1. Beth mae’r cynllun yn ei gynnig?

    Bwriad y cynllun arfaethedig yw trawsnewid gorsaf Caergybi yn ganolfan drafnidiaeth leol. Dyma rhai o’r opsiynau posibl ar gyfer gwella y mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn eu hystyried ar gyfer gorsaf Caergybi fel rhan o broses WelTAG. Mae’n bosibl y bydd opsiynau ychwanegol yn codi drwy broses WelTAG.

    Canfod y ffordd

    • Gwella’r arwyddion yn yr orsaf drenau
    • Gwella’r arwyddion rhwng yr orsaf drenau a Chanol Tref Caergybi
    • Gwella’r ddarpariaeth ac ansawdd yr arwyddion sy’n croesawu ymwelwyr ac sy’n gwneud i’r orsaf deimlo’n groesawgar a deniadol (fel porth i Gymru)

     Hygyrchedd 

    • Gwneud Black Bridge ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn unig
    • Gwneud Black Bridge yn un lôn / ar gyfer traffig unffordd 
    • Tynnu’r bont droed bresennol (rhwng platfform 1 a Ffordd Fictoria) 
    • Gosod pont droed newydd yn lle’r bont droed bresennol (rhwng platfform 1 a Ffordd Fictoria)
    • Creu cyswllt i gerddwyr o Bont y Porth Celtaidd i Ffordd Fictoria er mwyn gwella hygyrchedd i lefel is Ffordd Fictoria
    • Gwella mynediad i orsaf Caergybi gan sicrhau ei bod yn hygyrch i bawb – yn enwedig y rheini sydd â symudedd cyfyngedig, sydd mewn cadeiriau olwyn neu sydd â phramiau

     Teithio llesol

    • Cyflwyno lonydd beiciau a llwybrau troed penodol ar Black Bridge a’r mynedfeydd i’r orsaf
    • Sicrhau bod y llwybrau teithio llesol presennol i’r orsaf ac i ardal Caergybi yn ehangach yn cael eu hintegreiddio â’r cynlluniau yn yr orsaf
    • Cynyddu’r seilwaith teithio llesol drwy ddarparu cyfleusterau storio beiciau yn yr orsaf
    • Darparu beiciau i'w rhentu yn yr orsaf
    • Darparu llwybrau troed a llwybrau beiciau newydd yn yr orsaf
    • Addasu cyfleusterau parcio i’r dwyrain o’r orsaf ar gyffordd yr A55/Black Bridge ar gyfer mynediad i gerddwyr a beiciau
    • Cael gwared â’r arwyddion anghyson yn yr orsaf a allai atal beicwyr

     Yr amgylchedd ffisegol

    • Aildrefnu’r ardal i’r dwyrain o’r orsaf i greu lle ar gyfer canolfan drafnidiaeth
    • Ail-lenwi rhan o’r harbwr ac ailddatblygu’r tir i wella amgylchedd yr orsaf
    • Ailwampio a thrawsnewid mannau o’r orsaf sy’n segur ar hyn o bryd yn gyfleoedd manwerthu a chymunedol

     Y tu mewn i’r orsaf

    • Ailgynllunio Platfform 1 i wella’r apêl, gan fanteisio i’r eithaf ar yr olygfa o’r harbwr mewnol
    • Cael gwared â’r adeiladau ar blatfform 1, ond cael canopi newydd i gysgodi teithwyr
    • Ailagor a defnyddio’r man rhwng platfformau 2 a 3 lle mae ‘platfform coll’
    • Gosod cysgodfa ar blatfform 3
    • Symud gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus o blatfform 1 i blatfformau eraill. Felly mae’r holl weithrediadau trafnidiaeth ar blatfformau 2-3, gan adael platfform 1 at ddibenion gweithredol eraill (hynny yw, cynnal a chadw trenau a gwasanaethau cludo nwyddau)

