Cwestiynau cyffredin
Beth yw WelTAG ac ym mha gyfnod yw'r prosiect ar hyn o bryd?
WelTAG (Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) yw proses Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu ac asesu prosiectau trafnidiaeth er mwyn sicrhau eu bod nhw'n dod i'r afael ag anghenion gwirioneddol, yn cyflawni gwerth am arian ac yn cyfrannu at nodau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach. Mae'n darparu dull sydd wedi'i strwythuro o nodi problem i gyflawni prosiect a'i werthuso.
Mae prosiect Porth Bangor bellach yng nghyfnod 2 WelTAG (Achos Busnes Amlinellol). Yn y cyfnod hwn, caiff rhestr fer o opsiynau eu hasesu mewn mwy o fanylder er mwyn nodi'r dewis a ffafriwyd, gan gynnwys ystyried costau, buddion, y gallu i'w gyflawni ac effeithiau tebygol. Mae hyn yn dilyn Cam 0 (Achos am Newid) a Chyfnod 1 (Achos Amlinellol Strategol) ac mae'n dod cyn Cyfnod 3 (Achos Busnes Llawn), Cam 4 (Cyflenwi) a Chyfnod 5 (Monitro a Gwerthuso).
Mewn termau syml, mae Cyfnod 2 yn meddwl bod y prosiect wedi symud y tu hwnt i nodi'r angen a'r opsiynau posib, ac mae bellach yn datblygu'r dystiolaeth sydd ei hangen er mwyn dethol cynllun a ffafriwyd cyn cael ei gymeradwyo er mwyn symud ymlaen at ddylunio manwl a chyflenwi.
Pam ofynir am adborth gen i a beth sy'n digwydd nesaf?
Rydyn ni'n chwilio am adborth er mwyn helpu i lywio dyfodol gorsaf drenau Bangor a sicrhau bod y cynigion yn adlewyrchu anghenion y bobl sy'n defnyddio'r orsaf a'r ardal o'i chwmpas. Bydd adborth cyhoeddus yn ein helpu ni i ddeall patrymau teithio cyfredol, nodi blaenoriaethau lleol ac asesu pa opsiynau sy'n gwella mynediad orau, cyfnewidiad, hygyrchedd, parcio, ac amgylchedd cyffredinol yr orsaf.
Caiff eich safbwyntiau eu hystyried ochr yn ochr ag asesiadau technegol a nodau'r prosiect fel rhan o'r broses WelTAG i helpu i nodi opsiwn a ffafriwyd a all gael ei gymryd ymlaen at y cyfnod cyflenwi dros y blynyddoedd i ddod.
Pam ydy gwelliannau yng ngorsaf drenau Bangor yn cael eu hystyried?
Mae gorsaf drenau Bangor yn ganolfan drafnidiaeth allweddol ar gyfer gogledd-orllewin Cymru a dyma'r orsaf brysuraf yng ngogledd Cymru, gan wasanaethau tua 720,000 o gwsmeriaid bob blwyddyn. Mae'n rhoi mynediad at wasanaethau trenau, yn cysylltu â rhwydweithiau bws rhanbarthol ac yn cefnogi mynediad at Brifysgol Bangor, can y ddinas, a chyrchfannau ar gyfer ymwelwyr eraill ar draws y rhanbarth. Dyma'r prif borth trenau i Wynedd ac Eryri, ac mae'n gyfnewidfa bwysig ar gyfer teithio ymlaen ar draws y rhanbarth.
Er gwaethaf ei phwysigrwydd strategol, nid yw'r orsaf na'r ardal o'i hamgylch yn dod a'r profiad pleserus a ddisgwylir gan brif ganolfan drafnidiaeth ranbarthol. Mae ffyrdd a mannau parcio yn amgylchynu’r orsaf gan greu pwynt cyrraedd annymunol i ymwelwyr, myfyrwyr, a phreswylwyr. Mae'r arwyddion o ansawdd gwael, sy'n ei gwneud hi'n anodd i gwsmeriaid ddod o hyd i'r ffordd rhwng yr orsaf, canol y ddinas, y brifysgol a chyrchfannau allweddol eraill. Nid yw gwasanaethau bws na threnau wedi'u hintegreiddio'n dda, ac mae cyfleusterau addas ar gyfer cerdded, olwynio a beicio yn gyfyngedig, sy'n lleihau cyfleoedd ar gyfer teithio cynaliadwy. Bydd hefyd angen i'r orsaf fod yn addas ar gyfer cynnydd mewn niferoedd o gwsmeriaid yn y dyfodol wrth i wasanaethau trên cynyddu ar draws y gogledd.
