Gwelliannau Canolog Caerdydd

Rhannu Gwelliannau Canolog Caerdydd ar Facebook Rhannu Gwelliannau Canolog Caerdydd Ar Twitter Rhannu Gwelliannau Canolog Caerdydd Ar LinkedIn E-bost Gwelliannau Canolog Caerdydd dolen

Rydym yn cynllunio system drafnidiaeth sy'n gweithio i bawb. Fel rhan o'r rhaglen weddnewid hon, rydym yn arwain gwaith datblygu i wella gorsaf reilffordd brysuraf Cymru - Caerdydd Canolog.

Mae delweddau newydd sbon yn dangos sut y gallai Caerdydd Canolog edrych o ganlyniad i fuddsoddiad mawr i wella'r orsaf.

Gyda chyllid o hyd at £140 miliwn gan Yr Adran Drafnidiaeth, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Llywodraeth Cymru, bydd y gwelliannau arfaethedig yng ngorsaf Caerdydd Canolog yn darparu uwchraddiadau a gwelliannau sylweddol i’r orsaf.

Nod y cynllun gwella yw lliniaru gorlenwi a thagfeydd yn yr orsaf a chyflawni cynnydd hirdymor yn nifer y cwsmeriaid. Bydd hefyd yn gwella’r safle ei hun trwy drawsnewid cyfleusterau cwsmeriaid a chydweithwyr, gwella llif cerddwyr, a galluogi gwell hygyrchedd i’n cwsmeriaid â nam symudedd. Bydd y cynllun yn gwella edrychiad ac awyrgylch yr orsaf er lles y cwsmeriaid gan gadw hanes a threftadaeth yr adeilad ar yr un pryd.

Mae’r cynllun gwella gorsaf Caerdydd Canolog yn cyfrannu at fuddsoddiad sylweddol ehangach o drawsnewid trafnidiaeth yn ninas Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau adfywio uchelgeisiol. Caiff y gwaith trawsnewid ym Metro Canolog ei gyflawni drwy’r gynghrair Ganolog, sy’n bartneriaeth rhwng sefydliadau sector gyhoeddus wrthi’n cydweithio i drawsnewid trafnidiaeth yng nghalon Caerdydd. Bydd y gynghrair Ganolog yn gweithio ar y cyd i ddarparu newid trawsnewidiol i drafnidiaeth yng Nghaerdydd a’r rhanbarth ehangach er mwyn gwella cysylltiadau rhwng bysiau, trenau, cerdded, gyrru ar olwynion a seiclo ac i annog teithio cynaliadwy.

  • Rydym yn cynllunio system drafnidiaeth sy'n gweithio i bawb. Fel rhan o'r rhaglen weddnewid hon, rydym yn arwain gwaith datblygu i wella gorsaf reilffordd brysuraf Cymru - Caerdydd Canolog.

    Gwelliannau Caerdydd Canolog Cwestiynau Cyffredin

    Take Survey
    Rhannu Gwelliannau Canolog Caerdydd ar Facebook Rhannu Gwelliannau Canolog Caerdydd Ar Twitter Rhannu Gwelliannau Canolog Caerdydd Ar LinkedIn E-bost Gwelliannau Canolog Caerdydd dolen
Diweddaru: 28 Mar 2025, 02:13 PM