Pam na ellir gostwng y trac, neu godi uchder y bont i ganiatáu i'r gwifrau redeg o dan y bont wreiddiol?

    Gostwng y cledrau:

    Mae’r gwaith hwn yn cynnwys codi’r cledrau a chloddio’r tir er mwyn gostwng uchder y balast a’r cledrau. Byddai'r cledrau wedyn yn cael eu hailosod ar yr uchder newydd. Fodd bynnag, yn dilyn arolygon a gynhaliwyd ar amodau'r tir ar y safle hwn, ystyriwyd nad oedd modd i ni allu gostwng uchder y cledrau oherwydd bod y tir yn rhy greigiog. 

    Byddai angen i ni ostwng llwyfannau'r orsaf hefyd.

    Codi uchder y bont:

    Byddai codi uchder y strwythur yn golygu y byddai’n rhaid i’r llwybrau sy’n arwain at y bont fod yn llawer mwy serth. Byddai hyn yn achosi i'r strwythur a’r llwybrau fod yn llai hygyrch. 


    Pryd fydd y bont yn cael ei gosod?

    Bwriedir gosod y bont newydd yn ystod cyfnodau lle bydd Rheilffordd y Ddinas ar gau am 8 awr ar y tro, gan ddechrau ar 25 Awst a gorffen ar 28 Awst 2023.

    Pryd fydd y bont newydd ar agor?

    Mae disgwyl i'r bont newydd agor i'r cyhoedd ar 4 Medi 2023.

    Gan nad oes pont arall i'w chael ar y safle, pam bod angen cyfnod o 6 mis rhwng dymchwel y bont wreiddiol a gosod y strwythur newydd yn ei le?

    Mae’r broses o ddatblygu, adolygu a chymeradwyo’r cam dylunio yn cymryd tua 12-15 mis i’w chwblhau. 

    Bydd y broses o osod pont newydd yn cymryd 13 mis i'w chwblhau, gan ddechrau ym mis Gorffennaf 2022 gyda chanlyniad y broses opsiynau, a gorffen ym mis Awst 2023 pan fydd y strwythur newydd wedi’i osod.

    Wrth i ni fwrw ymlaen â’r gwaith i drydaneiddio ac uwchraddio rheilffordd y Ddinas, mae nifer o dimau wrthi’n gweithio ar y rheilffordd yn cyflawni’r gwaith. Mae hyn yn cynnwys gosod yr OLE, y mastiau, a’r gwifrau a fydd yn pweru’r trenau newydd. 

    Rydym hefyd yn ymestyn hyd y ddau blatfform yng Ngorsaf Danescourt i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y trenau tram 3 cherbyd, yn ogystal â chynnal gwaith i uwchraddio’r signalau, y cledrau a’r ffensys terfyn. Ers i’r penderfyniad gael ei wneud yn haf 2022, mae gwahanol dimau’n gweithio yn y cyffiniau yn cyflawni’r gwaith uwchraddio hwn. 

    Ochr yn ochr â’r gwaith trawsnewid parhaus, mae’r tîm angen mynediad llawn at y rheilffordd, fel bod digon o le ar gael i'r peiriannau a’r cerbydau ffyrdd-rheilffyrdd ddod i godi’r bont newydd i’w lle. Bydd angen gosod y bont yn ystod cyfnodau lle bydd gennym feddiant o’r cledrau, sy’n golygu y bydd y rheilffordd ar gau i wasanaethau teithwyr yn ystod y dydd a’r nos. 

    Er mwyn gosod y bont newydd, bydd Rheilffordd y Ddinas ar gau am 8 awr ar y tro, gan ddechrau ar 25 Awst.  

    Sut fydd y bont yn cael ei gosod?

    Bydd y bont newydd yn cael ei gosod gan graen a fydd wedi’i leoli wrth ymyl y bont ar lefel y cledrau. Bydd y bont wedi’i rhannu’n 2/3 rhan, ac yn cael ei chludo i’r safle ar drên. Oherwydd cyfyngiadau lle ar y safle, roedd yn rhaid i’r dyluniad gael ei adeiladu oddi ar y safle a’i gludo i’r safle i'w gydosod. Roedd hyn yn lleihau’r effaith ar wasanaethau drwy Danescourt, ac yn lleihau’r angen am orfod cau'r rheilffordd am gyfnod hirach a tharfu ar gymdogion sy’n byw gerllaw. 

    Mae dulliau adeiladu oddi ar y safle yn addas iawn ar gyfer adeiladu pontydd troed, lle mae'r trosbontydd yn cael eu danfon i'r safle yn gyflawn ac yn cael eu codi i'w lle gan graen. 

    Mae adeiladu oddi ar y safle yn lleihau’r amser sydd ei angen i weithwyr fod ar y safle. Fel arfer, mae angen gweithlu a safleoedd gwaith llai ar gyfer gweithgareddau sy’n cael eu cynnal ar y safle.   Mae cynnal cymaint â phosibl o'r gwaith oddi ar y safle yn ffordd ddefnyddiol o reoli’r cyfyngiadau lle sydd ar y safle. 

    Pam mae angen i ochrau'r bont fod yn 1.8m uchel?

    Yn nghyswllt pontydd sy’n croesi rheilffyrdd sydd wedi’u trydaneiddio, mae safonau Network Rail yn mynnu bod yn rhaid i barapetau ar y bont fod yn rhai heb dyllau, yn rhai nad oes modd i neb eu dringo, ac yn rhai o leiaf 1.8m mewn uchder. Rhaid iddynt hefyd gael copin gwrth-ddringo, er enghraifft, dylai pennau’r parapetau fod yn finiog.

    A fydd y bont newydd yn uwch na'r bont bresennol?

    Y bwlch rhwng y cledrau a soffit y bont wreiddiol oedd 4320mm. Mae gan y strwythur newydd fwlch sy’n fwy na 5025mm, sy’n golygu bod digon o le ar gyfer yr OLE.

    Pam na ellir gosod gwydr ar y bont i wella gwelededd?

    Gan fod y tîm eisiau sicrhau bod pont newydd yn cael ei gosod ym mis Awst 2023, mae’r dylunwyr wedi bod yn gweithio o fewn amserlenni tynn iawn. O ganlyniad, mae dyluniad safonol wedi cael ei ddewis, fel bod modd cwblhau’r gwaith o ddylunio, saernïo a gosod y bont newydd erbyn dechrau gwyliau hanner tymor yr hydref. Byddai'r gwaith o ddylunio strwythur gwydr yn cymryd mwy o amser, a fyddai’n arwain at oedi a chostau sylweddol. 

    Mae risgiau cynnal a chadw tymor hir hefyd yn gysylltiedig â defnyddio’r paneli plastig neu wydr tryloyw sydd wedi’u hystyried yn y dyluniad. Mae risg y byddai’r paneli’n cael eu difrodi yn fuan ar ôl cael eu gosod, ac y byddai’n rhaid eu cynnal a’u cadw’n gyson. 

    Pa newidiadau sydd wedi'u gwneud i wella gwelededd ar y bont?

    Mae'r dyluniad yn cynnwys plât goleuo wedi'i osod ar y bont i wella gwelededd. 

    Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol i sicrhau bod y bont yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys trafodaethau ynghylch teledu cylch cyfyng ychwanegol. 

    Rydym hefyd wedi ehangu'r llwybr a'r dulliau ar ochr Beale Close y bont, er mwyn gwella gwelededd y rhai sy'n agosáu at y strwythur.