Beic a bws
Cyflwyniad Rydym yn cynnal arolwg byr i ddeall yn well sut rydych chi'n teithio ar fws a beic a'r heriau rydych chi'n eu hwynebu ar hyd y ffordd. Mae eich mewnbwn yn bwysig, p'un a ydych chi'n gymudwr dyddiol, yn feiciwr ar y penwythnos, neu'n rhywun sy'n ystyried opsiynau teithio mwy gwyrdd.
Ein nod yw gwneud eich taith yn fwy cyfleus. Drwy rannu eich profiadau, byddwch chi'n ein helpu i greu atebion sy'n gwneud teithio ar fws a beic yn haws i bawb. Yn yr arolwg hwn, byddwn yn gofyn am eich arferion teithio. Wrth 'deithio', rydym yn golygu'r teithiau rydych chi'n eu gwneud at eich dibenion eich hun, fel mynd i siopa, mynd i'r gwaith neu ddychwelyd adref. Wrth ‘olwynio’, rydym yn golygu cadeiriau olwyn, scooterau symudedd, pramiau a cherbydau tebyg eraill. Os yw eich gwaith yn cynnwys cludo neu ddanfon nwyddau neu bobl, er enghraifft gweithio fel gyrrwr bws neu yrrwr dosbarthu nwyddau, peidiwch â chynnwys y teithiau hynny sy'n gysylltiedig â gwaith. Dim ond yn y teithiau a ddechreuodd ac/neu a orffennodd yng Nghymru y mae gennym ddiddordeb. |