     Integreiddio â dulliau eraill o deithio

    • Darparu hwb cyfnewidfa drafnidiaeth bwrpasol i Gaergybi yng ngorsaf Caergybi
    • Integreiddio tocynnau rhwng gwasanaethau trên, fferi a bysiau 
    • Gwella’r integreiddio rhwng amseroedd y rheilffordd a’r porthladd er mwyn osgoi amseroedd cyrraedd a gadael sy’n gorgyffwrdd ac yn achosi oedi
    • Cynnig mwy o drafnidiaeth gyhoeddus yn yr orsaf drwy wella’r integreiddio â gwasanaethau bysiau lleol
    • Symud y safleoedd bysiau sydd ar Ffordd Fictoria ar hyn o bryd er mwyn lleihau’r pellter cerdded i fynedfa’r orsaf
    • Sicrhau bod gwasanaethau trên ar gael mor aml ag yr oeddent cyn y pandemig
    • Cynyddu amlder gwasanaethau trên i ganolfannau economaidd allweddol yng Nghymru a Lloegr

     Ymddygiad gwrthgymdeithasol

    • Mae opsiwn cyffredinol hefyd sy’n canolbwyntio ar yr angen i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

    Yn yr ymgynghoriad hwn ar yr opsiynau, yng Ngham 2 WelTAG, rydym yn gwahodd rhanddeiliaid a’r cyhoedd i roi eu barn ar yr opsiynau hyn. Mae rhagor o wybodaeth am broses WelTAG ar gael yng Nghwestiwn 7.

    2. Ble mae’r cynllun?

    Lleoliad y cynllun yw gorsaf Caergybi, sydd yn nhref Caergybi, Ynys Môn. Caergybi yw’r dref fwyaf yn Ynys Môn, sydd yng ngogledd-orllewin Cymru, gyda phoblogaeth o tua 11,500 o bobl. Mae gorsaf Caergybi yng nghanol y dref, a dyma ben gorllewinol Gwibffordd Gogledd Cymru yr A55, sef y brif gefnffordd ar gyfer mynediad ar draws gogledd Cymru a thu hwnt i ogledd-orllewin Lloegr. Mae gorsaf Caergybi hefyd ym mhen gorllewinol llwybr Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru.

    3. Pwy sy’n arwain y cynllun?

    Trafnidiaeth Cymru (TrC) sy’n cynnig y cynllun. TrC sy’n berchen ar orsaf Caergybi ac yn ei rheoli.

    4. Beth yw Trafnidiaeth Cymru?

    Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru (TrC) gan Lywodraeth Cymru yn 2016 i oruchwylio trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, i greu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid drwy rwydwaith trafnidiaeth diogel y mae Cymru’n falch ohono.

    5. Beth yw amcanion y cynllun?

    Mae’r cynllun yn cael ei gynnal gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) fel rhan o broses WelTAG, ac mae chwe amcan craidd iddo:

    1. Annog mwy o deithwyr drwy wneud gwasanaethau trên yn fwy atyniadol a gwella cyfleusterau’r orsaf ac amlder a dibynadwyedd gwasanaethau trên.
    2. Gwneud gorsaf Caergybi yn ganolfan drafnidiaeth ganolog sy’n cysylltu trigolion ac ymwelwyr â Phorthladd Caergybi a chanolfannau economaidd allweddol yn y rhanbarth; sy’n cefnogi pob math o drafnidiaeth; sy’n helpu’r economi i dyfu mewn ffordd gynaliadwy, ac sy’n cysylltu â phrosiectau adfywio eraill.
    3. Gwneud yn siŵr bod yr orsaf yn borth croesawgar, hygyrch, hawdd ei ddefnyddio sy’n cysylltu â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus lleol a Phorthladd Caergybi, gyda chyfleusterau ar gyfer cerddwyr a beicwyr, ac arwyddion da sy’n cyfeirio at ganol y dref.
    4. Hyrwyddo ac annog teithio cynaliadwy a chaniatáu i bobl newid rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth yn rhwydd yn yr orsaf.
    5. Cynyddu teithio ar draws a rhwng rhanbarthau drwy gynyddu amlder gwasanaethau trên.
    6. Gwneud yn siŵr bod yr orsaf yn ateb y diben ac yn hygyrch i bawb. 