Mae'r prosiect Porth Bangor yn rhoi'r cyfle i drawsnewid yr orsaf i mewn i borth i mewn i Fangor, Eryri, a'r rhanbarth ehangach. Gallai gwelliannau arfaethedig greu man cyhoeddus mwy deniadol, gwella cysylltiadau rhwng trenau, bysiau, a llwybrau cerdded a beicio, yn ogystal â gwella cyfleusterau ar gyfer gwasanaethau coetsis, a chynyddu capasiti ar gyfer parcio er mwyn gwella dalgylch ehangach yr orsaf. Mae'r prosiect hefyd yn cefnogi uchelgeisiau ehangach ar gyfer Rhwydwaith Gogledd Cymru, gan helpu gorsaf drenau Bangor i chwarae rôl gryfach mewn cysylltu pobl i swyddi, addysg, twristiaeth, a thrafnidiaeth gyhoeddus ar draws y rhanbarth.
Beth yw amcanion y prosiect?
Mae gan brosiect Porth Bangor pedwar amcan sy'n ymateb yn uniongyrchol i'r materion a nodwyd yng ngorsaf drenau Bangor a'r cyfleoedd i gryfhau 'i rôl fel canolfan drafnidiaeth ranbarthol.
1. Creu amgylchedd yn yr orsaf sy'n ddeniadol ac yn groesawgar
Cyd-destun: Ar hyn o bryd, mae'r orsaf yn rhoi argraff gyntaf gwael, gyda llawer o'r ardal ar gyfer parcio a mynd a dod cerbydau, tir y cyhoedd cyfyngedig a diffyg manna deniadol ar gyfer cwsmeriaid ac ymwelwyr. Mae gwella amgylchedd yr orsaf yn rhoi'r cyfle i greu porth sy'n adlewyrchu pwysigrwydd Bangor a phorth i Eryri.
2. Gwella mynediad pob dull teithio at y rhwydwaith trenau yng ngorsaf drenau Bangor
Cyd-destun: Mae'r trefniadau cyfnewid cyfredol yn dameidiog, nid yw cysylltiadau bws na thrên wedi'u hintegreiddio'n dda, ac nid yw mynediad at yr orsaf yn cefnogi dalgylch rhanbarthol ehangach yr orsaf. Bydd gwella mynediad yn helpu Bangor i allu cefnogi twf cwsmeriaid yn y dyfodol a chefnogi uchelgeisiau ehangach rhaglen Rhwydwaith Gogledd Cymru.
3. Gwella cysylltedd cerdded, olwynio, a beicio drwy gydol cwmpas yr orsaf
Cyd-destun: Gall llwybrau cerdded a beicio cyfredol o fewn cwmpas yr orsaf fod yn anodd dod o hyd iddynt ac nid oes arwyddion da ychwaith. Mae yna hefyd seilwaith beicio cyfyngedig. Bydd gwelliannau'n helpu i greu teithiau mwy diogel, cyfleus a hygyrch, gan wella diogelwch a phrofiad y cwsmer yng ngorsaf drenau Bangor.
4. Gwella cyfleusterau ar gyfer gwasanaethau coetsis yng ngorsaf drenau Bangor
Cyd-destun: Bydd gorsaf drenau Bangor yn dod yn derminws i wasanaeth TaithCymru, gan ddarparu gwasanaeth coetsis uniongyrchol i Gaerfyrddin drwy gyrchfannau allweddol ar draws gorllewin Cymru. Er y gall hyn gael ei gyflawni yn yr orsaf gyfredol, byddai gwelliannau i gyfleusterau yn gwella profiad y cwsmer i gwsmeriaid y rheilffordd, bysiau, a choetsis.
A fydd gwasanaethau bysiau neu drenau newydd yn cael eu cynnwys yn y cynigion hyn?
Na. Pwrpas y cynigion yng ngorsaf drenau Bangor yw gwella profiad y cwsmer yn y gyfnewidfa drafnidiaeth allweddol hon, gan gyd-fynd a gwasanaethau trenau a bysiau cyfredol sy'n gwasanaethu'r safle.
Dylid nodi, fel rhan o Rwydwaith Gogledd Cymru, y gwnaeth gwasanaethau trên ar hyd Prif Lein Gogledd Cymru gynyddu tua 50% ym mis Mai 2026.
Yn ogystal, mae yna gynlluniau i fasnachfreinio'r rhwydwaith bysiau erbyn 2029 yng ngogledd Cymru, gydag ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y rhwydwaith bysiau yng ngogledd Cymru ym mis Medi 2026. Mae masnachfreinio gwasanaethau bysiau yn galluogi Llywodraeth Gymru a Trafnidiaeth Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch gwasanaethau bws yng Nghymru, gan gynnwys llwybrau, amserlenni, prisiau, oriau gweithredu, a safonau ansawdd y gwasanaeth, mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol. Byddai gweithredwyr bws preifat yn gwneud cynnig am gontractau i redeg gwasanaethau i gyd-fynd a'n manyleb ni, gan ein galluogi ni i sicrhau fod y rhwydwaith bysiau yn gwasanaethu cymunedau, a lleoedd gwaith ac addysg, yn well.
