Ffurflen Adborth
Diolch i chi am roi eich amser i rannu eich barn ynglŷn â’r newidiadau i amserlenni’r dyfodol drwy'r ffurflen ganlynol. Mae amserlenni’r dyfodol wedi’u datblygu'n ofalus yn seiliedig ar ddata ac rydym yn bwriadu dechrau cyflwyno'r amserlenni hyn o fis Rhagfyr eleni.
Ni allwn wneud newidiadau sylweddol; mae'r sylfeini, fel nifer y gwasanaethau y dydd a dosbarth y trên sy’n gwasanaethu pob llwybr – eisoes wedi'u gosod. Fodd bynnag, mae'n dal yn hanfodol bwysig ein bod yn ystyried eich adborth ac yn gwneud mân welliannau lle bo hynny'n bosibl.
Gellid gwneud rhywfaint o addasiadau o ran amseru a gwasanaethau o hyd os oes pethau y credwch y gallem eu gwneud yn wahanol er mwyn helpu pobl yn eich ardaloedd chi i wneud cysylltiadau gwell, naill ai ar drenau eraill neu ar lwybrau bysiau lleol neu genedlaethol. Byddem yn awyddus i glywed ynglŷn â sut y gallem wneud newidiadau sy’n unol ag anghenion lleol penodol yn eich ardal chi - fel traffig ysgol neu goleg - ystyriaethau ar gyfer gwell rhwydweithiau trafnidiaeth integredig a sut y gallwn annog cymunedau i ddewis dulliau mwy cynaliadwy o deithio yn y dyfodol.
Rydym yn eich annog chi i gadw'ch ymatebion i bob cwestiwn hyd at uchafswm o 300 gair. Mae hyn er mwyn sicrhau bod atebion yn gryno ac i ganiatáu dealltwriaeth glir, fel y gallwn ddadansoddi'r data a gasglwyd yn drylwyr.
Unwaith eto, hoffem ddiolch i chi am roi eich amser i rannu eich syniadau gyda ni. Gallwch ddod o hyd i'r pum cwestiwn arolwg ar y dudalen nesaf. Diolch.