Polisi preifatrwydd

Cyflwyniad

Mae Trafnidiaeth Cymru yn parchu eich preifatrwydd ac mae wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol.  Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut rydym yn gofalu am eich data personol pan fyddwch yn ymweld dweudeichdweud.trc.cymru (ni waeth o ble rydych chi’n ymweld â’r wefan) ac yn rhoi gwybod i chi am eich hawliau preifatrwydd, a sut mae’r gyfraith yn eich amddiffyn chi.

Rydym wedi darparu gwybodaeth fanwl am y canlynol:

  • Pryd a pham rydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol;
  • Sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth;
  • Yr amodau cyfyngedig y cawn ddatgelu’r wybodaeth i eraill oddi tanynt; a
  • Sut rydym yn cadw’r wybodaeth yn ddiogel.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth a fyddai’n dangos pwy ydych chi pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon, gallwn eich sicrhau y bydd y wybodaeth honno’n cael ei defnyddio’n unol â’r hysbysiad hwn yn unig.

Caiff Trafnidiaeth Cymru newid yr hysbysiad hwn o dro i dro drwy ddiweddaru'r dudalen hon. Dylech daro golwg ar y dudalen hon o bryd i’w gilydd i wneud yn siŵr eich bod yn fodlon ar unrhyw newidiadau. Daw’r hysbysiad hwn i rym ar 1 Hydref 2021.

Darperir y llwyfan meddalwedd y mae’r wefan hon yn rhedeg arno a’r gweithrediadau technoleg cysylltiedig gan Bang the Table Pty Ltd. Cliciwch y ddolen hon i weld y Polisi Preifatrwydd sy’n rheoli eu gwasanaeth.

Rheolydd

Trafnidiaeth Cymru ydym ni, sy’n ymgorffori Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyf. Ein Cyfeiriad yw 3 Llys Cadwyn, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 4TH.

Trafnidiaeth Cymru ydy rheolydd eich data personol ac mae’n gyfrifol amdano (cyfeirir at Drafnidiaeth Cymru yn y datganiad preifatrwydd hwn fel “ni” ac “ein” hefyd).

Ein rhif cyfeirnod cofrestredig gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw ZA209543.

Rydym wedi penodi swyddog diogelu data sy’n gyfrifol am oruchwylio cwestiynau mewn cysylltiad â’r hysbysiad preifatrwydd hwn. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr hysbysiad preifatrwydd hwn, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau cyfreithiol, mae croeso i chi gysylltu â'r swyddog diogelu data drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Manylion cyswllt Cyfeiriad post: Swyddog Diogelu Data, Trafnidiaeth Cymru, 3 Llys Cadwyn, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 4TH E-bost: dataprotection@tfw.wales

Mae gennych chi’r hawl i gwyno unrhyw bryd wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), awdurdod goruchwylio’r DU ar gyfer materion sy’n ymwneud â diogelu data (www.ico.org.uk). Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i ymdrin â’ch pryderon cyn i chi gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

Dolenni trydydd parti

Gallai'r wefan hon gynnwys dolenni i wefannau, ategion neu raglenni trydydd parti. 

Drwy glicio ar y dolenni hynny neu alluogi’r cysylltiadau hynny, efallai y bydd modd i drydydd partïon gasglu neu rannu data amdanoch chi. Nid ydym yn rheoli’r gwefannau trydydd parti hyn ac nid ydym yn gyfrifol am eu datganiadau preifatrwydd.

Pan fyddwch yn gadael ein gwefan, rydym yn eich annog i ddarllen hysbysiad preifatrwydd pob gwefan yr ewch iddi.

Pa wybodaeth bersonol y gallwn ni ei chasglu?

Gwybodaeth Proffil

Rydyn ni’n casglu gwybodaeth gennych pan fyddwch yn cofrestru i ddefnyddio’r safle hwn. Mae hyn yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost a gwybodaeth ddemograffig ychwanegol fel y nodir gennych chi ar y ffurflen gofrestru.

Cofiwch y gallwch bori unrhyw adrannau o’r wefan hon sy’n agored i’r cyhoedd yn gwbl ddienw heb gofrestru.

1. Y data rydym yn eu casglu amdanoch chi

Ystyr data personol, neu wybodaeth bersonol, ydy unrhyw wybodaeth am unigolyn a all ddatgelu pwy ydy'r unigolyn hwnnw. Nid yw’n cynnwys data lle mae’r hunaniaeth wedi’i ddileu (data di-enw).

