Beic a bws
Helpwch ni i wella teithiau beic a bws
Mae Trafnidiaeth Cymru yn ymchwilio i sut i wneud teithio ar feiciau a bysiau yn fwy cyfleus. Rydym yn casglu adborth i ddeall yn well sut mae pobl yn teithio fel y gallwn lunio gwelliannau yn y dyfodol sy'n gweithio i bawb.
Mae hyn yn rhan o astudiaeth cychwynnol. Bydd eich adborth yn y cam cynnar hwn yn helpu i arwain ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Rydym eisiau deall
- • Sut mae pobl yn defnyddio beiciau a bysiau gyda'i gilydd ar hyn o bryd
- • Sut y gallent fod eisiau defnyddio beiciau a bysiau yn y dyfodol
- • Sut y gallai Trafnidiaeth Cymru wella teithiau bws a'u gwneud yn fwy hygyrch a chyfleus
- • A allai cysylltiadau gwell rhwng beiciau a bysiau annog mwy o bobl i feicio a theithio ar fws.
Sut i Ddweud Eich Dweud
Gallwch rannu eich barn drwy wneud y canlynol:
- • Cwblhau ein harolwg i ddweud wrthym am eich profiadau a'ch syniadau
- • Clicio drwy'r tab i ymuno ac i rannu barn gan ddefnyddio’r teclyn stori
- • Cymryd rhan yn ein pôl cyflym.
Os oes angen help arnoch i gael mynediad at yr arolwg neu os byddai'n well gennych rannu eich barn mewn ffordd arall, cysylltwch ag activetravel@tfw.wales.
Byddem wrth ein bodd o glywed eich stori chi am yr hyn a fyddai’n gwneud i deithiau bws weithio’n well i chi.
Pa anghenion sydd gennych yr hoffech weld darpariaeth ar eu cyfer ar fysiau?
Ydych chi erioed wedi profi sefyllfa lle nad oedd lle ar gael ar fws ar gyfer eich anghenion?
Dywedwch wrthym sut y rheolwyd y sefyllfa hon neu sut y byddech chi wedi hoffi iddi gael ei rheoli.
Gall eich mewnwelediadau chi ein helpu i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cynhwysol ac yn fwy ymatebol i anghenion pawb. Rhannwch eich profiad a helpwch i lunio teithiau gwell i bawb.
- Does dim straeon i'w dangos. Pam nad ydych chi'n rhannu un?