Cynigion i wella gorsaf Caergybi

Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon

Consultation has concluded





Diweddariad ar y Cyfnod Ymgynghori Opsiynau

Daeth y cyfnod ymgynghori opsiynau ar gyfer Cam 2 WelTAG yng ngorsaf Caergybi i ben ddydd Iau 22 Rhagfyr 2022. I siarad ag aelod o dîm prosiect Trafnidiaeth Cymru, cysylltwch â ymgysylltu@trc.cymru

I gysylltu â Trafnidiaeth Cymru ynghylch unrhyw beth arall, ewch i’r dudalen hon am fanylion cyswllt: Cymorth a chysylltu | TfW (trc.cymru)


Cefndir cynllun gorsaf Caergybi

Mae cynllun gorsaf Caergybi yn cael ei ddatblygu gan ddefnyddio WelTAG (arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Llywodraeth Cymru). Ar hyn o bryd, mae cynllun gorsaf Caergybi yn mynd drwy Gam 2 WelTAG (Achos Busnes Amlinellol). Mae





Diweddariad ar y Cyfnod Ymgynghori Opsiynau

Daeth y cyfnod ymgynghori opsiynau ar gyfer Cam 2 WelTAG yng ngorsaf Caergybi i ben ddydd Iau 22 Rhagfyr 2022. I siarad ag aelod o dîm prosiect Trafnidiaeth Cymru, cysylltwch â ymgysylltu@trc.cymru

I gysylltu â Trafnidiaeth Cymru ynghylch unrhyw beth arall, ewch i’r dudalen hon am fanylion cyswllt: Cymorth a chysylltu | TfW (trc.cymru)


Cefndir cynllun gorsaf Caergybi

Mae cynllun gorsaf Caergybi yn cael ei ddatblygu gan ddefnyddio WelTAG (arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Llywodraeth Cymru). Ar hyn o bryd, mae cynllun gorsaf Caergybi yn mynd drwy Gam 2 WelTAG (Achos Busnes Amlinellol). Mae WelTAG 2017 yn nodi fframwaith eang ar gyfer adnabod, arfarnu a gwerthuso atebion i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth. Mae’n helpu i ganfod y cynllun mwyaf buddiol ac yn caniatáu cymharu cynlluniau ar sail tebyg am debyg. 

Mae proses WelTAG yn cynnwys pum cam sydd â'r bwriad o gynnwys cylch bywyd cynllun trafnidiaeth arfaethedig, o’r cysyniad i’r gwerthusiad ar ôl gweithredu. 

Dyma bum cam WelTAG:

  • Cam Un – Achos Amlinellol Strategol
  • Cam Dau – Achos Busnes Amlinellol
  • Cam Tri – Achos Busnes Llawn
  • Cam Pedwar – Gweithredu
  • Cam Pump – Ar ôl Gweithredu (Monitro a Gwerthuso)

Cafodd diweddariad i ganllawiau WelTAG (i adlewyrchu Llwybr Newydd, strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru 2021) ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Awst 2022 ac mae’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.

Ymgynghoriad Opsiynau: 10 Tachwedd i 22 Rhagfyr 2022 (eisioes wedi cau)

Cafodd cyfnod yr ymgynghoriad ei rhedeg o Dydd Iau 10 Tachwedd tan hanner nos, nos Iau 22 Rhagfyr 2022.

Roedd rhanddeiliad a’r cymuned lleol yn gallu roi eu barn drwy:

  • Llenwi ffurflen adborth ar-lein, oedd ar gael yma a’r linc isod 
  • Llenwi ffurflen adborth bapur. Roedd rhain ar gael yng ngorsaf Caergybi (Ffordd Llundain, Caergybi L65 2NE) ac yn Llyfrgell Caergybi (Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi, LL65 1HH)

Opsiynau cynllun

Mae’r astudiaeth hon yn defnyddio dull cyfannol hirdymor i wneud y gwelliannau sydd eu hangen i sefydlu gorsaf Caergybi fel canolfan drafnidiaeth. Er mwyn gwneud hyn, canolbwyntiwyd ar nifer o feysydd gwella cyffredinol, sy’n cael eu crynhoi isod ynghyd â rhai o’r opsiynau sydd wedi cael eu hystyried:

Canfod y ffordd

  • Gwella’r arwyddion yn yr orsaf drenau
  • Gwella’r arwyddion rhwng yr orsaf drenau a Chanol Tref Caergybi
  • Gwella’r ddarpariaeth ac ansawdd yr arwyddion sy’n croesawu ymwelwyr ac sy’n gwneud i’r orsaf deimlo’n groesawgar a deniadol (fel porth i Gymru)

 Hygyrchedd 

  • Gwneud Black Bridge ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn unig
  • Gwneud Black Bridge yn un lôn / ar gyfer traffig unffordd 
  • Tynnu’r bont droed bresennol (rhwng platfform 1 a Ffordd Fictoria) 
  • Gosod pont droed newydd yn lle’r bont droed bresennol (rhwng platfform 1 a Ffordd Fictoria)
  • Creu cyswllt i gerddwyr o Bont y Porth Celtaidd i Ffordd Fictoria er mwyn gwella hygyrchedd i lefel is Ffordd Fictoria
  • Gwella mynediad i orsaf Caergybi gan sicrhau ei bod yn hygyrch i bawb – yn enwedig y rheini sydd â symudedd cyfyngedig, sydd mewn cadeiriau olwyn neu sydd â phramiau

