Helpwch lunio dyfodol gorsaf reilffordd Caerfyrddin

Rhannu Helpwch lunio dyfodol gorsaf reilffordd Caerfyrddin ar Facebook Rhannu Helpwch lunio dyfodol gorsaf reilffordd Caerfyrddin Ar Twitter Rhannu Helpwch lunio dyfodol gorsaf reilffordd Caerfyrddin Ar LinkedIn E-bost Helpwch lunio dyfodol gorsaf reilffordd Caerfyrddin dolen

Helpwch lunio dyfodol gorsaf reilffordd Caerfyrddin

Rydym am glywed am eich profiad o ddefnyddio Gorsaf Reilffordd Caerfyrddin.

P'un a ydych chi'n teithio ar y trên yn rheolaidd, yn achlysurol, neu'n dewis mathau eraill o drafnidiaeth, bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall yn well sut mae pobl yn defnyddio'r orsaf a pha welliannau allai wneud teithiau yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy cyfleus.

Mae'r arolwg ar agor o 21 Medi tan 12 Hydref

  • Mae'n cymryd rhwng 5 a 10 munud i gwblhau'r 10 cwestiwn. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu defnyddio i helpu i lywio gwelliannau a chynllunio yn y dyfodol.

Pam rydyn ni'n gwneud hyn?

Mae Gorsaf Reilffordd Caerfyrddin yn ganolfan drafnidiaeth bwysig yn ne-orllewin Cymru sy’n cysylltu pobl ag addysg, gofal iechyd, hamdden a swyddi ledled Cymru a thu hwnt. Mae'r orsaf hefyd yn bwysig o ran cysylltu gwasanaethau rheilffyrdd â rhwydwaith bysiau TrawsCymru, gan ei gwneud yn gyfnewidfa ar gyfer teithiau ledled Cymru.

Fel rhan o'r prosiect hwn, rydym yn archwilio sut y gallem wneud yr orsaf yn well ar gyfer newid rhwng o drên neu fws i gerdded, olwynio a beicio.

Mae angen eich help arnom i:

  • ...nodi rhwystrau cyffredin rhag cael mynediad i, a defnydd o Orsaf Reilffordd Caerfyrddin
  • ...ddeall sut rydych chi'n dewis i deithio a beth sy'n dylanwadu ar eich dewisiadau
  • ...ddeall sut y gall gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd gweithio gyda'i gilydd yn well
  • ...ddysgu am eich blaenoriaethau o ran gwella profiad teithwyr

Pwy ddylai gymryd rhan?

Hoffem glywed gan:

  • ...bobl sy'n cerdded, olwynio neu seiclo, neu sy’n teithio ar fws neu mewn car
  • ...unigolion nad sydd yn defnyddio'r orsaf reilffordd yn rheolaidd, neu ar hyn o bryd
  • ...unrhyw un sy'n teithio i, o neu drwy Gaerfyrddin

Mae pob llais yn bwysig a bydd yn ein helpu i adeiladu gwell dealltwriaeth o anghenion teithio lleol.

Mae'n bwysig cofio nad yw'r cyllid wedi'i gadarnhau eto. Drwy roi eich barn, gallwch ein helpu i sicrhau'r cyllid sydd ei angen i gyflwyno gwelliannau yn seiliedig ar eich adborth.

Sesiwn Galw Heibio

Byddwn hefyd yng Ngorsaf Reilffordd Caerfyrddin rhwng 08:00 a 18:00 ar Ddydd Iau 24 Medi i glywed eich barn felly dewch i'n gweld os ar gael!

Ynglŷn â Gorsaf Reilffordd Caerfyrddin

Mae Gorsaf Reilffordd Caerfyrddin wedi'i lleoli ar Heol yr Orsaf yng nghanol Caerfyrddin.

Gyda dau blatfform, mae'n cynnig cysylltiadau rheilffordd uniongyrchol i lefydd gan gynnwys Abertawe, Caerdydd, Llundain a Manceinion, yn ogystal ag Abergwaun, Aberdaugleddau a Phenfro.

Gall pobl hefyd dechrau eu taith TrawsCymru ar y bws ar gyfer teithiau i Ysbyty Glangwili, Llanbedr Pont Steffan, Aberaeron ac Aberystwyth.

Mae gan yr orsaf doiled lle newid cwbl hygyrch, ystafell aros fawr, maes parcio ceir a beiciau, swyddfa archebu, a phwynt cymorth i gwsmeriaid a staff sydd ar gael 24/7.

Am ragor o fanylion ynglŷn â’r orsaf:

Gorsaf drenau Caerfyrddin | Tocynnau a gwybodaeth | TrC

Ar gyfer ymholiadau cynllunio teithiau rheilffyrdd:

Prynu tocynnau trên | Tocynnau trên rhad - Dim ffi archebu | TrC

Ar gyfer bysiau TrawsCymru:

TrawsCymru – teithio bws pellter canolig a hir yng Nghymru

Ymatebwch i’r arolwg

  • CLOSED: This survey has concluded.

    Mae TrC yn gwahodd trigolion, cymudwyr ac ymwelwyr sy'n defnyddio Gorsaf Reilffordd Caerfyrddin i rannu eu barn mewn arolwg. 

    Bydd adborth a gesglir drwy'r ymgynghoriad hwn yn helpu TrC i ddeall sut a pham mae pobl yn defnyddio'r orsaf ar hyn o bryd a nodi cyfleoedd i wneud teithiau rhwng gwahanol ddulliau o drafnidiaeth (megis o drên i fws) yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy cyfleus. 

    Mae 10 cwestiwn mewn 2 adran:  

    • Adran 1 – Caerfyrddin heddiw (sut rydych chi'n defnyddio'r orsaf ar hyn o bryd)

    • Adran 2 – Caerfyrddin yn y dyfodol (beth ydych chi'n meddwl a allai fod yn well) 

    Bydd yr arolwg yn cymryd tua 5 munud a bydd yn ein helpu i ddatblygu cynigion ar gyfer gwella'r orsaf, pe bai cyllid yn cael ei sicrhau yn y dyfodol. 

    Digwyddiad Ymgysylltu Caerfyrddin:   

    Ar 24 Medi 2026 rydym yn trefnu digwyddiad galw heibio yng Ngorsaf Reilffordd Caerfyrddin. Dewch i rannu eich barn a’ch syniadau ac i ofyn unrhyw gwestiwn i'r tîm. Gallwch alw draw pan fydd yn addas i chi. Bydd aelodau o'n tîm wrth law rhwng 08:00 a 18:00. 

    Rhannu Arolwg Dweud eich Dweud Caerfyrddin ar Facebook Rhannu Arolwg Dweud eich Dweud Caerfyrddin Ar Twitter Rhannu Arolwg Dweud eich Dweud Caerfyrddin Ar LinkedIn E-bost Arolwg Dweud eich Dweud Caerfyrddin dolen
Diweddaru: 14 Hyd 2026, 09:31 AC