    6. Pryd fyddai’r gwaith o adeiladu yn dechrau ar gyfer cynigion y cynllun?

    Megis dechrau cael ei ddatblygu mae’r cynllun o hyd (Cam 2 WelTAG) ac ni fyddai’r gwaith adeiladu’n digwydd tan yn ddiweddarach o lawer yn y broses. Ar hyn o bryd, rydym yn gofyn am farn rhanddeiliaid a’r cyhoedd ar yr opsiynau posibl ar gyfer canolfan drafnidiaeth yng ngorsaf Caergybi. Ewch i Gwestiwn 7 i gael rhagor o wybodaeth (gan gynnwys diagram) am broses WelTAG.

    7. Beth yw WelTAG?

    Mae cynllun gorsaf Caergybi yn cael ei ddatblygu gan ddefnyddio WelTAG (arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Llywodraeth Cymru). Ar hyn o bryd, mae cynllun gorsaf Caergybi yn mynd drwy Gam 2 WelTAG (Achos Busnes Amlinellol). Mae WelTAG 2017 yn nodi fframwaith eang ar gyfer adnabod, arfarnu a gwerthuso atebion i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth. Mae’n helpu i ganfod y cynllun mwyaf buddiol ac yn caniatáu cymharu cynlluniau ar sail tebyg am debyg. 

    Mae proses WelTAG yn cynnwys pum cam sydd â'r bwriad o gynnwys cylch bywyd cynllun trafnidiaeth arfaethedig, o’r cysyniad i’r gwerthusiad ar ôl gweithredu. 

    Dyma bum cam WelTAG:

    • Cam Un – Achos Amlinellol Strategol
    • Cam Dau – Achos Busnes Amlinellol
    • Cam Tri – Achos Busnes Llawn
    • Cam Pedwar – Gweithredu
    • Cam Pump – Ar ôl Gweithredu (Monitro a Gwerthuso)

    Cafodd diweddariad i ganllawiau WelTAG (i adlewyrchu Llwybr Newydd, strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru 2021) ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022 ac mae’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. 

    Diagram sy'n dangos gwahanol gamau WelTAG fel y'i disgrifir uchod.

    8. A fydd yr holl welliannau sy’n cael eu cynnig yn cael eu gwneud?

    Na. Bydd detholiad o opsiynau’n cael eu rhoi ar y rhestr fer ac yn cael eu rhoi mewn pecyn gyda’i gilydd i’w hystyried ar ddiwedd proses Cam 2 WelTAG. Bydd yr opsiynau’n cael eu rhoi ar y rhestr fer ac yn cael eu dewis i symud ymlaen ar sail nifer o ystyriaethau a fydd yn cynnwys:

    • Cyd-fynd yn strategol ag amrywiaeth o feini prawf 
    • Cysondeb â pholisïau allweddol
    • Budd posibl i’r economi, i’r amgylchedd ac i gymdeithas/diwylliant
    • Sut maent yn gweithio/cydfodoli ochr yn ochr ag opsiynau eraill, fel rhan o becyn cyflawn o fesurau 
    • Effaith economaidd

    9. Pam mae angen y cynllun?

    Mae teithwyr sy’n defnyddio gorsaf Caergybi yn wynebu amrywiaeth o heriau ar hyn o bryd. Roedd adborth gan randdeiliaid a dadansoddiad o amgylchedd presennol yr orsaf yn ystod Cam 1 WelTAG yn 2022 wedi tynnu sylw at y materion canlynol:

