Mae angen i chi fod wedi mewngofnodi i ychwanegu eich sylw.

Barcio beiciau

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio i wella'r cyfleusterau i bobl sy'n beicio, a byddwn yn gweithio i wella'r mannau diogel sydd ar gael i barcio beiciau. Yn syml, mae man diogel i barcio beic yn golygu lle parcio sy'n gaeedig ac yn ddiogel. Gellid gwneud hyn trwy adeiladu sied feiciau neu greu hwb beiciau (gweler y lluniau).

Sut mae argaeledd a math o le diogel i barcio eich beic yn effeithio ar eich penderfyniad neu yn effeithio ar ba mor aml ydych chi'n defnyddio eich beic?


Mae'r ddelwedd ar y chwith yn dangos byncer metel llwyd gyda dyluniad o feic ar un pen. Mae’r byncer wedi'i leoli ar ardal balmantog y tu allan i dai preswyl. Mae'r ddelwedd ar y dde yn dangos strwythur mawr tebyg i gawell gyda llawer o feiciau wedi'u storio ynddo. Mae hon wedi'i lleoli y tu allan i res o siopau.

Chwith: Sied feiciau - uned ddiogel a all fel arfer barcio hyd at 6 beic.

Dde: Hwb beicio - ardal ddiogel fwy o faint sydd â nifer uwch o leoedd i barcio beic.

Rhannu Barcio beiciau ar Facebook Rhannu Barcio beiciau Ar Twitter Rhannu Barcio beiciau Ar LinkedIn E-bost Barcio beiciau dolen
    <span class="translation_missing" title="translation missing: cy.projects.forum_topics.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>