Adnewyddu Pont Droed Lanks Hill
Ym mis Ionawr 2023, tynnodd Trafnidiaeth Cymru bont droed i lawr yn Danescourt, Caerdydd, fel rhan o raglen Metro De Cymru i drydaneiddio rheilffordd y Ddinas.
Bydd y bont yn cael ei disodli gan strwythur newydd ym mis Awst 2023.
Cefndir
Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi’n trydaneiddio rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd. Bydd y gwaith hwn yn galluogi Trenau Tram trydanol newydd i redeg ar reilffordd y Ddinas o Radur i Gaerdydd Canolog, gan gynyddu capasiti’r rhwydwaith a darparu gwasanaeth newydd, distawach a mwy eco-gyfeillgar i bawb.
Er mwyn hwyluso'r gwaith trydaneiddio, mae TrC a’i bartneriaid cyflawni wrthi’n gosod Cyfarpar Llinellau Uwchben (OLE) ar draws y rhwydwaith. Mae hyn yn cynnwys gosod mastiau dur, a elwir yn Ddur Prif Ran, a gosod strwythurau Dur Rhan Fach a fydd yn cael eu cysylltu â’r mast a fydd yn cario'r gwifrau trydanol uwchben. Mae’r gwifrau’n cyflenwi trydan i’r Trenau Tram drwy’r pantograff ar ben y trên.
Ar ôl cynnal arolygiad o'r bont wreiddiol ychydig i’r gogledd o orsaf Danescourt yn 2021, a oedd yn cael ei hadnabod yn lleol fel ‘Black Bridge’ neu ‘Lanks Hill’, nodwyd nad oedd digon o le i osod y Cyfarpar Llinellau Uwchben (OLE) a fyddai’n pweru’r Trenau Tram newydd.
Y bwlch rhwng y cledrau a soffit y bont wreiddiol oedd 4320mm. Nid yw hyn yn bodloni’r bwlch gofynnol ‘arferol’ o 4780mm, na chwaith y ‘bwlch arbennig/llai’ sy’n cael ei dderbyn mewn ardaloedd lle nad yw’n bosibl cael bwlch sydd rhwng 4500mm a 4600mm.
Y bont wreiddiol ar y safle, a elwir yn lleol fel pont 'Pont Ddu' neu 'Lanks Hill'.
Gan y penderfynwyd bod y bont yn rhy isel i OLE redeg o dani, cynhaliwyd proses o drafod opsiynau er mwyn nodi sut y gallwn fynd ati i osod yr OLE yn ddiogel.
Dyma’r opsiynau y buom yn ymchwilio iddynt er mwyn gosod yr OLE yn ddiogel:
- Gostwng y cledrau
- Codi uchder y bont
- Dymchwel y bont
- Dymchwel y bont a rhoi strwythur newydd yn ei lle
Yn dilyn proses o drin a thrafod, penderfynwyd yn haf 2022 mai’r opsiwn gorau fyddai dymchwel y bont a gosod un newydd yn ei lle. Byddai’r bont yn cael ei dymchwel, a byddai'r pentanau a’r sylfeini gwreiddiol yn cael eu gadael ar ôl. Bwriedir i’r bont newydd fod yn strwythur dur sy’n pontio dros y rheilffordd bresennol ac sy’n glanio wrth bentanau a sylfeini’r bont bresennol.
Gosod y bont newydd
Ar ôl penderfynu dymchwel y bont, dechreuodd tîm ein prosiect ddylunio strwythur newydd a fyddai’n bodloni gofynion Network Rail, ac a fyddai’n gallu cael ei osod ar bentanau a sylfeini’r bont bresennol. Bwriedir gosod y bont newydd yn ystod cyfnodau lle bydd Rheilffordd y Ddinas ar gau am 8 awr ar y tro, gan ddechrau ar 25 Awst a gorffen ar 28 Awst 2023.
Cyn hynny, bydd y cyfarpar a'r gwifrau uwchben yn cael eu tynnu i lawr er mwyn i’r bont newydd gael ei gosod, a byddant yn cael eu hailosod ar ôl i’r gwaith hwnnw gael ei gwblhau.
Bydd y bont newydd yn cael ei gosod gan graen a fydd wedi’i leoli wrth ymyl y bont ar lefel y cledrau. Bydd y bont wedi’i rhannu’n 2/3 rhan, ac yn cael ei chludo i’r safle ar drên. Oherwydd cyfyngiadau lle ar y safle, roedd yn rhaid i’r dyluniad gael ei adeiladu oddi ar y safle a’i gludo i’r safle i'w gydosod. Roedd hyn yn lleihau’r effaith ar wasanaethau drwy Danescourt, ac yn lleihau’r angen am orfod cau'r rheilffordd am gyfnod hirach a tharfu ar gymdogion sy’n byw gerllaw.
Bydd y safle compownd bach ar Beale Close, a gafodd ei ddefnyddio ar gyfer y gwaith dymchwel, yn cael ei ailddefnyddio ar gyfer y gwaith adeiladu. Bydd y mannau parcio ar y safle yn cael eu monitro gan reolwr y safle yn ystod y cyfnod hwn.
