Cwestiynau Cyffredin
Ym mhle mae Porth y Gorllewin a pham mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal?
Safle Porth y Gorllewin yw’r llain o dir sydd heb ei datblygu hyd yma rhwng swyddfeydd Moneypenny a’r A483, i’r gorllewin o ganol dinas Wrecsam. Mae’r safle yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal er mwyn nodi gwelliannau trafnidiaeth yn yr ardal leol a all gael eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod modd datblygu safle Porth y Gorllewin fel datblygiad cyflogaeth enghreifftiol. Mae’r prosiect yn ystyried mynediad drwy bob dull teithio, gyda ffocws penodol ar nodi mesurau i wella mynediad drwy ddulliau teithio cynaliadwy (cerdded, beicio, olwyno, a thrafnidiaeth gyhoeddus).
Beth yw WelTAG?
Mae prosiect Porth y Gorllewin yn cael ei ddatblygu drwy WelTAG, sef Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Defnyddir WelTAG i gynnig arweiniad wrth ddatblygu ac arfarnu ymyriadau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth ac mae ei angen er mwyn sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae’r arweiniad yn galluogi cynllunwyr trafnidiaeth i gymharu cynigion gwahanol ar sail tebyg am debyg, gan ei gwneud hi’n haws nodi’r cynllun mwyaf buddiol.
Rydym yn cynnal WelTAG Byr, lle mae Camau 1-3 yn cael eu cynnwys mewn un adroddiad. Mae rhestr o gynlluniau a ffefrir ar gyfer datblygu/gweithredu pellach yn cael ei nodi hefyd. Mae WelTAG yn cynnwys 5 cam, y bwriedir iddynt gwmpasu cylch oes ymyriad trafnidiaeth arfaethedig, o’r dechrau’n deg i fonitro a gwerthuso llwyddiant y cynllun.
Beth yw Bargen Twf y Gogledd?
Mae Bargen Twf y Gogledd yn gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i fuddsoddi mwy nag £1 biliwn yng Ngogledd Cymru dros 15 mlynedd (hyd at 2036), gan gynhyrchu dros 4000 o swyddi newydd a £2.4 biliwn i’r economi. Wedi’i lofnodi ym mis Rhagfyr 2020, mae’r cytundeb yn sicrhau gwerth £120 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru a gwerth £120 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i fuddsoddi ym mhortffolio prosiectau’r Fargen Twf.
Mae safle Porth y Gorllewin, Wrecsam yn rhan o bortffolio Tir ac Eiddo Bargen Twf y Gogledd, sy'n cynnwys ymrwymiad o £9miliwn i fuddsoddi yn y safle. Diben y rhaglen hon yw mynd i’r afael â heriau a wynebir yn y rhanbarth o ran tir ac eiddo er mwyn datgloi cyfleoedd a darparu eiddo preswyl a safleoedd cyflogaeth.
Fel safle lleol allweddol, a yw Ysbyty Maelor Wrecsam yn gysylltiedig â’r prosiect?
Mae gweithgarwch ymgysylltu wedi bod drwy gydol y prosiect gyda chynrychiolwyr o Ysbyty Maelor Wrecsam er mwyn sicrhau na fydd unrhyw effaith negyddol ar fynediad i’r safle allweddol hwn.
Pam mae angen adborth gennyf a sut y caiff ei ddefnyddio?
Bydd eich adborth yn cael ei ystyried er mwyn llywio’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer gwelliannau ar safle Porth y Gorllewin ac yn yr ardal o’i amgylch. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod y cynigion sy’n cael eu datblygu yn gyson â disgwyliadau’r cyhoedd ac yn canolbwyntio ar y meysydd â’r flaenoriaeth uchaf.
Beth os byddaf yn meddwl am rywbeth ar ôl i’r cylch ymgysylltu hwn ddod i ben?
Ar yr amod bod y cynllun yn cael ei ddatblygu, byddem yn rhagweld gweithgarwch ymgynghori pellach â’r cyhoedd yn crynhoi canfyddiadau astudiaeth WelTAG Byr a’r mesurau arfaethedig sy’n cael eu datblygu. Hefyd, byddai angen i’r cynllun ddilyn unrhyw brosesau statudol sy’n gysylltiedig â gofynion cynllunio, er enghraifft, os ydynt yn berthnasol.
Mae croeso i chi anfon unrhyw sylwadau ac ymholiadau pellach at dîm y prosiect yn PorthWesternGateway@wsp.com, tan ddiwedd mis Ebrill 2025.
Os na allaf ddod i unrhyw ddigwyddiadau yn bersonol ac nad wyf am gyflwyno ymateb ar-lein, ym mhle y gallaf gasglu copïau papur o’r arolwg?
Bydd copïau papur o’r arolygon ar gael i’w casglu o Llyfrgell Wrecsam (Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1AU), o dydd Mercher, 12 Chwefror.
Gallwch chi gwblhau’r arolwg yn y lleoliad uchod a phostio’r arolwg wedi’i gwblhau yn y blwch diogel ar gyfer arolygon.
Fel arall, gallwch chi ddychwelyd eich arolwg wedi’i gwblhau yn y post i Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, De Ffordd yr Abaty, Wrecsam, LL13 9PW, neu drwy e-bost i PorthWesternGateway@wsp.com.
Sut allaf ofyn am gopi o’r arolwg mewn print bras?
Gallwch chi ofyn am gopi o’r arolwg mewn print bras o PorthWesternGateway@wsp.com.