Llwybr cerdded, olwynio a beicio newydd arfaethedig rhwng Pont-y-pŵl a Brynbuga trwy Mamhilad a Little Mill
Dweud Eich Dweud ar lwybr cerdded, olwynio a beicio newydd
Mae Trafnidiaeth Cymru, tîm Rhwydwaith Ffyrdd Strategol Llywodraeth Cymru a Chynghorau Bwrdeistref Sirol Torfaen a Sir Fynwy yn cydweithio i ddarparu llwybr newydd diogel a hygyrch y gall pawb yn y gymuned ei ddefnyddio i gerdded, olwynio neu feicio i gyrchfannau rhwng Pont-y-pŵl yn Nhorfaen drwodd i Frynbuga yn Sir Fynwy.
Mae'r llwybr newydd arfaethedig yn cysylltu Pont-y-moel, gorsaf Pont-y-pŵl a New Inn, Ystad Parc Mamhilad, Little Mill, Coedymynach, Radur ac Ynys Brynbuga, gan gynnig mwy o opsiynau teithio rhwng ysgolion a cholegau, gwasanaethau lleol, canolfannau cyflogaeth a'r gymuned ehangach.
Bydd gallu cerdded, olwynio a beicio’n hawdd ac yn ddiogel ar hyd y llwybr yn darparu dewis arall iach, gwyrdd a chyfleus i gymunedau yn lle defnyddio’r car ar gyfer rhai teithiau, gan leihau traffig a gwella ansawdd aer lleol.
Ein cynllun yw dylunio ac adeiladu llwybr llesol pwrpasol o ansawdd uchel, sy'n rhedeg yn uniongyrchol ochr yn ochr â'r prif ffyrdd sy'n cysylltu gorsaf Pont-y-pŵl a New Inn ag Ynys Brynbuga (yr A4042 a'r A472). Bydd yn rhydd o draffig cerbydau, gan roi'r hyder i feicwyr, cerddwyr a phobl sy'n teithio ar olwynion yn rheolaidd a’r rheini sy’n newydd i’r dulliau teithio llesol hyn i ddefnyddio'r llwybr.
Rydym am glywed gan drigolion ac ymwelwyr â'r ardal am eu barn ar y dyluniad a'r llwybr arfaethedig fel ei fod yn diwallu anghenion pawb sydd am ei ddefnyddio, cyn belled ag y bo modd.
Cewch Ddweud Eich Dweud, drwy gwblhau ein harolwg byr a fydd yn ein helpu i roi eich barn yn ôl i'r timau dylunio a pheirianneg sy'n bwrw ymlaen â'r prosiect hwn. Bydd hyn yn sicrhau y bydd eich barn yn cael ei hystyried yn nyluniad terfynol y cynllun.
Os na allwch gwblhau'r arolwg, cysylltwch â: engagement@tfw.wales.
Bydd yr arolwg ar agor rhwng 13 – 27 Hydref 2025.
I gael gwybod mwy am y llwybr arfaethedig newydd, rydym hefyd yn cynnal cyfres o sesiynau galw heibio ledled Torfaen a Sir Fynwy lle cynigir gwybodaeth a lle bydd cynlluniau a mapiau'r llwybr newydd yn cael eu dangos, gyda staff wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â'r cynigion.
14 Hydref | Coleg Gwent, Campws Brynbuga | 10.30 - 13.30 |
15 Hydref | Ystâd Parc Mamhilad | 11.00 - 17.30 |
16 Hydref | Neuadd Bentref Little Mill | 14.00 - 18.30 |
18 Hydref | Clwb Rygbi Panteg Newydd | 13.30 - 17.00 |
20 Hydref | Canolfan Gymunedol a Llyfrgell Brynbuga | 11.00 - 14.00 |
Mae cyllid ar gyfer y llwybr newydd hwn wedi'i gadarnhau hyd at y cam dylunio er mwyn helpu i ddatblygu'r cynllun a chefnogi ceisiadau am gyllid yn y dyfodol.
Galwch heibio rhwng 10:30 a 13:30 i fwrw golwg ar y cynlluniau ar gyfer llwybr gweithredol newydd rhwng Pont-y-pŵl a Brynbuga
Am ragor o wybodaeth, ewch i: dweudeichdweud.trc.cymru