Cawn gasglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch, sydd wedi’u trefnu i'r grwpiau canlynol:

  • Data Adnabod – sy’n cynnwys enw cyntaf, enw cyn priodi, cyfenw a theitl. 
  • Data demograffig - sy'n cynnwys rhyw, oed, ethnigrwydd a chod post rhannol
  • Data Cyswllt – sy’n cynnwys cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn.
  • Data Technegol – sy’n cynnwys cyfeiriad protocol rhyngrwyd (IP), y math o borwr a’r fersiwn, lleoliad a gosodiad cylchfa amser, fersiynau a mathau o ategion y porwr, system weithredu a’r llwyfan, a thechnoleg arall ar y dyfeisiau rydych yn eu defnyddio i gael mynediad i’r wefan hon.
  • Cynnwys rydych chi'n ei rannu gyda ni ar brosiectau yr ydym wedi'u rhestru ar gyfer ymgysylltu neu ymgynghori. Mae hyn yn cynnwys ymatebion i arolygon ac unrhyw fathau eraill o ymgysylltu ar y wefan hon.
  • Data Marchnata a Chyfathrebu – sy’n cynnwys eich dewisiadau o ran cael negeseuon marchnata gennym ni a’n trydydd partïon, a’ch dewisiadau cyfathrebu.

Rydyn ni’n casglu gwybodaeth am eich defnydd o’r safle, fel tudalennau yr ymwelwyd â nhw, dogfennau a gafodd eu llwytho i lawr, ac ati.

Sylwch eich bod yn gallu pori unrhyw adrannau hygyrch cyhoeddus o'r wefan hon yn gwbl ddienw heb gofrestru.

2. Sut mae eich data personol yn cael eu casglu?

Rydym yn defnyddio gwahanol ddulliau i gasglu data gennych chi ac amdanoch chi, yn cynnwys y dulliau canlynol rhyngweithio uniongyrchol.  Gallech roi eich Data Adnabod a’ch Data Cyswllt i ni drwy lenwi ffurflenni neu ohebu â ni drwy’r post, dros y ffôn neu e-bost, neu fel arall.  Mae hyn yn cynnwys data personol rydych yn eu darparu pan fyddwch yn:

  • cofrestr i ddefnyddio'r wefan hon;
  • tanysgrifio i’n diweddariadau e-bost;
  • gofyn am negeseuon marchnata i gael eu hanfon atoch;
  • ymateb i arolwg neu offeryn ymgysylltu arall a gynhelir ar y safle hwn; neu
  • rhoi adborth i ni.

Technolegau neu ryngweithio awtomataidd.  Pan fyddwch yn rhyngweithio â’n gwefan, cawn gasglu Data Technegol am eich cyfarpar a’ch  gweithgareddau a phatrymau pori yn awtomatig. Rydym yn casglu’r data personol hyn drwy ddefnyddio cwcis a thechnolegau tebyg eraill. Mae mwy o fanylion yn ein hadran ar gwcis isod.

3. Sut rydym yn defnyddio eich data personol?

Dim ond pan mae'r gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny y byddwn yn defnyddio eich data personol. Byddwn yn defnyddio eich data pan fo angen yn unol â'n buddiannau cyfreithiol (neu fuddiannau cyfreithiol trydydd parti) ac ni ystyrir eich diddordebau a'ch hawliau sylfaenol yn bwysicach na'r buddiannau hynny.

Buddiant Dilys: ystyr hyn ydy buddiant ein busnes wrth gynnal a rheoli ein busnes er mwyn ein galluogi ni i roi’r gwasanaeth gorau a’r profiad gorau a mwyaf diogel i chi.

Gallwn ddefnyddio eich data personol i:

  • gwella ein hymgysylltiad â phobl Cymru ac mae sicrhau bod yr ymgysylltu yr ydym yn ei wneud yn gynrychiadol o'r cymunedau sydd â diddordeb yn ein gwaith
  • cefnogi ein dadansoddiad o ymatebion arolwg
  • cyfleu gwybodaeth i chi am gyfleoedd ymgysylltu, digwyddiadau a mentrau eraill; a
  • ymateb i ymholiadau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • i gydymffurfio â deddfau a rheoliadau

Marchnata trydydd parti

Byddwn yn cael eich cydsyniad optio i mewn pendant cyn rhannu eich data personol ag unrhyw gwmni y tu allan i Drafnidiaeth Cymru at ddibenion marchnata.

