrth ei defnyddio, gyda'r nod hefyd o gyflawni'r amcanion lefel uchel canlynol:

  • Gwella'r croeso i ddinas Bangor;
  • Gwella’r broses o gyfnewid â dulliau teithio ymlaen; a
  • Gwella profiad defnyddwyr yn yr orsaf.

Er mwyn helpu i gwblhau'r astudiaeth hon a datblygu opsiynau posibl mwyaf addas ar gyfer eu gweithredu yng Ngorsaf Reilffordd Bangor, mae WSP wedi cael comisiwn gan Trafnidiaeth Cymru i baratoi Achos Busnes Amlinellol WelTAG Cam Dau. Bydd hwn yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i gwblhau fel rhan o ddatblygu Uwchgynllun Bangor, gan weithredu ar yr argymhellion o fewn hwn sy'n amlygu potensial yr ardal, a sut y gall gyfrannu at gefnogi prosiectau adfywio eraill sydd ar waith ledled y Ddinas.


Dweud eich dweud ar-lein

Byddem yn ddiolchgar am unrhyw ymatebion i'r arolwg isod, neu syniadau ychwanegol ar gyfer ein map. Fel arall, gallwch ddarparu sylwadau mwy cyffredinol yn y llyfr gwesteion. Bydd sylwadau/adborth a wnaed yn y cyfnod cynnar hwn yn ein helpu i ddatblygu'r opsiynau cynllunio yn seiliedig ar yr anghenion/rhwystrau presennol.


Dweud eich dweud yn bersonol

Os byddai'n well gennych siarad â ni wyneb yn wyneb, byddwn yn Pontio (yn yr adeilad, y tu allan i'r fynedfa i Undeb y Myfyrwyr) ar 23 Tachwedd rhwng 12yp a 5yp, neu yng Ngorsaf Bangor ar 29 Tachwedd rhwng 12yp a 7:30yh.


Cysylltwch â thîm y prosiect

  • e-bost: PorthBangorGateway@wsp.com
  • Post (Marc eitem er sylw: Prosiect Porth Bangor): Trafnidaeth Cymru, 3 Llys Cadwyn, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 4TH


Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfnod ymgysylltu hwn?

Bydd awgrymiadau'n cael eu hasesu o’u cymharu â phroses ddiffiniedig a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o gyflwyno rhestr fer o opsiynau a fydd yn cyfrannu at yr amcanion, yn ogystal â pholisïau ac asesiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol o’u cymharu â ffactorau cynaliadwyedd, cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Os caiff yr opsiynau ar y rhestr fer hon eu derbyn, byddwn yn symud ymlaen (yn amodol ar gyllid a chytundeb partneriaid â’r opsiwn) drwy Gam 3 (dylunio manwl) gan ddisgwyl Cam 4 (adeiladu/ gweithredu).

  • Rydym eisiau clywed am eich profiadau presennol o’r croeso a’r gyfnewidfa a ddarperir yng Ngorsaf Bangor er mwyn inni allu helpu i gyfrannu at gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd yr arolwg hwn yn ein helpu i nodi patrymau a galw gan bobl a dulliau teithio o bob math - dylai’r arolwg gymryd tua 5 munud i’w lenwi.

    Consultation has concluded
    Rhannu Arolwg Porth Bangor: Ardal yr Orsaf ar Facebook Rhannu Arolwg Porth Bangor: Ardal yr Orsaf Ar Twitter Rhannu Arolwg Porth Bangor: Ardal yr Orsaf Ar LinkedIn E-bost Arolwg Porth Bangor: Ardal yr Orsaf dolen