Ble mae'r cynllun wedi'i leoli?

    Lleolir y cynllun yn Ninas Bangor yng Ngwynedd. Mae ardal yr astudiaeth yn cynnwys ffiniau'r Orsaf a'r rhwydwaith priffyrdd cyfagos, gan gynnwys tanffordd Ffordd Caernarfon a'r system gylchu i'r Gogledd. Mae ardal yr astudiaeth yn cyfateb i 'Ardal yr Orsaf' a gafodd ei chyflwyno gyda dogfen 'Uwchgynllun Dinas Bangor' Cyngor Gwynedd, a gyhoeddwyd yn 2019.

    Beth yw 'WelTAG'?

    Mae cynllun Prosiect Porth Bangor Ardal yr Orsaf yn cael ei ddatblygu trwy ddefnyddio WelTAG (arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru). Ar hyn o bryd, rydym ar Gam 2 WelTAG (Achos Busnes Amlinellol). Mae canllawiau WelTAG 2022 yn nodi proses a fframwaith eang ar gyfer nodi, arfarnu a gwerthuso atebion i fynd i'r afael â materion sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth. Mae'n helpu i nodi'r cynllun mwyaf buddiol ac yn caniatáu i gynlluniau gael eu cymharu ar sail debyg â’i debyg.

    Mae proses WelTAG yn cynnwys pum cam y bwriedir iddynt gwmpasu cylch bywyd cynllun trafnidiaeth arfaethedig, o’r cysyniad i werthuso ar ôl gweithredu.

    Dyma bum cam WelTAG:

    • Cam Un – Achos Amlinellol Strategol
    • Cam Dau – Achos Busnes Amlinellol (rydym ar y cam hwn)
    • Cam Tri – Achos Busnes Llawn
    • Cam Pedwar – Gweithredu
    • Cam Pump – Ar ôl Gweithredu (Monitro a Gwerthuso)

    Pam Bangor?

    Bangor yw'r orsaf brysuraf ar hyd y brif reilffordd yng Ngogledd Cymru, gyda ffigur amcangyfrifedig o 624,926 o bobl (2019) yn cyrraedd/gadael yn flynyddol.

    Mae'r Orsaf hefyd yn fan cyfnewid allweddol ar gyfer cysylltiadau â chyrchfannau ar draws Gogledd-orllewin Cymru, er enghraifft gwasanaethau bysiau tuag at ddwyrain Ynys Môn, Eryri, Caernarfon a thu hwnt. Nodwyd cyfle mewn partneriaeth â rhanddeiliaid i wella’r cyfleusterau cyfnewid hyn, wrth ddatblygu’r sylfeini a ddarparwyd fel rhan o Uwchgynllun Dinas Bangor 2019.

    Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen ehangach Metro Gogledd Cymru, sy'n ceisio datblygu rhwydwaith trafnidiaeth aml-ddull wedi'i drawsnewid, sy'n addas ar gyfer gofynion cyfoes Gogledd Cymru. O ganlyniad, mae nifer o brosiectau tebyg ar wahanol gamau datblygu y bydd ymarferion ymgysylltu tebyg ar eu cyfer yn cael eu cyhoeddi ar y tudalennau hyn.

    Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?

    Hyd yn hyn, mae’r prosiect wedi symud ymlaen drwy Achos Strategol Cam Un WelTAG a ddatblygodd 'achos dros newid' yn seiliedig ar y rhwystrau a'r cyfleoedd presennol yng Ngorsaf Bangor mewn partneriaeth â chynrychiolwyr rhanddeiliaid o bob rhan o'r Ddinas a'r rhanbarth ehangach.

    Rydym bellach wedi cyrraedd y pwynt pan rydym eisiau dechrau datblygu atebion i'r materion hyn sy'n manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd. Byddem yn croesawu syniadau ac awgrymiadau fel rhan o'r broses ymgysylltu hon i helpu i gyfrannu at y cynlluniau.

    Pam y mae angen y cynllun hwn?

    Mae cyfiawnhad y cynllun yn seiliedig ar yr 'Achos dros Newid' a ddatblygwyd yn Achos Strategol Cam Un WelTAG. Amlygodd hyn rai o'r rhwystrau presennol i deithwyr:

    • Ceir sy’n cael y lle blaenllaw yn yr orsaf ac mae opsiynau cerdded a beicio yn gyfyngedig.
    • Mae Llinell Metro Gogledd Cymru yn achosi problemau gwahanu ardaloedd i ddefnyddwyr yng nghyffiniau Gorsaf Reilffordd Bangor.
    • Diffyg adnoddau parcio beiciau yn yr orsaf neu'r cyffiniau, diffyg llwybrau cerdded a beicio diogel a deniadol.
    • Mae arwyddion dynodi llwybrau ac arwyddion cyffredinol yn wael.
    • Mae’r rhwydwaith priffyrdd yn ddryslyd ac yn llawn tagfeydd; mae defnyddwyr y rheilffyrdd yn teithio i'r orsaf mewn ceir gan ychwanegu at dagfeydd.
    • Cyfnewid gwael rhwng bysiau a rheilffyrdd; diffyg gwybodaeth amserlenni er mwyn cysylltu â gwasanaethau bysiau o'r orsaf.
    • Gallai datblygiadau arfaethedig ar gyfer y dyfodol gynyddu'r galw am deithio o fewn ardal yr astudiaeth.
    • Mae'r ardal ehangach yn cynnwys rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
    • Mae elfennau o Orsaf Reilffordd Bangor yn enghreifftiau gwael o greu lleoedd  sy’n anneniadol i ymwelwyr (goleuadau a thir y cyhoedd gwael, adfeiliedig ac mewn cyflwr gwael).

