Beth yw Gorsaf Drafnidiaeth?

    Mae gorsaf drafnidiaeth yn gyfleuster neu leoliad lle gall pobl newid yn rhwydd a chyfleus rhwng gwahanol ddulliau teithio. Maent yn helpu pobl i wneud teithiau ar hyd y lle gan ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy yn effeithiol ac yn ddiogel. 

    Mae gorsafoedd trafnidiaeth yn hanfodol ar gyfer hwyluso rhwydwaith trafnidiaeth aml-ddull. 

    Yn achos Porth Wrecsam, y bwriad yw y bydd y cynigion hyn yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio'r bws, cerdded, olwyno neu feicio i gael mynediad i'r orsaf. Bydd hefyd yn galluogi ymwelwyr â Wrecsam sy'n cyrraedd ar y trên deithio i ben eu taith

    Beth yw amcanion yr Orsaf Drafnidiaeth ym Mhorth Wrecsam?

    Yr amcanion allweddol ar gyfer yr Orsaf Drafnidiaeth ym Mhorth Wrecsam yw:

    • Cyflwyno cyfleusterau cyfnewid gwell rhwng rheilffyrdd, bws a dulliau eraill
    • Gwell cysylltedd o ran cerdded, olwyno a beicio rhwng yr orsaf a chyrchfannau cyfagos fel canol y ddinas, Cae Ras STōK a Phrifysgol Wrecsam a chysylltu â Chynllun Gwella Teithio Llesol Ffordd yr Wyddgrug
    • Gwell profiad i ddefnyddwyr yng Ngorsaf Wrecsam Cyffredinol
    • Mwy o gapasiti i ddelio â'r cynnydd a ragwelir mewn defnyddwyr rheilffyrdd
    • Cyfleuster hygyrch o ansawdd uchel sy'n addas ar gyfer canol y ddinas, gan roi croeso deniadol i Ddinas Wrecsam. 

    Beth sydd wedi digwydd hyd yma i lywio datblygiad yr Orsaf Drafnidiaeth?

    I gael arian ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth, mae angen i ni ddatblygu achos busnes.  Yng Nghymru, mae hyn fel arfer yn cael ei wneud drwy'r broses WelTAG.  Mae'r broses yn nodi rhestr fer o opsiynau ar gyfer y cynllun (yn WelTAG 1) ac yna'n nodi opsiwn a ffefrir (yn WelTAG 2).

    Rydym wedi gwneud achos busnes WelTAG 1 a 2 o'r blaen ar gyfer Gorsaf Drafnidiaeth Porth Wrecsam.  Mae'r rhain wedi llywio datblygiad cynigion yr Orsaf Drafnidiaeth.

    Fel rhan o ddatblygiad WelTAG 2, cyflawnwyd gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd yng ngaeaf 2023.  Cafodd y safbwyntiau a fynegwyd gan randdeiliaid a'r cyhoedd ar yr adeg hon eu hystyried fel rhan o'r WelTAG 2 terfynol ac maent wedi llywio'r cynigion yr ymgynghorir arnynt nawr.

    A fydd y cynigion yn effeithio ar adeiladau Gorsaf Wrecsam Cyffredinol?

    Gorsaf Wrecsam Cyffredinol yw canolbwynt cynigion yr Orsaf Drafnidiaeth.  Mae'r cynlluniau presennol yn canolbwyntio ar yr ardal o flaen Gorsaf Wrecsam Cyffredinol sy'n cynnwys y ffordd fynediad i'r orsaf a'r maes parcio.   

    Nid oes unrhyw gynigion ar hyn o bryd ar gyfer newidiadau o fewn adeiladau'r orsaf.  Fodd bynnag, mae Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn ystyried opsiynau ar gyfer sut y gellir gwella cyfleusterau i deithwyr o fewn yr orsaf i ategu cynigion ehangach yr Orsaf Drafnidiaeth a byddant yn ceisio eich barn ar yr opsiynau hyn maes o law. 

    A fydd gwelliannau i wasanaethau rheilffordd neu fws o ganlyniad uniongyrchol i'r cynigion datblygu hyn?

