Cynigion i wella gorsaf Caergybi
Consultation has concluded
Diweddariad ar y Cyfnod Ymgynghori Opsiynau
Daeth y cyfnod ymgynghori opsiynau ar gyfer Cam 2 WelTAG yng ngorsaf Caergybi i ben ddydd Iau 22 Rhagfyr 2022. I siarad ag aelod o dîm prosiect Trafnidiaeth Cymru, cysylltwch â ymgysylltu@trc.cymru
I gysylltu â Trafnidiaeth Cymru ynghylch unrhyw beth arall, ewch i’r dudalen hon am fanylion cyswllt: Cymorth a chysylltu | TfW (trc.cymru)
Cefndir cynllun gorsaf Caergybi
Mae cynllun gorsaf Caergybi yn cael ei ddatblygu gan ddefnyddio WelTAG (arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Llywodraeth Cymru). Ar hyn o bryd, mae cynllun gorsaf Caergybi yn mynd drwy Gam 2 WelTAG (Achos Busnes Amlinellol). MaeParhau i ddarllen
Diweddariad ar y Cyfnod Ymgynghori Opsiynau
Daeth y cyfnod ymgynghori opsiynau ar gyfer Cam 2 WelTAG yng ngorsaf Caergybi i ben ddydd Iau 22 Rhagfyr 2022. I siarad ag aelod o dîm prosiect Trafnidiaeth Cymru, cysylltwch â ymgysylltu@trc.cymru
I gysylltu â Trafnidiaeth Cymru ynghylch unrhyw beth arall, ewch i’r dudalen hon am fanylion cyswllt: Cymorth a chysylltu | TfW (trc.cymru)
Cefndir cynllun gorsaf Caergybi
Mae cynllun gorsaf Caergybi yn cael ei ddatblygu gan ddefnyddio WelTAG (arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Llywodraeth Cymru). Ar hyn o bryd, mae cynllun gorsaf Caergybi yn mynd drwy Gam 2 WelTAG (Achos Busnes Amlinellol). Mae WelTAG 2017 yn nodi fframwaith eang ar gyfer adnabod, arfarnu a gwerthuso atebion i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth. Mae’n helpu i ganfod y cynllun mwyaf buddiol ac yn caniatáu cymharu cynlluniau ar sail tebyg am debyg.
Mae proses WelTAG yn cynnwys pum cam sydd â'r bwriad o gynnwys cylch bywyd cynllun trafnidiaeth arfaethedig, o’r cysyniad i’r gwerthusiad ar ôl gweithredu.
Dyma bum cam WelTAG:
- Cam Un – Achos Amlinellol Strategol
- Cam Dau – Achos Busnes Amlinellol
- Cam Tri – Achos Busnes Llawn
- Cam Pedwar – Gweithredu
- Cam Pump – Ar ôl Gweithredu (Monitro a Gwerthuso)
Cafodd diweddariad i ganllawiau WelTAG (i adlewyrchu Llwybr Newydd, strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru 2021) ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022 ac mae’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.
Ymgynghoriad Opsiynau: 10 Tachwedd i 22 Rhagfyr 2022 (eisioes wedi cau)
Cafodd cyfnod yr ymgynghoriad ei rhedeg o Dydd Iau 10 Tachwedd tan hanner nos, nos Iau 22 Rhagfyr 2022.
Roedd rhanddeiliad a’r cymuned lleol yn gallu roi eu barn drwy:
- Llenwi ffurflen adborth ar-lein, oedd ar gael yma a’r linc isod
- Llenwi ffurflen adborth bapur. Roedd rhain ar gael yng ngorsaf Caergybi (Ffordd Llundain, Caergybi L65 2NE) ac yn Llyfrgell Caergybi (Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi, LL65 1HH)
Opsiynau cynllun
Mae’r astudiaeth hon yn defnyddio dull cyfannol hirdymor i wneud y gwelliannau sydd eu hangen i sefydlu gorsaf Caergybi fel canolfan drafnidiaeth. Er mwyn gwneud hyn, canolbwyntiwyd ar nifer o feysydd gwella cyffredinol, sy’n cael eu crynhoi isod ynghyd â rhai o’r opsiynau sydd wedi cael eu hystyried:
Canfod y ffordd
- Gwella’r arwyddion yn yr orsaf drenau
- Gwella’r arwyddion rhwng yr orsaf drenau a Chanol Tref Caergybi
- Gwella’r ddarpariaeth ac ansawdd yr arwyddion sy’n croesawu ymwelwyr ac sy’n gwneud i’r orsaf deimlo’n groesawgar a deniadol (fel porth i Gymru)
Hygyrchedd
- Gwneud Black Bridge ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn unig
- Gwneud Black Bridge yn un lôn / ar gyfer traffig unffordd
- Tynnu’r bont droed bresennol (rhwng platfform 1 a Ffordd Fictoria)
- Gosod pont droed newydd yn lle’r bont droed bresennol (rhwng platfform 1 a Ffordd Fictoria)
