Aberdâr i Hirwaun

Rhannu Aberdâr i Hirwaun ar Facebook Rhannu Aberdâr i Hirwaun Ar Twitter Rhannu Aberdâr i Hirwaun Ar LinkedIn E-bost Aberdâr i Hirwaun dolen

Cefndir i'r prosiect

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC), gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn archwilio'r potensial o ehangu'r lein drenau sydd eisoes yn bodoli i gyfeiriad y gogledd o Aberdâr i Hirwaun. Mae'r cynnig yn llunio rhan o weledigaeth ehangach Metro De Cymru, sef gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a'i gwneud hi'n haws i bobl teithio ar draws y rhanbarth.

Cynnig ydyw sy'n rhan o'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol sydd ond yn y camau cynnar iawn o gael ei ddatblygu. Er nad oes cyllid wedi'i glustnodi ar ei gyfer eto, mae'n un o'r cynlluniau a restrir yn ein gweledigaeth fel un sydd wedi cael ei ddatblygu yn gynnar ac yn gynllun delfrydol y gellir buddsoddi ynddo yn y dyfodol.

Yn y cyfnod cynnar hwn, rydym yn awyddus i gael barn y cyhoedd amdano.

Bwriad y cynnig fyddai ail-agor y lein sydd eisoes yn bodoli rhwng Aberdâr a Hirwaun, a gafodd ei ddefnyddio'n flaenorol ar gyfer gwasanaethau cludo nwyddau a mynd ati redeg trenau ar gyfer teithwyr. Mae gorsafoedd newydd posib yn cael eu hystyried yn Llwydcoed a Hirwaun, gydag estyniad posib yn y dyfodol i safle Pwll Glo'r Tŵr.

Ar hyn o bryd, mae'r cynnig yn parhau i fod yn y cam datblygu un unig ac nid oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud o ran y cynnig terfynol, math o reilffordd, nac os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen ai peidio. Byddai angen buddsoddiad sylweddol er mwyn ail-gyflwyno gwasanaethau cwsmeriaid, a does dim cynllun cadarn o ran cyllid yn ei le eto. Rydyn ni felly'n chwilio am adborth cynnar i ddeall blaenoriaethau'r bobl leol, yn ogystal â chyfleoedd a phryderon cyn i unrhyw benderfyniadau cael eu gwneud.

Bydd yr adborth a gesglir drwy'r ymgysylltiad hwn yn helpu i lywio cyfnod nesaf y datblygiad gan helpu i wneud achos dros fuddsoddi fel y gallwn geisio mynd at ii sicrhau cyllid ar gyfer y dyfodol.

Felly, ry’n ni’n ceisio cael adborth yn gynnar er mwyn deall blaenoriaethau lleol, cyfleoedd ac unrhyw bryderon cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau ynghylch y camau nesaf.

  • Mae'r arolwg hwn yn rhan o ymgysylltiad cynnar er mwyn deall safbwyntiau lleol ar gysylltedd trafnidiaeth ym Mlaenau Cwm Cynon ac er mwn casglu adborth ar y cynnig i ehangu'r rheilffordd. Rydyn ni am glywed gan breswylwyr, busnesau, cymudwyr a rhanddeiliaid lleol ynglŷn â'r cyfleoedd, pryderon, a blaenoriaethau y dylid eu hystyried wrth i'r prosiect ddatblygu.   

    Bydd eich adborth yn helpu i lywio cam nesaf o'r cynllun a datblygiad yr achos busnes. Nid yw hyn yn ymgynghoriad statudol ac nid yw'n gofyn am safbwyntiau am gynllun terfynol. Yn lle hynny, mae'n gyfle i helpu i lywio cynigion y dyfodol cyn i benderfyniadau cael eu gwneud.   

    Dylai'r arolwg gymryd tua 5 munud i'w gwblhau. Diolch am gymryd yr amser i rannu'ch barn.  

    Cwblhewch yr arolwg
    Rhannu Aberdâr i Hirwaun ar Facebook Rhannu Aberdâr i Hirwaun Ar Twitter Rhannu Aberdâr i Hirwaun Ar LinkedIn E-bost Aberdâr i Hirwaun dolen
Diweddaru: 12 Hyd 2026, 12:05 AC