    Nid oes unrhyw welliannau wedi’u cynllunio i amlder trenau neu fysiau o ganlyniad uniongyrchol i'r cynigion datblygu hyn. 

    Fodd bynnag, mae gwaith arall sy'n cael ei wneud gan Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y diwydiant rheilffyrdd yn ceisio gwella lefelau gwasanaeth yn Wrecsam Cyffredinol.  Mae hyn yn cynnwys gwella amlder gwasanaethau ar Lein y Gororau a chynyddu amlder gwasanaethau i Caer.  Disgwylir i hyn gynyddu nifer y teithwyr sy'n defnyddio Gorsaf Wrecsam Cyffredinol, felly rydym yn cynllunio'r Orsaf Drafnidiaeth i ddygymod â’r galw cynyddol hwnnw.

    Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Wrecsam a gweithredwyr bysiau i wella gwasanaethau bysiau ledled Cymru, gan gynnwys yn Wrecsam.  Mae'r Orsaf Drafnidiaeth hon yn cael ei chynllunio i ddygymod â’r cynnydd yn nifer y bysiau sy'n stopio yn yr orsaf.

    Sut mae Porth Wrecsam – Datblygiad y Dwyrain yn cysylltu â Chynllun Gwella Teithio Llesol Ffordd yr Wyddgrug?

    Mae Cynllun Gwella Teithio Llesol Ffordd yr Wyddgrug yn gynllun y mae Cyngor Wrecsam yn ei ddatblygu i wella cyfleusterau ar gyfer pobl sy'n cerdded, olwyno neu feicio ar hyd y llwybr i ganol y ddinas.

    Gan fod y llwybr hwn yn mynd heibio Porth Wrecsam – Datblygiad y Dwyrain, a dyma'r llwybr y mae llawer o bobl yn ei ddefnyddio i gael mynediad i'r orsaf, mae'n bwysig bod y ddau gynllun yn ategu ei gilydd. Mae cynigion Porth Wrecsam – Datblygiad y Dwyrain wedi'u cynllunio gydag ystyriaeth allweddol i fynediad o Ffordd yr Wyddgrug.

    Sut mae Wrexham Lager yn rhan o gynigion Porth Wrecsam – Parth Datblygu’r Dwyrain?

    Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda Wrexham Lager i archwilio'r posibilrwydd o adleoli eu bragdy i hen adeilad Jewsons i roi'r gallu iddynt ehangu eu gweithrediad i gwrdd â galw cynyddol y farchnad. Efallai eich bod wedi sylwi ar y lluniadau ac yn y naratif bod Wrexham Lager hefyd yn ymchwilio i'r posibilrwydd o adfer Siediau Cambrian wrth ochr y rheilffordd a'u troi'n far cwrw, bwyty, siop a chanolfan ymwelwyr.

    Nid oes unrhyw beth wedi'i ymrwymo iddo eto ac ni fydd y newid gweithredol yn rhan o'r Cais Cynllunio sydd ar ddod y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud ag ef, ond bydd y tir o'u cwmpas. Serch hynny, byddai gennym ddiddordeb yn eich barn ar y cynigion.

    Beth os ydw i'n meddwl am rywbeth ar ôl i'r ymgynghoriad hwn ddod i ben?

    • Mae croeso i chi anfon unrhyw ymholiadau a sylwadau pellach at dîm y prosiect yn E-bost:   Patrick.stone@spawforths.com 
    • Post: (At Sylw: Ymgynghoriad Porth Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stryd y Lampint, Wrecsam LL11 1AR)

    Os nad ydw i’n gallu bod yn bresennol yn unrhyw un o'r digwyddiadau wyneb yn wyneb ac nad ydw i am gyflwyno ymateb ar-lein, ble alla i gasglu copïau papur o'r arolwg?

    Bydd ffurflenni adborth papur yn Gymraeg a Saesneg ar gael yn y digwyddiadau galw heibio, neu gellir eu casglu yn ystod y cyfnod ymgysylltu o swyddfa docynnau Gorsaf Wrecsam Cyffredinol a Llyfrgell Wrecsam (Ffordd Rhosddu, Wrecsam LL11 1AU) o 2 Ebrill.