Digwyddiadau Beic 2024

Rhannu Digwyddiadau Beic 2024 ar Facebook Rhannu Digwyddiadau Beic 2024 Ar Twitter Rhannu Digwyddiadau Beic 2024 Ar LinkedIn E-bost Digwyddiadau Beic 2024 dolen

Yr haf hwn, bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynnal cyfres o Ddigwyddiadau Beicio, fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i annog Teithio Llesol a newid ymddygiad.

Cynhelir y digwyddiadau rhwng mis Mehefin a mis Medi mewn lleoliadau ledled Cymru a'r Gororau.

Mae’n dilyn llwyddiant y digwyddiadau cyntaf a gynhaliwyd y llynedd pan gafodd dros 200 o feiciau eu marcio ar draws y rhwydwaith a 250 o ymatebion i’n harolwg teithio llesol.

Y nod yw ysbrydoli pobl i deithio'n fwy cynaliadwy a herio eu hunain i wneud yr addewid i fynd ar feic, boed hynny mynd ar y beic i’r gwaith, i astudio neu i hamddena yn lleol! Byddwn yn partneru â Heddlu Trafnidiaeth Prydain i ddarparu marc diogelwch beiciau YN RHAD AC AM DDIM ym mhob digwyddiad fel bod ymwelwyr yn cael eu hannog i ddod â’u beiciau gyda nhw.

Yn ogystal â hyrwyddo manteision beicio a mentrau lleol a chenedlaethol, amwynderau gan gynnwys parcio beiciau a llwybrau teithio llesol sydd ar gael ym mhob lleoliad, gall ymwelwyr gymryd rhan yn ein harolwg cerdded a beicio.

* Ymunwch â chynllun marcio a chofrestru beicio cenedlaethol y DU, a ffefrir gan yr heddlu. Darganfyddwch fwy yma: www.bikeregister.com

Felly ymunwch â ni yn un o’n Digwyddiadau Beicio TrC 2024 a gynhelir ledled Cymru a’r Gororau i gael eich ysbrydoli!

Cymerwch ran yn ein harolwg Teithio Llesol

  • CLOSED: This survey has concluded.
    Rhannu Arolwg Teithio Llesol ar Facebook Rhannu Arolwg Teithio Llesol Ar Twitter Rhannu Arolwg Teithio Llesol Ar LinkedIn E-bost Arolwg Teithio Llesol dolen
Diweddaru: 15 Hyd 2024, 07:44 AC