Cynllun pont droed Llandaf

Rhannu Cynllun pont droed Llandaf ar Facebook Rhannu Cynllun pont droed Llandaf Ar Twitter Rhannu Cynllun pont droed Llandaf Ar LinkedIn E-bost Cynllun pont droed Llandaf dolen

Rhaglen waith wedi'i diweddaru:

Disgrifiad o'r gweithgaredd
Dyddiad dechrau
Dyddiad gorffen
Sefydlu safleoedd cyfansawdd
05 Chwefror 2024
07 Mawrth 2024
Paratoi ar gyfer gwaith pentyrru (mat pentwr ac adeiladu ramp)
18 Chwefror 2024
29 Mawrth 2024
Gwaith dad-lystyfiant (cwympo coed)
26 Chwefror 2024
05 Mawrth 2024
Gwaith Peilio
11 Mawrth 2024
26 Mawrth 2024
Gosod Pont
08 Mehefin 2024
15 Mehefin 2024

___________________________________________________________________

Cau'r groesfan reilffordd ger Gorsaf Llandaf

Mae trydaneiddio’r rheilffyrdd, ynghyd â chyflwyno gwasanaethau amlach ar drenau tawelach a chyflymach, yn golygu y bydd croesfannau rheilffordd yn llawer mwy peryglus. Mae hyn yn arbennig o wir yn Llandaf, lle bydd 12 trên yr awr yn teithio i bob cyfeiriad. Fe wnaethom gau’r groesfan reilffordd ym mis Medi 2022, er mwyn i ni allu dechrau gweithio i ddatgomisiynu’r groesfan a bwrw ymlaen â’n gwaith i uwchraddio’r rheilffordd drwy’r rhan hon.

Cefndir

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn disodli'r groesfan reilffordd hon gyda phont droed newydd, gan ddarparu mynediad diogel i bob ochr i'r rheilffordd. Bydd y bont droed yn cysylltu Heol Wingfield â Chlos Colwinstone ar hyd llwybr troed presennol sy’n rhedeg drwy’r cae chwarae.

Dyluniad y bont droed

Roedd y bont droed wedi’i dylunio’n wreiddiol i gael mynediad ramp ar ochr isaf y bont (ochr Heol Wingfield) a mynediad ramp a grisiau ar ochr uchaf y bont (ochr y rhandir).

Ym mis Mawrth 2022, cynhaliodd TrC sesiwn galw heibio cymunedol i ddangos dyluniad arfaethedig y bont droed wedi’i rampio, yn ogystal â dangos dyluniadau amgen i’r cyhoedd. Daeth 75 o unigolion i’r digwyddiad, gan gynnwys trigolion Heol Wingfield, Maes Glas a deiliaid rhandiroedd. Mynegodd y rhai a oedd yn bresennol bryderon ynghylch y dyluniad llawn gyda ramp, oherwydd maint y ramp ar ochr y bont lle mae’r rhandir.

Yn dilyn adborth gan y gymuned leol, cafodd dyluniad y bont ei newid i gynnwys mynediad ramp o Heol Wingfield i ddec y bont, a grisiau yn mynd i lawr i ochr y rheilffordd lle mae’r rhandir. Bydd yn cael ei adeiladu gyda’r gobaith yn y dyfodol o ychwanegu ramp at y strwythur ar ochr y rhandiroedd.

Adeiladu’r bont

Er mwyn caniatáu i TrC adeiladu’r bont droed newydd, mae angen i ni sefydlu safle compownd dros dro i storio deunyddiau a darparu cyfleusterau lles i’n staff wrth iddyn nhw adeiladu’r bont newydd.

Byddwn yn defnyddio rhan o’r caeau chwarae y tu ôl i Stryd Colwinstone a Clos Colwinstone dros dro. Byddwn hefyd yn adeiladu ffordd gludo yn arwain o Glos Colwinstone i safle’r compownd. Bydd cerbydau cludo’n mynd i'r safle o Glos Colwinstone drwy giatiau mynediad, ac yn teithio ar hyd y ffordd gludo i mewn i safle’r compownd.