Optio allan

Gallwch ofyn i ni neu i drydydd partïon roi’r gorau i anfon negeseuon marchnata neu ddiweddariadau e-bost atoch ar unrhyw adeg drwy ddilyn y dolenni optio allan ar unrhyw neges farchnata sy’n cael ei hanfon atoch, neu drwy gysylltu â ni ar unrhyw adeg dros e-bost ar contact@tfw.wales.

Cwcis

Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis i wahaniaethu rhyngoch chi a defnyddwyr eraill ein gwefan. Mae hyn yn ein helpu ni i roi profiad da i chi pan fyddwch yn pori ar ein gwefan ac mae’n ein galluogi ni i wella ein gwefan.
Mae ein Hysbysiad Cwcis i’w weld ar tfw.gov.wales/cookies.

4. Datgelu eich data personol

Efallai y bydd yn rhaid i ni rannu eich data â’r partïon a nodir isod at y dibenion a nodir yn y tabl uchod:

Darparwyr gwasanaethau sy’n gweithredu fel prosesyddion yn y Deyrnas Unedig sy’n darparu

  • gwasanaethau i gwsmeriaid, gwasanaethau TG a gwasanaethau gweinyddu systemau. 
  • Cynghorwyr proffesiynol sy’n gweithredu fel prosesyddion neu gyd-reolyddion yn cynnwys cyfreithwyr, bancwyr, archwilwyr ac yswirwyr yn y Deyrnas Unedig sy’n darparu gwasanaethau ymgynghori, bancio, cyfreithiol, yswiriant a chyfrifyddu.
  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, rheoleiddwyr ac awdurdodau eraill sy’n gweithredu fel prosesyddion neu gyd-reolyddion yn y Deyrnas Unedig sy’n mynnu adroddiadau am weithgareddau prosesu mewn rhai amgylchiadau.
  • Trydydd partïon y cawn ddewis gwerthu, trosglwyddo neu gyfuno rhannau o’n busnes neu ein hasedau â nhw.  Fel arall, cawn fynd ati i gaffael busnesau eraill neu uno â nhw. Os bydd ein busnes yn newid, caiff y perchnogion newydd ddefnyddio eich data personol yn yr un modd ag sydd wedi’i nodi yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.

Nid ydym yn defnyddio'r data rydych chi'n ei ddarparu gyda ni ar y wefan hon ar gyfer gwasanaethau marchnata ar wahân i'r rhai sy'n gysylltiedig â gweithgareddau'r safle hwn, a dim ond gyda'ch caniatâd ar gofrestru.

Mewn rhai amgylchiadau, rydym yn gweithio gydag ymgynghorwyr trydydd parti i helpu i gefnogi ein prosiectau. Efallai y byddant yn cael eu contractio i wneud dadansoddiad o ddata arolygon a gasglwn, ac yn y cyd-destun hwn byddwn yn rhannu'r data a gesglir o'r prosiectau penodol y maent wedi'u contractio i'w cefnogi gyda nhw, gyda nhw, fel eu bod yn gallu cyflawni'r swyddogaeth y maent wedi'u contractio i'w cyflawni. Ar ôl iddyn nhw orffen prosesu data, rydyn ni'n gofyn iddyn nhw ei ddileu.

Weithiau, byddwn hefyd yn darparu prosiectau mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus eraill a chwmnïau ac elusennau sy'n darparu gwasanaethau trafnidiaeth a gwneud lleoedd. Efallai y byddwn ni'n rhannu data a gasglwyd o'r prosiectau penodol yr ydym yn gweithio mewn partneriaeth arnynt, gyda hwy am eu cymorth i ddadansoddi ymatebion neu gyfathrebu allbynnau ymgysylltu neu ymgynghoriad a gyflwynir mewn partneriaeth. Ar ôl iddyn nhw orffen prosesu data, rydyn ni'n gofyn iddyn nhw ei ddileu.