- Creu cyswllt i gerddwyr o Bont y Porth Celtaidd i Ffordd Fictoria er mwyn gwella hygyrchedd i lefel is Ffordd Fictoria
- Gwella mynediad i orsaf Caergybi gan sicrhau ei bod yn hygyrch i bawb – yn enwedig y rheini sydd â symudedd cyfyngedig, sydd mewn cadeiriau olwyn neu sydd â phramiau
Teithio llesol
- Cyflwyno lonydd beiciau a llwybrau troed penodol ar Black Bridge a’r mynedfeydd i’r orsaf
- Sicrhau bod y llwybrau teithio llesol presennol i’r orsaf ac i ardal Caergybi yn ehangach yn cael eu hintegreiddio â’r cynlluniau yn yr orsaf
- Cynyddu’r seilwaith teithio llesol drwy ddarparu cyfleusterau storio beiciau yn yr orsaf
- Darparu beiciau i'w rhentu yn yr orsaf
- Darparu llwybrau troed a llwybrau beiciau newydd yn yr orsaf
- Addasu cyfleusterau parcio i’r dwyrain o’r orsaf ar gyffordd yr A55/Black Bridge ar gyfer mynediad i gerddwyr a beiciau
- Cael gwared â’r arwyddion anghyson yn yr orsaf a allai atal beicwyr
Yr amgylchedd ffisegol
- Aildrefnu’r ardal i’r dwyrain o’r orsaf i greu lle ar gyfer canolfan drafnidiaeth
- Ail-lenwi rhan o’r harbwr ac ailddatblygu’r tir i wella amgylchedd yr orsaf
- Ailwampio a thrawsnewid mannau o’r orsaf sy’n segur ar hyn o bryd yn gyfleoedd manwerthu a chymunedol
Y tu mewn i’r orsaf
- Ailgynllunio Platfform 1 i wella’r apêl, gan fanteisio i’r eithaf ar yr olygfa o’r harbwr mewnol
- Cael gwared â’r adeiladau ar blatfform 1, ond cael canopi newydd i gysgodi teithwyr
- Ailagor a defnyddio’r man rhwng platfformau 2 a 3 lle mae ‘platfform coll’
- Gosod cysgodfa ar blatfform 3
- Symud gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus o blatfform 1 i blatfformau eraill. Felly mae’r holl weithrediadau trafnidiaeth ar blatfformau 2-3, gan adael platfform 1 at ddibenion gweithredol eraill (hynny yw, cynnal a chadw trenau a gwasanaethau cludo nwyddau)
Integreiddio â dulliau eraill o deithio
- Darparu hwb cyfnewidfa drafnidiaeth bwrpasol i Gaergybi yng ngorsaf Caergybi
- Integreiddio tocynnau rhwng gwasanaethau trên, fferi a bysiau
- Gwella’r integreiddio rhwng amseroedd y rheilffordd a’r porthladd er mwyn osgoi amseroedd cyrraedd a gadael sy’n gorgyffwrdd ac yn achosi oedi
- Cynnig mwy o drafnidiaeth gyhoeddus yn yr orsaf drwy wella’r integreiddio â gwasanaethau bysiau lleol
- Symud y safleoedd bysiau sydd ar Ffordd Fictoria ar hyn o bryd er mwyn lleihau’r pellter cerdded i fynedfa’r orsaf
- Sicrhau bod gwasanaethau trên ar gael mor aml ag yr oeddent cyn y pandemig
- Cynyddu amlder gwasanaethau trên i ganolfannau economaidd allweddol yng Nghymru a Lloegr
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Mae opsiwn cyffredinol hefyd sy’n canolbwyntio ar yr angen i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
Arddangosfa gyhoeddus
Cafodd digwyddiad cyhoeddus ei gynnal yn: Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi LL65 1HH ar 24 Tachwedd 2022 rhwng 12pm ac 8pm.
Roedd croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i weld cynigion y cynllun a siarad ag aelodau o dîm y prosiect.
Lleoliadau
Roedd gwybodaeth am y cynllun a ffurflenni adborth papur ar gael yn y lleoliadau isod:
- Gorsaf Caergybi (Ffordd Llundain, Caergybi L65 2NE)
- Llyfrgell Caergybi (Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi, LL65 1HH)
-
Cafodd cyfnod yr ymgynghoriad ei rhedeg o Dydd Iau 10 Tachwedd tan hanner nos, nos Iau 22 Rhagfyr 2022.
Mae gwybodaeth am y cynllun ar gael yn: dweudeichdweud.trc.cymru/gorsaf-caergybi
Sylwch: Mae’r cynllun yn ei gamau cynnar ar hyn o bryd. Nid ydym wedi datblygu unrhyw gynlluniau manwl ar gyfer unrhyw un o’r opsiynau arfaethedig a syniadau cychwynnol yw’r rhain yn unig. Felly, nid ydym wedi gwneud cais am unrhyw gyllid na sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun eto.