Ein nod yw cael mynediad i’r safle o fis Medi 2023 ymlaen, er mwyn cynnal arolygon safle anymwthiol ac ymweliadau safle. Yn dilyn hyn, ein nod yw dechrau ar y gwaith o greu’r safle compownd tua diwedd mis Medi 2023. Yna bydd y compownd yn cael ei roi ar waith a bydd yn cael ei ddefnyddio tan fis Mai/Mehefin 2024, nes bydd y bont wedi’i chwblhau. Yn dilyn hyn, bydd y compownd yn cael ei symud, a bydd yr ardal yn cael ei dirlunio yn unol â’r cynllun tirweddu ac ailblannu.

Nod TrC yw agor y bont droed i’r cyhoedd ym mis Ebrill 2024.

A fydd y cyhoedd yn gallu cael mynediad at y caeau chwarae pan fydd y compownd yn cael ei ddefnyddio?

Bydd. Gall y cyhoedd gael mynediad i’r caeau chwarae ar ben pellaf Clos Colwinstone, drwy’r fynedfa a ddangosir isod.

Bydd ffens o amgylch safle’r compownd a’r ffordd gludo er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, a byddwn yn gosod arwyddion ar hyd y ffordd gludo i sicrhau bod preswylwyr yn ymwybodol o symudiadau cerbydau.

Ar gyfer trigolion Stryd Colwinstone sydd â gerddi cefn yn wynebu’r caeau chwarae, byddant yn gallu mynd i’r caeau chwarae drwy adael eu gerddi cefn, a chroesi’r ffordd gludo drwy fan croesi a fydd yn cael ei osod i ddiogelu’r cyhoedd.

A fyddwn ni’n tynnu coed i adeiladu safle’r compownd?

Yn dilyn trafodaethau a chydweithio ag adran parciau Cyngor Caerdydd ac yn seiliedig ar adborth o ymgynghoriadau blaenorol, mae cynllun y compownd wedi cael ei ddylunio i liniaru effaith y cynlluniau ar rywogaethau coed gwerthfawr o amgylch y cae chwarae. Rydym ni wedi canolbwyntio ar y colledion coed hanfodol mewn ardaloedd lle mae coed yn dioddef o glefyd coed ynn. Mae TrC hefyd yn datblygu cynllun tirweddu ac ailblannu ar ôl cwblhau’r prosiect mewn ymgynghoriad â Chyngor Caerdydd. Er y bydd creu safle’r compownd yn golygu y bydd angen tynnu rhai coed, rydym wedi canolbwyntio ar gadw mwy o sbesimenau coed gwerthfawr, a byddwn yn lliniaru effaith hyn ar ôl cwblhau’r cynllun.

Mae’r cynllun uchod yn nodi’r holl goed sy’n amgylchynu’r caeau chwarae ar hyn o bryd. Bydd coed sydd wedi’u lliwio’n goch yn cael eu tynnu er mwyn i ni allu adeiladu'r bont a chreu mynediad i safle adeiladu’r bont. Bydd y coed sydd wedi’u hamlygu mewn gwyrdd yn aros ar y safle.

Darparu ramp ar ochr rhandir y bont yn y dyfodol.

Wrth ymchwilio i ba mor ymarferol yw gwahanol ffurfweddiadau a dyluniadau pontydd, ac wrth ystyried yr adborth a gafwyd gan y gymuned, rydym wedi dod i’r casgliad bod pont ar olwynion ar gyfer cerddwyr a beiciau, y gellir ei hôl-osod yn y dyfodol i bont gwbl hygyrch, yn cydbwyso anghenion y gymuned.

Mae’r dyluniad yn darparu ffordd o gael mynediad ar draws y rheilffordd. Mae hon yn ddarpariaeth ddylunio weithredol a fydd yn galluogi ôl-osod ramp cwbl hygyrch pan fydd cyllid ar gael drwy Lywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, ar gyfer y llwybrau cysylltu, yn y dyfodol.

Os bydd cyllid ar gael erbyn hyn, mae rhagor o opsiynau wedi cael eu datblygu a fyddai’n fwy derbyniol i’r gymuned er mwyn gwneud y bont yn gwbl hygyrch. Gellid cyflwyno’r rhain i’r dyluniad presennol hefyd.

Diweddaru: 14 Mar 2024, 04:20 PM