Neidio i'r cynnwys
Baner y prosiect

Diwygio’r bysiau

Diwygio Bysiau – Cefndir 

Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio i gyflwyno Diwygio Bysiau. Ar hyn o bryd mae deddfwriaeth newydd yn cael ei thrafod yn y Senedd. Golyga'r newid hwn y bydd penderfyniadau am wasanaethau bysiau yng Nghymru, gan gynnwys llwybrau, amserlenni, prisiau, oriau gweithredu a safonau ansawdd gwasanaeth, yn cael eu gwneud gan y sector cyhoeddus. 

De-orllewin Cymru fydd y rhanbarth cyntaf i weld y sector Bysiau yn cael ei ddiwygio yn 2027. 


Amdanom ni

Y cam cyntaf o ran diwygio bysiau ar gyfer y rhanbarth yw bod Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol yn Ne-orllewin Cymru yn datblygu cynnig ar y cyd ar gyfer y rhwydwaith bysiau ar gyfer De-orllewin Cymru. Yr enw ‘ry'n ni wedi'i roi ar y cynnig hwn yw Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig. Ar hwn yr hoffem gael eich adborth.


Arolwg 

Bydd yr arolwg ar-lein yn ceisio casglu barn, a fydd yn helpu i fireinio ein Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig. Fodd bynnag, mae cyfleoedd 'testun rhydd' fel y gellir darparu gwybodaeth am unrhyw beth sy'n bwysig i bobl am fysiau. Bydd yr arolwg yn cynnwys y map rhyngweithiol eto i chi gyfeirio ato. Argymhellir hefyd eich bod yn bwrw golwg ar y mapiau yma:


I'r rhai na allant ddefnyddio'r arolwg ar-lein, gallwn ddarparu copïau papur y gellir eu postio yn ôl atom. Gellir gwneud hyn drwy gais i'n tîm cyswllt (dolen allanol, yn agor mewn tab newydd) ac yna byddwn yn eu postio. Bydd gennym gopïau ar gael hefyd i'w llenwi a'u gadael gyda ni mewn digwyddiadau, neu i'w cymryd adref a'u cwblhau / eu postio yn ôl atom.

Os ydych chi eisoes wedi mewngofnodi, adnewyddu'r dudalen hon