Arolwg diwygio bysiau Gogledd Cymru
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar draws y rhanbarth i ddatblygu llwybrau a gwasanaethau newydd er mwyn gallu cynnig gwasanaethau bysiau newydd yng Ngogledd Cymru.
Rydym yn gwahodd pobl sy'n byw, yn gweithio ac yn teithio yng Ngogledd Cymru i rannu eu barn ar y rhwydwaith fel ag y mai a helpu i lunio gwasanaethau bysiau ar draws y rhanbarth yn y dyfodol.
Ry'n ni'n defnyddio'r rhwydwaith bysiau presennol fel man cychwyn. Rydym wedi ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael o ran yr hyn y mae teithwyr yn gofyn amdano, dibynadwyedd, patrymau teithio ac anghenion teithio lleol i ddylunio rhwydwaith bysiau ar ei newydd wedd.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i ddylanwadu ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yng Ngogledd Cymru. Bydd yr adborth yn helpu i lunio gwasanaeth bws mwy cysylltiedig, dibynadwy a hawdd ei ddefnyddio. Dywedwch eich dweud a helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau bysiau yng Ngogledd Cymru.