Dylunio pontydd troed dros linellau wedi’u trydaneiddio
Mae trydaneiddio’r rheilffordd yn golygu newidiadau sylweddol i’r seilwaith rheilffyrdd traddodiadol ar draws rheilffyrdd y cymoedd yn Ne-ddwyrain Cymru. Gan ein bod yn defnyddio system trydaneiddio gwifrau uwchben, rhaid sichrau bod digon o fwlch ar gyfer y gwifrau OLE a’r pantograff ar ben y trenau wrth iddynt fynd o dan bontydd.
Mae’r gwifrau’n cario 25,000v ac maent yn beryglus iawn, hyd yn oed os nad yw’r cyhoedd yn dod i gysylltiad uniongyrchol â’r offer. Mae rhagor o wybodaeth am wifrau uwchben ar gael yma Dim Ail Gyfle | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)
Parapetau pontydd
Yn dilyn cyfarwyddyd gan Network Rail yn 2020, mae angen i bob pont newydd fodloni gofynion uchder parapetau i leihau’r risg o hunanladdiad, tresmasu, trydaneiddio, fandaliaeth ac achosion o ddwyn ceblau ar y rheilffordd.
Mae safonau Network Rail yn datgan y dylai uchder parapetau newydd (neu rhai sydd wedi’u hadnewyddu) fod o leiaf 1800m (6 troedfedd) ar gyfer pontydd lle mae risg uchel o dresmasu, fandaliaeth neu hunanladdiad, a 1500m ar gyfer pontydd dros draffyrdd, neu bontydd sydd ddim yn croesi rheilffyrdd.
Rhaid i barapetau newydd, neu rhai sydd wedi’u hadnewyddu, gael wyneb mewnol sy’n llyfn, sydd heb dyllau, ac sydd heb droedleoedd na lle i afael.
Pontydd troed dros reilffyrdd wedi’u trydaneiddio
Yn nghyswllt pontydd sy’n croesi rheilffyrdd sydd wedi’u trydaneiddio, mae safonau Network Rail yn mynnu bod yn rhaid i barapetau ar y bont fod yn rhai heb dyllau, yn rhai nad oes modd i neb eu dringo, ac yn rhai o leiaf 1.8m mewn uchder. Rhaid iddynt hefyd gael copin gwrth-ddringo, er enghraifft, dylai pennau’r parapetau fod yn finiog.
OLE a gwifrau wedi’u gosod ar y ffordd at Orsaf Radur.
Peryglon Cyfarpar Llinellau Uwchben (OLE)
Mae OLE bob amser yn cludo 25,000 folt. Mae hyn 100 gwaith yn gryfach na thrydan eich cartref. Mae cyswllt ag OLE yn gallu arwain at farwolaeth mewn 9 achos allan o 10, gyda goroeswyr yn dioddef anafiadau sy’n newid bywyd. Hyd yn oed os nad ydych yn cyffwrdd y llinellau, gall trydan neidio o hyd. Gall dod o fewn 2.75m i linell wedi’i thrydaneiddio fod yn ddigon agos i ladd.
Er mwyn diogelu’r cyhoedd, mae angen i ni roi mesurau diogelwch ychwanegol ar ein seilwaith. Mae’r rhain yn cynnwys codi uchder parapetau’r pontydd, gosod ffensys gwell ar draws y rhwydwaith, a gosod rhwystrau rhwng mannau cyhoeddus a’r OLE lle bo angen.
Bydd OLE yn cael ei “roi ymlaen” mewn camau ledled De Cymru, gan ddechrau ym mis Mehefin 2023.
Lansiodd Trafnidiaeth Cymru ymgyrch diogelwch TrC Dim Ail Gyfle i dynnu sylw at beryglon tresmasu ar y rheilffyrdd - No second chances | Transport for Wales (tfw.wales).
Y dyluniad arfaethedig
Y bwlch rhwng y cledrau a soffit y bont wreiddiol oedd 4320mm. Mae gan y strwythur newydd fwlch sy’n fwy na 5025mm, sy’n golygu bod digon o le ar gyfer yr OLE.
Strwythur dur yw dyluniad arfaethedig y bont newydd.
Bydd gan y strwythur 1.85m parapet croeslin ar y naill ochr, hyd o 2.2m o barapet i baraped, a bydd yn ymestyn 27.7m dros y rheilffordd.
Mae'r dyluniad yn cynnwys platiau golau ar y bont. Mae goleuadau stryd ar gael ar bob ochr i’r bont ac ar y llwybrau sy’n arwain ati.
Mae’r diagram 3D uchod yn dangos sut bydd y bont yn edrych ar ôl iddi gael ei gosod. Bydd mastiau dur OLE yn cael eu gosod y naill ochr i’r bont, a fydd yn gyfrifol am ddal y gwifrau a fydd yn rhedeg o dan y bont.
Yr olygfa oddi ar y llwybr ar yr ochr chwith i’r bont (ar ochr Beale Close). Mae angen gosod ffens palisâd ar yr ochr hon i ddiogelu'r rheilffordd rhag tresmasu ac i ddiogelu pobl rhag dod i gysylltiad â’r gwifrau uwchben.
Yr olygfa wrth i chi nesáu at y bont o ochr Radyr Court Rise, sy’n cynnwys rhwystr igam-ogamu er mwyn arafu beicwyr.
Rendr yn dangos y platiau goleuadau a fydd yn cael eu gosod ar y bont i ddarparu goleuadau yn y nos. Mae goleuadau stryd hefyd ar gael ar ddwy ochr y bont.