Ai Prosiect Trafnidiaeth Cymru yw hwn?

    Yn gryno, nage. 

    Er bod y Comisiwn yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac Ysgrifenyddiaeth Trafnidiaeth Cymru, yn ogystal â’i bartneriaid cadwyn gyflenwi yn ôl yr angen, mae Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn gorff annibynnol sydd wedi cael y cyfrifoldeb o adolygu trafnidiaeth yn ei chyfanrwydd yn y rhanbarth.

    Beth yw Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru?

    Panel o gomisiynwyr annibynnol yw Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2022, a fydd yn argymell sut i adeiladu system drafnidiaeth gynaliadwy ac integredig ar gyfer y gogledd. Mae cylch gorchwyl llawn y Comisiwn yma: https://www.llyw.cymru/comisiwn-trafnidiaeth-gogledd-cymru/cylch-gorchwyl.

    Pwy yw’r Comisiynwyr?

    Mae’r Comisiwn yn cael ei gadeirio gan yr Arglwydd Burns GCB, a oedd yn gyfrifol am ddarparu Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn llwyddiannus. Mae’n cael ei gynorthwyo gan chwe Chomisiynydd arall: Dyfed Edwards (Dirprwy Gadeirydd), yr Athro John Parkin, Ashley Rogers, Doctor Georgina Santos, Sue Flack, a Stephen Joseph OBE, yn ogystal â dau aelod ymgynghorol o’r Comisiwn o Trafnidiaeth Cymru: Glyn Evans a Ruth Wojtan, ac un o’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau: Robert Kent-Smith. Ceir rhagor o fanylion am y Comisiynwyr ar dudalen we benodol Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/comisiwn-trafnidiaeth-gogledd-cymru.

    Ble allaf i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru?

    Sefydlwyd tudalen we benodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yma: https://www.llyw.cymru/comisiwn-trafnidiaeth-gogledd-cymru. Darperir yr Adroddiad Interim (Mehefin 2023) a’r Datganiad Cynnydd (Ionawr 2023) a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ar y dudalen we hon.

    Beth yw swyddogaeth Trafnidiaeth Cymru yn y prosiect hwn?

    Mae’r Comisiwn yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru ac Ysgrifenyddiaeth Trafnidiaeth Cymru, yn ogystal â’i bartneriaid cadwyn gyflenwi yn ôl yr angen. Mae’r Comisiwn ei hun yn cynnwys panel annibynnol ac felly ar wahân i Trafnidiaeth Cymru.

    Pam mae’r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal gan Trafnidiaeth Cymru?

    Ar y cyd â’r Comisiynwyr, Ysgrifenyddiaeth Llywodraeth Cymru, a phartneriaid cadwyn gyflenwi, cytunwyd mai defnyddio platfform ymgysylltu cyhoeddus Trafnidiaeth Cymru fyddai fwyaf effeithiol i gyrraedd cynulleidfa eang.

    Beth sy’n digwydd i fy adborth a’m sylwadau?

    Ar ôl cau’r cyfnod ymgynghori, bydd eich adborth yn cael ei ystyried gan y Comisiwn i helpu i hysbysu argymhellion y Comisiwn i Lywodraeth Cymru.

    Beth os byddaf yn meddwl am rywbeth ar ôl i’r cyfnod ymgynghori ddod i ben?

    Os oes gennych unrhyw sylwadau pellach i’w codi yn dilyn y cyfnod ymgynghori, rhowch unrhyw sylwadau mewn e-bost i: ComisiwnTrafnidiaethGogleddCymru@llyw.cymru neu drwy’r post: At sylw: North Wales Transport Commission, Welsh Government, Cathays Park, Cardiff, CF10 3NQ. Er na all y Comisiwn addo y bydd yn cynnwys eich sylwadau ar ôl y dyddiad cau, byddant yn ymdrechu i gymryd eich adborth i ystyriaeth lle bynnag y bo’n bosibl.

    Sut gallaf roi sylwadau i’r Comisiwn heb gwblhau’r arolwg ar y dudalen we hon?

    Ar gyfer unrhyw sylwadau nad ydynt wedi cael eu rhoi yn rhan o’r arolwg neu yn rhywle arall ar y dudalen we hon, cysylltwch â thîm y prosiect fel a ganlyn:

    Rwy’n cael anawsterau technegol yn cael gafael ar ddeunydd ar y dudalen we hon, a ellir datrys hyn?

    Os ydych yn cael unrhyw anawsterau technegol gyda’r dudalen we hon, cysylltwch â: ComisiwnTrafnidiaethGogleddCymru@llyw.cymru.

    Beth yw rhaglen bresennol y Comisiwn?

    Ar ôl cyhoeddi’r Adroddiad Interim ym mis Mehefin 2023, bwriedir y bydd y Comisiwn yn datblygu ei argymhellion terfynol dros haf 2023, gyda’r nod o ddarparu argymhellion terfynol i Weinidogion Cymru yn ystod hydref 2023.

    Beth fydd yn digwydd ar ôl i’r Comisiwn orffen?

    Bydd y Comisiwn yn rhoi ei argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac wedi hynny bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried y canfyddiadau ac yn darparu datganiad ynghylch eu derbyniad o’r canfyddiadau. Er mai Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu ar y cam nesaf yn y pen draw, mae’n werth nodi y sefydlwyd ‘Uned Cyflenwi Burns’ gan Lywodraeth Cymru ar ôl diwedd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, i fwrw ymlaen ag argymhellion y Comisiwn.