Rhwydwaith Bysiau

Rhannu Rhwydwaith Bysiau ar Facebook Rhannu Rhwydwaith Bysiau Ar Twitter Rhannu Rhwydwaith Bysiau Ar LinkedIn E-bost Rhwydwaith Bysiau dolen

Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn gweithio i ddiwygio ac ailgynllunio’r rhwydwaith bysiau presennol, yn bennaf drwy fasnachfreinio bysiau. Mae ein rownd gyntaf o adborth ar sut y dylem ymgysylltu ar fasnachfreinio bysiau bellach wedi cau. Yn ddiweddarach eleni, ein nod yw dechrau ymgysylltu â’r cyhoedd a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i’n helpu i gynllunio’r cam nesaf hwn a chael pobl i gymryd rhan.

Darllenwch fwy am pam mae Llywodraeth Cymru eisiau newid y gyfraith ynghylch masnachfreinio bysiau: Diwygio’r bysiau yng Nghymru: ein map ffordd i fasnachfreinio | LLYW.CYMRU

Mae Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru yn gweithio i ddiwygio ac ailgynllunio’r rhwydwaith bysiau presennol, yn bennaf drwy fasnachfreinio bysiau. Mae ein rownd gyntaf o adborth ar sut y dylem ymgysylltu ar fasnachfreinio bysiau bellach wedi cau. Yn ddiweddarach eleni, ein nod yw dechrau ymgysylltu â’r cyhoedd a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i’n helpu i gynllunio’r cam nesaf hwn a chael pobl i gymryd rhan.

Darllenwch fwy am pam mae Llywodraeth Cymru eisiau newid y gyfraith ynghylch masnachfreinio bysiau: Diwygio’r bysiau yng Nghymru: ein map ffordd i fasnachfreinio | LLYW.CYMRU

  • WEDI CAU: Mae'r arolwg hwn wedi dod i ben

    Rydym am i chi ein helpu i ddeall beth sy'n bwysig i chi am fws yn eich cymuned a sut yr hoffech ddweud eich dweud. 

    Mae Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda gweithredwyr bysiau a rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru i ddiwygio ac ailgynllunio'r rhwydwaith bysiau presennol. 

    Gwyddom nad yw'r rhwydwaith a'r gwasanaeth presennol yn diwallu anghenion cymunedau Cymru, yn enwedig y rhai yn y De-orllewin, lle nad yw mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael mor rhwydd nac mor hygyrch. 

    Mae'r system ddadreoleiddio bresennol yn caniatáu i weithredwyr redeg gwasanaethau bysiau yn fasnachol. Mae hyn yn golygu bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am ariannu a darparu gwasanaethau bysiau sydd eu hangen ar gymdeithas. Mae'r system bresennol yn ei gwneud yn anodd dod â gwasanaethau bysiau masnachol a chymdeithasol angenrheidiol at ei gilydd mewn ffordd sy'n rhoi'r cwsmer wrth wraidd y rhwydwaith bysiau. Felly mae'n bwysig ein bod yn cymryd camau i gywiro hyn, gan ddod â gwasanaeth bysiau modern, dibynadwy, fforddiadwy, cysylltiedig ac integredig i'r rhanbarth drwy broses fasnachfreinio.  

    Er mwyn denu mwy o bobl i ddefnyddio bysiau, rydym am adeiladu rhwydwaith bysiau symlach sydd wedi'i gysylltu â gweddill trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac sy'n hawdd ei lywio (Un Rhwydwaith), gydag amserlenni cydgysylltiedig sy'n hawdd eu defnyddio ac sy'n caniatáu cysylltiad ar draws trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru (Un Amserlen) a thocynnau symlach sy'n galluogi teithio ar draws trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru gyda phrisiau fforddiadwy a chyson (Un Tocyn).  

    Mae'r Bil Diwygio Bysiau yn mynd drwy'r Senedd ac rydym yn anelu at gyflwyno masnachfreinio o Haf 2027, ond mae gwaith ar y gweill i baratoi ar gyfer y trawsnewid hwn. Mae dull rhanbarthol yn cael ei ddefnyddio i ddiwygio bysiau.  Dyma'r dyddiadau a'r trefniadau rhanbarthol allweddol ar hyn o bryd: 

    •  De-orllewin Cymru - 2027 
    • Gogledd Cymru - 2028 
    • De-ddwyrain Cymru - 2029 
    • Canolbarth Cymru – 2030 

    Wrth i ni ddechrau ar ein gwaith i gyflwyno masnachfreinio i'r cyntaf o'r pedwar parth byddwn yn cyhoeddi ymrwymiad ymgysylltu rhanbarthol sy'n manylu ar ein cynlluniau i gynnwys cymunedau lleol.   Bydd yr ymrwymiad yn canolbwyntio ar gasglu barn defnyddwyr gwasanaethau lleol a darpar ddefnyddwyr gwasanaeth i sicrhau ein bod yn adeiladu rhwydwaith y mae pobl leol ei eisiau ac yn gallu ei ddefnyddio.


    Er mwyn ein helpu i baratoi'r cynlluniau hyn, hoffem glywed gennych.

    Rhannu Rhannwch eich barn ar fasnachfreinio'r rhwydwaith bysiau ar Facebook Rhannu Rhannwch eich barn ar fasnachfreinio'r rhwydwaith bysiau Ar Twitter Rhannu Rhannwch eich barn ar fasnachfreinio'r rhwydwaith bysiau Ar LinkedIn E-bost Rhannwch eich barn ar fasnachfreinio'r rhwydwaith bysiau dolen
Diweddaru: 25 Mar 2025, 04:49 PM