 Teithio llesol

  • Cyflwyno lonydd beiciau a llwybrau troed penodol ar Black Bridge a’r mynedfeydd i’r orsaf
  • Sicrhau bod y llwybrau teithio llesol presennol i’r orsaf ac i ardal Caergybi yn ehangach yn cael eu hintegreiddio â’r cynlluniau yn yr orsaf
  • Cynyddu’r seilwaith teithio llesol drwy ddarparu cyfleusterau storio beiciau yn yr orsaf
  • Darparu beiciau i'w rhentu yn yr orsaf
  • Darparu llwybrau troed a llwybrau beiciau newydd yn yr orsaf
  • Addasu cyfleusterau parcio i’r dwyrain o’r orsaf ar gyffordd yr A55/Black Bridge ar gyfer mynediad i gerddwyr a beiciau
  • Cael gwared â’r arwyddion anghyson yn yr orsaf a allai atal beicwyr

 Yr amgylchedd ffisegol

  • Aildrefnu’r ardal i’r dwyrain o’r orsaf i greu lle ar gyfer canolfan drafnidiaeth
  • Ail-lenwi rhan o’r harbwr ac ailddatblygu’r tir i wella amgylchedd yr orsaf
  • Ailwampio a thrawsnewid mannau o’r orsaf sy’n segur ar hyn o bryd yn gyfleoedd manwerthu a chymunedol

 Y tu mewn i’r orsaf

  • Ailgynllunio Platfform 1 i wella’r apêl, gan fanteisio i’r eithaf ar yr olygfa o’r harbwr mewnol
  • Cael gwared â’r adeiladau ar blatfform 1, ond cael canopi newydd i gysgodi teithwyr
  • Ailagor a defnyddio’r man rhwng platfformau 2 a 3 lle mae ‘platfform coll’
  • Gosod cysgodfa ar blatfform 3
  • Symud gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus o blatfform 1 i blatfformau eraill. Felly mae’r holl weithrediadau trafnidiaeth ar blatfformau 2-3, gan adael platfform 1 at ddibenion gweithredol eraill (hynny yw, cynnal a chadw trenau a gwasanaethau cludo nwyddau)

 Integreiddio â dulliau eraill o deithio

  • Darparu hwb cyfnewidfa drafnidiaeth bwrpasol i Gaergybi yng ngorsaf Caergybi
  • Integreiddio tocynnau rhwng gwasanaethau trên, fferi a bysiau 
  • Gwella’r integreiddio rhwng amseroedd y rheilffordd a’r porthladd er mwyn osgoi amseroedd cyrraedd a gadael sy’n gorgyffwrdd ac yn achosi oedi
  • Cynnig mwy o drafnidiaeth gyhoeddus yn yr orsaf drwy wella’r integreiddio â gwasanaethau bysiau lleol
  • Symud y safleoedd bysiau sydd ar Ffordd Fictoria ar hyn o bryd er mwyn lleihau’r pellter cerdded i fynedfa’r orsaf
  • Sicrhau bod gwasanaethau trên ar gael mor aml ag yr oeddent cyn y pandemig
  • Cynyddu amlder gwasanaethau trên i ganolfannau economaidd allweddol yng Nghymru a Lloegr

 Ymddygiad gwrthgymdeithasol

  • Mae opsiwn cyffredinol hefyd sy’n canolbwyntio ar yr angen i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

Arddangosfa gyhoeddus

Cafodd digwyddiad cyhoeddus ei gynnal yn: Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi LL65 1HH ar 24 Tachwedd 2022 rhwng 12pm ac 8pm.

Roedd croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i weld cynigion y cynllun a siarad ag aelodau o dîm y prosiect.

Lleoliadau

Roedd gwybodaeth am y cynllun a ffurflenni adborth papur ar gael yn y lleoliadau isod:

  • Gorsaf Caergybi (Ffordd Llundain, Caergybi L65 2NE)
  • Llyfrgell Caergybi (Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi, LL65 1HH)
  • Cafodd cyfnod yr ymgynghoriad ei rhedeg o Dydd Iau 10 Tachwedd tan hanner nos, nos Iau 22 Rhagfyr 2022.

    Mae gwybodaeth am y cynllun ar gael yn: dweudeichdweud.trc.cymru/gorsaf-caergybi

    Sylwch: Mae’r cynllun yn ei gamau cynnar ar hyn o bryd. Nid ydym wedi datblygu unrhyw gynlluniau manwl ar gyfer unrhyw un o’r opsiynau arfaethedig a syniadau cychwynnol yw’r rhain yn unig. Felly, nid ydym wedi gwneud cais am unrhyw gyllid na sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun eto.

    Rydym yn dymuno rhannu’r opsiynau sydd wedi cael eu trafod â chi a gofyn am eich barn wrth i ni symud ymlaen tuag at ddewis yr opsiwn/opsiynau sy’n cael eu ffafrio gennym.

     

    Consultation has concluded
    Rhannu ar Facebook Rhannu ar Twitter Rhannu ar LinkedIn E-bostiwch y ddolen hon