Cael mynediad i doiled yn ystod eich taith

Rhannu Cael mynediad i doiled yn ystod eich taith ar Facebook Rhannu Cael mynediad i doiled yn ystod eich taith Ar Twitter Rhannu Cael mynediad i doiled yn ystod eich taith Ar LinkedIn E-bost Cael mynediad i doiled yn ystod eich taith dolen

Fel rhan o drawsnewid Metro De Cymru, cyn bo hir bydd trenau tram newydd yn dechrau ar eu gwaith ar reilffyrdd Treherbert, Aberdâr a Merthyr. Mae'r cerbydau modern hyn wedi'u cynllunio i ddarparu gwasanaethau cyflymach, amlach a mwy dibynadwy, gyda gwell cysylltiadau rhwng Caerdydd a'r Cymoedd.

Yn wahanol i drenau traddodiadol, ni fydd toiledau ar y trenau tram hyn. Er mwyn gwasanaethu ein cwsmeriaid, bydd podiau toiled hygyrch newydd yn cael eu hadeiladu mewn gorsafoedd allweddol ar hyd y daith. Mae'r cyfleusterau hyn wedi'u cynllunio i sicrhau nad yw teithwyr byth mwy nag 20 munud oddi wrth gyfleuster toiled yn ystod eu taith. Mae'r toiledau hyn yn gwbl hygyrch, yn cynnwys cyfleusterau newid babanod, ac yn cael eu monitro gan CCTV er diogelwch. Byddant ar agor o'r foment y bydd y trên cyntaf yn teithio nes y trên olaf pob dydd a gellir eu cyrchu trwy bwyso botwm galw sydd wedi'i gysylltu i'n canolfan reoli.

Rydym yn deall y gall y newid hwn godi cwestiynau neu bryderon, ac rydym am glywed eich barn. Nod yr arolwg hwn yw deall sut y gallwn gefnogi'r rhai a fydd yn defnyddio ein trenau tram orau a sicrhau bod ein cynlluniau i gynyddu nifer y toiledau ar draws ein rhwydwaith yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid.

Bydd eich adborth yn ein helpu i lunio penderfyniadau yn y dyfodol a sicrhau bod y Metro yn diwallu anghenion pob teithiwr.

I ddweud ‘diolch’ i chi am gymryd rhan, byddwn yn ychwanegu eich enw i raffl am gyfle i ennill taleb Amazon gwerth £50!

Diolch am gymryd yr amser i rannu eich syniadau.

  • Rydym yn cynnal arolwg i ddeall yn well sut mae pobl yn teithio ar y trên a sut mae argaeledd ac ansawdd cyfleusterau toiledau cyhoeddus mewn gorsafoedd trên yn effeithio ar eu teithiau.

    Bydd eich adborth yn ein helpu i ddarganfod:

    • Pa mor aml y mae teithwyr yn defnyddio'r trenau ac yn ystod eu teithiau, yn defnyddio'r toiledau ar ein trenau
    • Canfyddiadau o rhan glendid a hygyrchedd
    • Effaith y cyfleusterau hyn ar gysur, cyfleustra a dewisiadau teithio

    Dylai'r arolwg gymryd tua 5-7 munud i'w gwblhau. Caiff yr holl ymatebion eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig.

    Trwy rannu eich profiadau, byddwch yn cyfrannu at wella ansawdd cyffredinol teithio ar ein trenau a sicrhau bod cyfleusterau yn diwallu anghenion teithwyr.

    Diolch am gymryd rhan - rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad yn fawr! 

    Take Survey
    Rhannu Cael mynediad i doiled yn ystod eich taith ar Facebook Rhannu Cael mynediad i doiled yn ystod eich taith Ar Twitter Rhannu Cael mynediad i doiled yn ystod eich taith Ar LinkedIn E-bost Cael mynediad i doiled yn ystod eich taith dolen
Diweddaru: 19 Rhag 2025, 10:25 AC