Rydym yn gofyn i’r holl drydydd partïon barchu diogelwch eich data personol a'u trin yn unol â’r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i'n darparwyr gwasanaethau trydydd parti ddefnyddio eich data personol at eu dibenion eu hunain, a dim ond at ddibenion a nodir ac yn unol â’n cyfarwyddiadau yr ydym yn caniatáu iddynt brosesu eich data personol.

5. Trosglwyddiadau rhyngwladol

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae eich data personol yn cael ei storio’n ddiogel yn y Deyrnas Unedig.

Mae rhai o’n trydydd partïon allanol wedi’u lleoli y tu allan i’r Deyrnas Unedig felly, pan fyddant yn prosesu eich data personol, bydd hynny’n golygu trosglwyddo data y tu allan i’r DU.

Os ydym yn trosglwyddo eich data personol y tu allan i'r DU, byddwn yn sicrhau bod yr un graddau o ddiogelwch yn cael eu rhoi i’r data drwy wneud yn siŵr bod o leiaf un o’r mesurau diogelwch canlynol yn cael ei roi ar waith:

Dim ond i wledydd y mae Llywodraeth y DU yn credu eu bod yn darparu digon o ddiogelwch i ddata personol y byddwn yn trosglwyddo eich data personol. I gael rhagor o fanylion, darllenwch ganllawiau Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU ar ddigonolrwydd.

Efallai y byddwn hefyd yn trosglwyddo eich data personol i wledydd lle nad oes penderfyniad ynghylch digonolrwydd wedi’i wneud, a phan fydd hynny’n wir, dim ond o dan ddiogelwch cymalau contract safonol (SCC) yn unol â rheoliadau rhannu data rhyngwladol y byddwn yn gwneud hynny. 

6. Diogelu data

Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith er mwyn atal eich data personol chi rhag cael eu colli, eu defnyddio, eu cyrchu, eu newid neu eu datgelu ar ddamwain mewn modd heb ei awdurdodi. Hefyd, rydym yn cyfyngu mynediad at eich data personol i'r cyflogwyr, yr asiantaethau, y contractwyr a'r trydydd partïon eraill hyn y mae angen iddynt eu gweld at ddibenion busnes.  Dim ond yn unol â'n cyfarwyddiadau ni y byddant yn prosesu eich data personol, ac mae dyletswydd arnynt mewn cysylltiad â chyfrinachedd.

Rydyn ni wedi sefydlu gweithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri amodau data personol a byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol ynglŷn ag achos o dorri amodau, lle mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.

7. Cadw data

Dim ond am yr amser sydd ei angen i gyflawni’r pwrpas y cafodd eu casglu ar ei gyfer y byddwn yn cadw eich data personol, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd.

I bennu beth ydy'r cyfnod priodol i gadw eich data personol, byddwn yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg bosibl o niwed o ganlyniad i ddatgelu neu ddefnyddio eich data personol heb awdurdod, y dibenion rydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer, ac a allem gyflawni'r dibenion hynny mewn ffyrdd eraill, yn ogystal â'r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Gallwch ofyn i ni ddileu eich data mewn rhai amgylchiadau: gweler Gofyn am ddileu isod am fwy o wybodaeth.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn gwneud eich data personol yn ddienw (fel nad oes modd eu cysylltu â chi) at ddibenion ymchwil neu ystadegol, a gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon yn y modd hwn am gyfnod amhenodol heb roi gwybod i chi.

8. Eich hawliau cyfreithiol

Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych hawliau o dan ddeddfau diogelu data mewn cysylltiad â’ch data personol.

Mae gennych hawl i wneud y canlynol:

