Eich barn ar amcanion llesiant Trafnidiaeth Cymru

Rhannu Eich barn ar amcanion llesiant Trafnidiaeth Cymru ar Facebook Rhannu Eich barn ar amcanion llesiant Trafnidiaeth Cymru Ar Twitter Rhannu Eich barn ar amcanion llesiant Trafnidiaeth Cymru Ar LinkedIn E-bost Eich barn ar amcanion llesiant Trafnidiaeth Cymru dolen

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi'i enwi o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, sy’n ei gwneud yn ddyletswydd gyfreithiol arnom i gyhoeddi amcanion llesiant.

Mae'r amcanion hyn yn edrych ar sut y gall trafnidiaeth gyfrannu at lesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol ledled Cymru.

Dros y chwe mis diwethaf, rydym wedi ymgysylltu â mwy na 300 o bobl drwy weithdai, sgyrsiau a gweithgareddau wyneb yn wyneb eraill. Rydym bellach yn gwahodd amrywiaeth ehangach o bobl i rannu eu barn ar yr amcanion hyn.

Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall: a yw'r amcanion yn teimlo'n iawn i chi;

· a ydynt yn adlewyrchu popeth y dylai Trafnidiaeth Cymru fod yn canolbwyntio arno nawr;

· beth mae pob amcan yn ei olygu mewn bywyd bob dydd;

· beth fyddech chi'n disgwyl ei weld yn ymarferol;

· a oes unrhyw beth pwysig ar goll.

Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hadolygu a'u defnyddio i lunio Datganiad Llesiant 2027.

Diweddaru: 08 Hyd 2026, 04:49 PM