Rydym yn dymuno rhannu’r opsiynau sydd wedi cael eu trafod â chi a gofyn am eich barn wrth i ni symud ymlaen tuag at ddewis yr opsiwn/opsiynau sy’n cael eu ffafrio gennym.
Rhannu Ffurflen Adborth - Ymgynghoriad ar yr Opsiynau ar gyfer Gorsaf Caergybi ar Facebook Rhannu Ffurflen Adborth - Ymgynghoriad ar yr Opsiynau ar gyfer Gorsaf Caergybi Ar Twitter Rhannu Ffurflen Adborth - Ymgynghoriad ar yr Opsiynau ar gyfer Gorsaf Caergybi Ar LinkedIn E-bost Ffurflen Adborth - Ymgynghoriad ar yr Opsiynau ar gyfer Gorsaf Caergybi dolen
Personol
Personol
Ymgynghoriad |
Mae'r prosiect hwn mewn cyfnod lle rydyn ni'n ymgynghori arno. Mae hynny'n golygu ei fod yn gynnar ac yn seiliedig ar ymgysylltu blaenorol â rhanddeiliaid, rydym wedi cyrraedd rhestr o opsiynau i fwrw ymlaen â nhw. Dyma'ch cyfle chi i roi sylwadau ar y cynigion hynny.
Personol
Hysbysiad
Mae’r cynllun yn ei gamau cynnar ar hyn o bryd. Nid ydym wedi datblygu unrhyw gynlluniau manwl ar gyfer unrhyw un o’r opsiynau arfaethedig a syniadau cychwynnol yw’r rhain yn unig. Felly, nid ydym wedi gwneud cais am unrhyw gyllid na sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun eto.
Rydym yn dymuno rhannu’r opsiynau sydd wedi cael eu trafod â chi a gofyn am eich barn wrth i ni symud ymlaen tuag at ddewis yr opsiwn/opsiynau sy’n cael eu ffafrio gennym.
Gwybodaeth am y cynllun
Dyddiadau pwysig
-
10 Tachwedd 2022
-
24 Tachwedd 2022
-
22 Rhagfyr 2022
Cynnydd y prosiect
-
Cam 0
Cynigion i wella gorsaf Caergybi wedi gorffen y cam hwnGwneud yr achos dros newid yn seiliedig ar amcanion Llywodraeth Cymru.
-
Ymgysylltu cychwynnol
Cynigion i wella gorsaf Caergybi wedi gorffen y cam hwnGwnaethom ymgysylltu cychwynnol drwy grŵp llywio i ddeall materion lleol sy'n gosod y cyd-destun ar gyfer y prosiect.
-
Adolygiad cwmpasu
Cynigion i wella gorsaf Caergybi wedi gorffen y cam hwnCael cytundeb cychwynnol gan randdeiliaid allweddol, adolygu'r cynlluniau presennol a nodi camau ymlaen.
-
Cam 1
Cynigion i wella gorsaf Caergybi wedi gorffen y cam hwnAchos amlinellol strategol
Gweithio gyda rhanddeiliaid a defnyddwyr i archwilio a nodi rhestr hir o opsiynau.
-
Cam 2 ymgynghori ar opsiynau
Cynigion i wella gorsaf Caergybi ar hyn o bryd ywRydym yn rhannu'r rhestr fer o opsiynau sydd wedi'u datblygu a bydd cyfle i chi ddweud eich dweud.
-
Cam 3
Dyma gyfnod sydd ar y gweill ar gyfer Cynigion i wella gorsaf CaergybiAchos busnes
Datblygu achos busnes llawn sy'n esbonio'r cyfiawnhad dros y prosiect.
-
Cam 4
Dyma gyfnod sydd ar y gweill ar gyfer Cynigion i wella gorsaf CaergybiGweithredu
Os yw'r prosiect yn cael ei ariannu, bydd y prosiect nawr yn cael ei gyflawni.
Pwy sy'n gwrando?
-
E - bost ymgysylltu@trc.cymru
Cwestiynau cyffredin
- 1. Beth mae’r cynllun yn ei gynnig?
- 2. Ble mae’r cynllun?
- 3. Pwy sy’n arwain y cynllun?
- 4. Beth yw Trafnidiaeth Cymru?
- 5. Beth yw amcanion y cynllun?
- 6. Pryd fyddai’r gwaith o adeiladu yn dechrau ar gyfer cynigion y cynllun?
- 7. Beth yw WelTAG?
- 8. A fydd yr holl welliannau sy’n cael eu cynnig yn cael eu gwneud?
- 9. Pam mae angen y cynllun?
- 10. Beth sydd wedi digwydd hyd yma?
- 11. Ymgynghori ar yr opsiynau: 10 Tachwedd i 22 Rhagfyr 2022
- 12. Ydych chi’n cynnal arddangosfa gyhoeddus?