Beic a bws

Rhannu Beic a bws ar Facebook Rhannu Beic a bws Ar Twitter Rhannu Beic a bws Ar LinkedIn E-bost Beic a bws dolen

Helpwch ni i wella teithiau beic a bws

Mae Trafnidiaeth Cymru yn ymchwilio i sut i wneud teithio ar feiciau a bysiau yn fwy cyfleus. Rydym yn casglu adborth i ddeall yn well sut mae pobl yn teithio fel y gallwn lunio gwelliannau yn y dyfodol sy'n gweithio i bawb.

Mae hyn yn rhan o astudiaeth cychwynnol. Bydd eich adborth yn y cam cynnar hwn yn helpu i arwain ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Rydym eisiau deall

  • • Sut mae pobl yn defnyddio beiciau a bysiau gyda'i gilydd ar hyn o bryd
  • • Sut y gallent fod eisiau defnyddio beiciau a bysiau yn y dyfodol
  • • Sut y gallai Trafnidiaeth Cymru wella teithiau bws a'u gwneud yn fwy hygyrch a chyfleus
  • • A allai cysylltiadau gwell rhwng beiciau a bysiau annog mwy o bobl i feicio a theithio ar fws.

Sut i Ddweud Eich Dweud

Gallwch rannu eich barn drwy wneud y canlynol:

  • • Cwblhau ein harolwg i ddweud wrthym am eich profiadau a'ch syniadau
  • • Clicio drwy'r tab i ymuno ac i rannu barn gan ddefnyddio’r teclyn stori
  • • Cymryd rhan yn ein pôl cyflym.

Os oes angen help arnoch i gael mynediad at yr arolwg neu os byddai'n well gennych rannu eich barn mewn ffordd arall, cysylltwch ag activetravel@tfw.wales.

  • Cyflwyniad

    Rydym yn cynnal arolwg byr i ddeall yn well sut rydych chi'n teithio ar fws a beic a'r heriau rydych chi'n eu hwynebu ar hyd y ffordd. Mae eich mewnbwn yn bwysig, p'un a ydych chi'n gymudwr dyddiol, yn feiciwr ar y penwythnos, neu'n rhywun sy'n ystyried opsiynau teithio mwy gwyrdd.

    Ein nod yw gwneud eich taith yn fwy cyfleus. Drwy rannu eich profiadau, byddwch chi'n ein helpu i greu atebion sy'n gwneud teithio ar fws a beic yn haws i bawb. Yn yr arolwg hwn, byddwn yn gofyn am eich arferion teithio. Wrth 'deithio', rydym yn golygu'r teithiau rydych chi'n eu gwneud at eich dibenion eich hun, fel mynd i siopa, mynd i'r gwaith neu ddychwelyd adref. Wrth ‘olwynio’, rydym yn golygu cadeiriau olwyn, scooterau symudedd, pramiau a cherbydau tebyg eraill.  Os yw eich gwaith yn cynnwys cludo neu ddanfon nwyddau neu bobl, er enghraifft gweithio fel gyrrwr bws neu yrrwr dosbarthu nwyddau, peidiwch â chynnwys y teithiau hynny sy'n gysylltiedig â gwaith. Dim ond yn y teithiau a ddechreuodd ac/neu a orffennodd yng Nghymru y mae gennym ddiddordeb.

    Take Survey
    Rhannu Beic a bws ar Facebook Rhannu Beic a bws Ar Twitter Rhannu Beic a bws Ar LinkedIn E-bost Beic a bws dolen
Diweddaru: 30 Sep 2025, 01:17 PM