Cyflwynwch eich adborth ar Drafft o’r Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru - Ymgynghoriad Statudol
Sut i gyflwyno’ch safbwyntiau
Gweler dolen isod i'n map rhyngweithiol sy’n dangos y llwybrau a’r prif fannau esgyn a disgyn sy’n ffurfio’r drafft o’r Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru.
Noder, rydym wedi cynnwys prif fannau esgyn o fewn pyrth ar gyfer gwasanaethau bws lleol hyblyg (gwasanaethau ‘fflecsi’) yn ogystal ag ar hyd llwybrau penodedig. Mae’r prif fannau hyn yn cynnwys yr ardaloedd a chymunedau allweddol lle y dylai gwasanaeth bws lleol penodedig neu hyblyg wasanaethu.
Am wybodaeth ynghylch llwybr penodol yn ein drafft o’r Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, cliciwch/tapiwch ar y llwybr ar y map a bydd gwybodaeth yn ymddangos ar y chwith. Defnyddiwch y teclyn chwilio i edrych ar wasanaeth sy’n agos at ardaloedd penodol sy’n eich ymddiddori.
Cliciwch ar y sgwâr gwyn sydd ar y chwith i agor y map mewn sgrin lawn mewn tab newydd. Os hoffech chi roi sylwadau ar lwybrau unigol, gallwch chi adael sylw ar y map rhyngweithiol neu gynnwys hyn mewn cyflwyniad ysgrifenedig.
Sylwadau am y map
Gallwch bostio sylwadau ar lwybr neu le penodol, drwy glicio ar y botwm sylwadau glas ar y faner ddu ar frig y dudalen, wrth ymyl ‘mewngofnodi’.
Bydd gennych y dewis o rannu eich enw a'ch cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn postio sylwadau ar y map. Bydd y wybodaeth hon yn helpu Trafnidiaeth Cymru i ddeall pa randdeiliad statudol sy'n ymateb. Mae eich gwybodaeth wedi'i diogelu, ac ni fyddwch yn gallu gweld sylwadau a bostiwyd gan eraill.
Dewiswch y lle neu’r llwybr yr hoffech chi ollwng y sylw arno ar y map ac ysgrifennwch neges yn y blwch postio sylw.
Os ydych chi’n rhoi sylwadau ar lwybr penodol, bydd y map yn nodi’r llwybrau cyfagos, dewiswch y llwybr yr ydych chi’n rhoi sylwadau arno o’r rhestr ostwng. Os ydych chi eisiau rhoi adborth ar leoliad, ond nid llwybr penodol, dewiswch ‘dim’ o’r rhestr ostwng.
Os hoffech chi roi sylw ar arosfan bws benodol ar hyd y llwybr rydych chi wedi’i ddewis, byddwch chi hefyd yn gallu dewis arosfan bws o’r rhestr ostwng.
Cliciwch ar y ddolen arolwg isod a chofrestrwch ar Engagement HQ i gwblhau'r ffurflen arolwg ar-lein.
1. Byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen ddilysu
2. Cliciwch ar y ddolen, gwiriwch eich cyfrif a chwblhewch yr arolwg
Mae'r ymgynghoriad hwn ar gyfer ymgyngoreion statudol a bennir ym Mil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Rydym yn gofyn am safbwyntiau ar y cynllun drafft yn unig. Am unrhyw sylwadau eraill, e-bostiwch engagement@tfw.wales.
Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw dydd Mawrth 7 Hydref 2025.