Ceir rhagor o wybodaeth ar y cynllun ar gyfer masnachfreinio bysiau ar ein gwefan gan ddilyn y ddolen hon: Masnachfreinio bysiau | Trafnidiaeth Cymru
Pam ydy'r rhan fwyaf o'r opsiynau i gefn (ochr ddeheuol) yr orsaf yn cynnwys mynediad newydd drwy Heol Euston?
Mae'r mynediad cyfredol sydd yng nghefn (ochr ddeheuol) yr orsaf yn gul ac ni ellir gweld Heol Caernarfon yn dda o'r man hwnnw. Mae hyn yn broblem o ran mynediad coetsis yn bennaf, gan fod cynnig ar gyfer safle coetsis ar gyfer y gwasanaeth TaithCymru, yng nghefn (ochr ddeheuol) yr orsaf.
I alluogi mynediad, ac i ddarparu gwell fynediad ar gyfer cwsmeriaid i'r orsaf, mae mynediad newydd sy'n cysylltu â Heol Euston wedi'i gynnig. Bydd y ffordd hon yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer cerddwyr a beicwyr, sy'n cyd-fynd a dyheadau'r dyfodol i ehangu'r rhwydwaith teithio llesol tuag at Ysbyty Gwynedd i'r gorllewin.
Beth yw TaithCymru?
Mae TaithCymru yn wasanaeth coets pellter hir newydd arfaethedig a fydd yn cysylltu Bangor a Chaerfyrddin, gyda safleoedd yn cynnwys Caernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth, ac Aberaeron. Bwriad y gwasanaeth yw darparu ffordd gyflymach, symlach a mwy cyfforddus i deithio rhwng gogledd a de-orllewin Cymru, gyda'r disgwyl i deithiau para dros awr yn llai na'r opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus cyfredol. Bydd hefyd yn cysylltu â gwasanaethau trên, bws lleol, a TrawsCymru, gan hwyluso teithiau hirach ledled Cymru a'u gwneud nhw'n fwy cyfleus.
Mae TaithCymru yn hynod o bwysig i orsaf drenau Bangor, gan dyma fydd y brif gyfnewidfa yn ogystal â'r pwynt lle bydd y daith yn dod i ben yn y gogledd. Bydd hyn yn cryfhau rôl yr orsaf fel porth trafnidiaeth gyhoeddus y rhanbarth, gan gysylltu cymunedau ar draws Gwynedd ac Ynys Môn gyda chyrchfannau drwy gydol canolbarth a de-orllewin Cymru.
Mae'r gwasanaeth yn cefnogi uchelgais prosiect Porth Bangor o greu canolfan drafnidiaeth integredig well. Bydd hefyd yn helpu i gysylltu mwy o bobl â mannau gwaith, addysg, gofal iechyd, a thwristiaeth gan annog pobl i osgoi defnyddio'r car a chefnogi twf mewn cwsmeriaid yn yr orsaf yn y dyfodol.
Bwriedir lansio'r gwasanaeth TaithCymru ym mis Hydref 2026.
Beth yw Rhwydwaith Gogledd Cymru ?
Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru yn darparu gweledigaeth strategol ar gyfer trawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y rhanbarth. Mae'n weledigaeth hirdymor, gwerth biliynau o bunnoedd a arweinir gan Trafnidiaeth Cymru er mwyn creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig ar draws gogledd Cymru. Bydd y rhaglen yn rhoi gwasanaethau trên mwy rheolaidd ar waith ac yn creu cysylltiadau bws a choets newydd, gorsafoedd gwell, system docynnau fwy syml, gwell gysylltiadau i ganolfannau gwaith mawr, a chysylltiadau gwell gyda gogledd-orllewin Lloegr a gweddill Cymru. Wrth wraidd yr uchelgais yw'r bwriad o greu rhwydwaith cysylltiedig lle bod trenau, bysiau, cerdded, olwynio a beicio yn dod ynghyd er mwyn hwyluso teithio cynaliadwy a gwneud yr opsiynau hyn o deithio yn rhai sy'n fwy deniadol.
Mae'r rhaglen eisoes wedi gweld cynnydd o 50% mewn gwasanaethau ar Brif Lein gogledd Cymru ym mis Mai 2026, gan greu cysylltiadau mwy cyflym a rheolaidd gwsmeriaid sy'n teithio ar draws y rhanbarth a thu hwnt. Disgwylir i hyn gynyddu'r niferoedd o gwsmeriaid a chryfhau rôl gorsaf drenau Bangor fel porth i ogledd-orllewin Cymru.
Caiff prosiect Porth Bangor ei ddatblygu fel elfen allweddol o Rwydwaith Gogledd Cymru, drwy gefnogi uchelgeisiau ehangach i wella mynediad at swyddi, addysg, twristiaeth, a gwasanaethau lleol, gan annog dewisiadau teithio mwy cynaliadwy hefyd.