    Amlygodd yr Achos dros Newid gyfleoedd hefyd sy'n gysylltiedig â’r canlynol:

    • Cyfleusterau teithio a llwybrau teithio llesol gwell.
    • Arwyddion dynodi llwybrau ac arwyddion cyffredinol gwell yng nghyffiniau'r orsaf ac i/o gyrchfannau ym Mangor / Gwynedd.
    • Cysylltedd bysiau gwell, gan gynnwys blaenoriaeth i fysiau a chysylltiadau i/o Orsaf Reilffordd Bangor i ardal ehangach.
    • Datblygu tir â photensial mawr sy’n wag ac wedi’i danddefnyddio yng nghyffiniau'r orsaf – uchelgais Cymru’r Dyfodol 2040.
    • Bydd gwelliannau i seilwaith trafnidiaeth yn cefnogi buddsoddiad economaidd, adfywio (gan gynnwys gwaith adfywio ehangach sy'n cael ei archwilio gan Gyngor Gwynedd), hyrwyddo twristiaeth a chynwysoldeb cymdeithasol.

    Y nod yw hyrwyddo cynllun sy'n ceisio datrys yr adborth mewn cysylltiad â'r problemau a nodwyd, yn ogystal ag elwa i’r eithaf ar y manteision a ddarperir gan y cyfleoedd a awgrymir. Byddem yn awyddus i glywed am eich profiadau chi o ran a ydych chi'n credu bod y rhain yn gywir ar sail eich profiadau chi ym Mangor, ac a ydych chi’n credu y dylem fod yn ystyried problemau/cyfleoedd ychwanegol yn gysylltiedig â'ch profiadau.

    Beth sy'n digwydd i fy adborth a fy sylwadau?

    Bydd y sylwadau'n cael eu hystyried fel rhan o'r camau nesaf tuag at ddatblygu cynlluniau cysyniadol o atebion/gwelliannau posibl. Byddant yn cael eu hystyried ochr yn ochr â'r amcanion, achos dros newid a pholisïau/dyheadau cenedlaethol, rhanbarthol, a lleol i lunio rhestr fer o’r opsiynau sydd â’r nod o ddatrys y materion yn y ffordd orau a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd.

    Yn unol â chanllawiau WelTAG, bydd iteriadau’r opsiynau hyn yn cael eu harfarnu yn seiliedig ar eu cyfraniad tuag at nodau/polisïau eraill a sgil-effeithiau posibl (er enghraifft, nid ydym eisiau datrys un broblem sy'n creu 10 arall)

    Bydd yr opsiynau’n cael eu harfarnu o’u cymharu â senario 'gwneud y lleiaf posibl’, fel y gellir gwneud penderfyniad cymharol ynghylch a oes modd cyfiawnhau cynllun o’i gymharu ag unrhyw effeithiau posib.

    Beth pe bawn i’n meddwl am rywbeth ar ôl i'r rownd hon o ymgysylltu gau? A fyddaf yn cael cyfle i wneud sylw ar y cynlluniau ar ôl iddynt gael eu cynnig?

    Byddwch, ar yr amod bod y cynllun yn cael ei fwrw ymlaen byddem yn rhagweld ymgynghoriad cyhoeddus ar iteriadau’r opsiynau cyn bwrw ymlaen ag un cynllun manwl (a allai fod yn gyfuniad o elfennau gorau nifer o opsiynau).

    Byddai gofyn hefyd i'r cynllun ddilyn unrhyw brosesau statudol yn gysylltiedig â gofynion cynllunio er enghraifft.

    Pwy sy'n gyfrifol, yn y pen draw, am benderfynu ar y gwelliannau arfaethedig i Orsaf Bangor a'r llwybrau cyfagos?

    Bydd y penderfyniad terfynol i fwrw ymlaen â’r cynllun terfynol a argymhellir neu beidio yn cael ei wneud gan yr awdurdod/tirfeddiannwr perthnasol ar gyfer ardal yr astudiaeth, yn ogystal â chyllidwr a nodwyd.

    Fel y partner datblygu, cyfrifoldeb Trafnidiaeth Cymru yw datblygu'r cynllun mewn modd sy'n lliniaru’r risgiau posibl, drwy ddarparu achosion tystiolaeth dibynadwy a chadarn sy'n amlinellu'r manteision a'r risgiau y tu ôl i bob opsiwn – gyda'r bwriad bod y rhain yn gweithredu fel sail ddibynadwy i awdurdodau perthnasol benderfynu pa un ai bwrw ymlaen â chynllun neu beidio, yn ogystal â gweithredu fel sail dda i wneud cais am gyllid cyfalaf.

     

    Drwy ymgysylltu â'r cynlluniau yn y cyfnod cynnar hwn, y gobaith yw y bydd hyn yn lliniaru risg o'r fath ac yn osgoi costau ofer a allai ddeillio o newidiadau sylweddol i’r cynllun yn ystod camau diweddarach y prosiect.

    Beth pe bai parti sy'n gyfrifol am benderfyniad terfynol yn penderfynu nad yw eisiau symud y prosiect yn ei flaen bellach?

    Mae'r astudiaeth yn cael ei datblygu ar y cyd rhwng y tirfeddianwyr perthnasol a'r awdurdodau terfynol ar gyfer pob un o'r adrannau. Er mwyn lliniaru’r risg o barti yn methu â chytuno ar y ffordd i fwrw ymlaen â phrosiect, mae ardal yr astudiaeth wedi'i rhannu i gydnabod y gallai rhai elfennau o'r cynllun gael eu bwrw ymlaen yn gyflymach nag eraill.