  • Gofyn am fynediad at eich data personol (gelwir hyn yn "gais gwrthrych am wybodaeth" fel arfer). Mae hyn yn eich galluogi chi i gael copi o'r data personol sydd gennym amdanoch chi ac i wneud yn siŵr ein bod yn eu prosesu’n unol â'r gyfraith. 
  • Gofyn am gywiro'r data personol sydd gennym amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi chi i gywiro unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi, ond bydd angen i ni ddilysu cywirdeb y data newydd rydych yn eu rhoi i ni efallai.
  • Gofyn am ddileu eich data personol.  Mae hyn yn eich galluogi chi i ofyn i ni ddileu neu gael gwared ar ddata personol nad oes rheswm da dros barhau i'w prosesu. Hefyd, mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu neu gael gwared ar eich data personol os ydych wedi llwyddo i arfer eich hawl i wrthwynebu prosesu (gweler isod), lle rydym wedi prosesu eich gwybodaeth yn anghyfreithlon efallai neu lle mae’n rhaid i ni ddileu eich data personol er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith leol. Sylwch, fodd bynnag, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu cydymffurfio â’ch cais i ddileu bob amser, a hynny am resymau cyfreithiol penodol. Os felly, byddwn yn rhoi gwybod i chi am y rhesymau hynny pan fyddwch yn gwneud cais.
  • Gwrthwynebu prosesu eich data personol lle rydym yn dibynnu ar fuddiant cyfreithiol (neu fuddiannau cyfreithiol trydydd parti) a bod rhywbeth am eich sefyllfa benodol sy'n gwneud i chi fod eisiau gwrthwynebu prosesu ar y sail hon oherwydd eich bod yn credu ei bod yn effeithio ar eich hawliau a’ch rhyddid sylfaenol. Hefyd, mae gennych hawl i wrthwynebu lle ein bod yn prosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mewn rhai achosion, cawn ddangos bod gennym sail gyfreithiol gadarn dros broses eich gwybodaeth sy’n drech na’ch hawliau a’ch rhyddid.
  • Gofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi chi i ofyn i ni oedi’r gwaith o brosesu eich data personol dan yr amgylchiadau canlynol: (a) os ydych am i ni sefydlu cywirdeb y data; (b) os ydym wedi defnyddio'r data’n anghyfreithlon ond nid ydych am i ni eu dileu; (c) os ydych angen i ni ddal y data er nad oes eu hangen arnom mwyach gan fod angen y data arnoch i sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu (d) os ydych wedi gwrthwynebu ein bod yn defnyddio eich data ond bod yn rhaid i ni ddilysu a oes gennym sail gyfreithiol drech i'w defnyddio.
  • Gofyn am drosglwyddo eich data personol i chi neu i drydydd parti.  Byddwn yn rhoi eich data personol i chi neu i drydydd parti rydych wedi’i ddewis mewn fformat wedi’i strwythuro, sy’n cael ei ddefnyddio’n aml, ac y gellir ei ddarllen gan beiriant. Sylwch mai dim ond i wybodaeth awtomataidd y rhoddoch ganiatâd i ni ei defnyddio yn y lle cyntaf, neu i wybodaeth yr ydym wedi ei defnyddio i gyflawni contract gyda chi, y mae'r hawl hon yn berthnasol.
  • Tynnu cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg lle rydym yn dibynnu ar gydsyniad i brosesu eich data personol.  Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw waith prosesu a wneir cyn i chi dynnu'ch cydsyniad yn ôl. Os byddwch yn tynnu’ch cydsyniad yn ôl, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu darparu ambell gynnyrch neu wasanaeth i chi. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am hynny pan fyddwch yn tynnu’ch cydsyniad yn ôl.

Os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o’r hawliau a nodir uchod, cysylltwch â ni.

Fel arfer, nid oes angen talu ffi

Ni fydd rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad at eich data personol (nac i arfer unrhyw un o'ch hawliau eraill).  Fodd bynnag, efallai y byddwn yn codi ffi resymol os ydy eich cais yn amlwg yn ddi-sail, yn ailadroddus neu’n ormodol. Fel arall, gallem wrthod cydymffurfio â'ch cais mewn amgylchiadau o'r fath.

Efallai y byddwn angen y canlynol gennych chi

Efallai y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth benodol gennych chi er mwyn ein helpu ni i gadarnhau eich manylion adnabod a sicrhau bod gennych chi hawl i gael mynediad at eich data personol (neu i arfer unrhyw un o'ch hawliau eraill). Mesur diogelwch ydy hwn er mwyn sicrhau na chaiff data personol eu datgelu i unrhyw un nad oes ganddo hawl i'w cael. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i ofyn am fwy o wybodaeth mewn cysylltiad â'ch cais er mwyn i ni allu ymateb yn gynt.

Cyfyngiad amser ar gyfer ymateb

Rydym yn gwneud ein gorau i ymateb i bob cais dilys cyn pen un mis. Weithiau, gall gymryd hirach na mis os ydy eich cais yn arbennig o gymhleth neu eich bod wedi gwneud mwy nag un cais.  Yn yr achos hwnnw, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn rhoi diweddariadau i chi.