    • Mae mynediad i wahanol ardaloedd yn yr orsaf yn wael 
    • Mae’r arwyddion yn ddryslyd, sy’n golygu ei bod yn anodd canfod y ffordd o amgylch yr orsaf
    • Gellid gwella’r cysylltiadau â chanol tref Caergybi a chyrchfannau y gellir mynd iddynt 
    • Ar hyn o bryd nid yw’r orsaf yn gwneud y mwyaf o’i rôl bosibl fel porth i Gymru 
    • Mae llawer o gerbydau ar hyd y ffordd i’r orsaf a Black Bridge, sy’n golygu mai mynediad cyfyngedig sydd yna i’r orsaf ar gyfer cerddwyr, beicwyr a thrafnidiaeth gyhoeddus 
    • Mae cyfleusterau beicio yr orsaf yn wael 
    • Diffyg integreiddio â dulliau eraill o deithio

    10. Beth sydd wedi digwydd hyd yma?

    Yn 2021, comisiynodd Trafnidiaeth Cymru (TrC) Mott MacDonald i ddatblygu Cynllun Integredig ar gyfer gorsaf Caergybi. Roedd hyn yn dod â rhai o’r prosiectau allweddol, a oedd wedi cael eu cynnig ar gyfer yr ardal yn yr orsaf ac o’i hamgylch, at ei gilydd mewn un cynllun, gan greu rhestr hir o opsiynau posibl ar gyfer gwella’r cyffiniau. Yna, cafodd y rhain eu hadolygu a’u sgorio yn erbyn meini prawf amrywiol yr oedd TrC a Llywodraeth Cymru wedi cytuno arnynt. Y prosiect a gafodd y sgôr uchaf oedd trawsnewid gorsaf Caergybi yn ganolfan drafnidiaeth leol.

    Ar ôl cwblhau’r Cynllun Integredig, roedd yn rhaid canolbwyntio ar symud yr opsiwn a oedd wedi cael y sgôr uchaf (trawsnewid gorsaf Caergybi yn ganolfan drafnidiaeth leol) drwy broses WelTAG (arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Llywodraeth Cymru). 

    Cyflwynodd Cam 1 WelTAG yr achos dros newid ac roedd yn cynnwys archwilio’r problemau, y cyfleoedd a’r materion, gan nodi pam fod angen ymyrryd. Fel rhan o Gam 1, cynhaliodd TrC ddadansoddiad SWOT (Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd, Bygythiadau) o’r cynllun, gan nodi rhestr hir o opsiynau i fynd i’r afael â’r materion yng ngorsaf Caergybi a brofwyd am ddichonolrwydd technegol, amgylcheddol ac ariannol.

    Mae’r cynllun yng Ngham 2 y broses ar hyn o bryd. Mae Cam 2 yn amlinellu Achos Busnes ar gyfer bwrw ymlaen â’r cynllun ac yn nodi’r opsiynau sy’n cael eu ffafrio.

    11. Ymgynghori ar yr opsiynau: 10 Tachwedd i 22 Rhagfyr 2022

    Cafodd cyfnod yr ymgynghoriad ei rhedeg o Dydd Iau 10 Tachwedd tan hanner nos, nos Iau 22 Rhagfyr 2022.

    Roedd rhanddeiliad a’r cymuned lleol yn gallu roi eu barn drwy:

    • Llenwi ffurflen adborth ar-lein, oedd ar gael yma a’r linc isod
    • Llenwi ffurflen adborth bapur. Roedd rhain ar gael yng ngorsaf Caergybi (Ffordd Llundain, Caergybi L65 2NE) ac yn Llyfrgell Caergybi (Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi, LL65 1HH) 

    Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad ar yr opsiynau yn cael eu cynnwys yn adroddiad Cam 2 WelTAG a byddant yn sail i ddatblygiad y cynllun yn y dyfodol.

    12. Ydych chi’n cynnal arddangosfa gyhoeddus?

    Cafodd digwyddiad cyhoeddus ei gynnal yn: Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi LL65 1HH ar 24 Tachwedd 2022 rhwng 12pm ac 8pm.

    Roedd croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i weld cynigion y cynllun a siarad ag aelodau o dîm y prosiect.