Rydym yn defnyddio cwcis i sicrhau bod ein gwefan yn gweithio'n iawn ac i storio gwybodaeth gyfyngedig am eich defnydd. Gallwch roi caniatâd neu dynnu'n ôl ar unrhyw adeg. I gael gwybod mwy, darllenwch ein polisi preifatrwydd a'n polisi cwcis.
Addasu gosodiadau cwcis
Mae cwci yn wybodaeth sy'n cael ei storio ar eich cyfrifiadur gan wefan rydych chi'n ymweld â hi. Mae cwcis yn aml yn storio eich gosodiadau ar gyfer gwefan, fel eich dewis iaith neu leoliad. Mae hyn yn caniatáu i'r wefan gyflwyno gwybodaeth wedi'i haddasu i chi i gyd-fynd â'ch anghenion. Yn unol â chyfraith GDPR, mae angen i gwmnïau gael eich cymeradwyaeth benodol i gasglu eich data. Mae rhai o'r cwcis hyn yn 'gwbl angenrheidiol' i ddarparu swyddogaethau sylfaenol y wefan ac ni ellir eu diffodd, tra bod gan eraill os ydynt yn bresennol yr opsiwn o gael eu diffodd. Dysgwch fwy am ein polisïauPreifatrwydd a Chwcis. Gellir rheoli'r rhain hefyd o'n tudalen polisi cwcis.
Cwcis hanfodol:
Angenrheidiol i alluogi ymarferoldeb craidd. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn.
Cwcis dadansoddol:
Helpwch ni i ddadansoddi ymddygiad defnyddwyr, Mesur a deall sut mae ein defnyddwyr yn defnyddio ein gwefan, yn bennaf i weld a yw'r defnyddwyr yn gallu dod o hyd i bethau y maent yn chwilio amdanynt a gweithredu arnynt. Offer a ddefnyddiwyd: Google Analytics
Rhannu Coryton line ar FacebookRhannu Coryton line Ar TwitterRhannu Coryton line Ar LinkedInE-bost Coryton line dolen
Nid yw ein gwasanaethau ar lein Coryton a Penarth wedi bod yn ddigon da.
Boed hynny oherwydd oedi ar deithiau trên, oherwydd bod trenau’n terfynu’n gynnar neu’n cael eu canslo’n gyfan gwbl, nid dyma’r gwasanaeth yr ydych yn ei haeddu.
Rydyn ni'n gwybod hynny ac mae'n wir ddrwg gennym.
Mae grŵp pwrpasol wedi'i sefydlu i edrych ar y problemau a chanfod ffyrdd y gallwn ddychwelyd i'r safonau dibynadwyedd yr ydych yn eu disgwyl yn briodol.
Er bod yna lawer o resymau y gall fod oedi ar drenau, dyma rai pwyntiau allweddol:
Ym mis Mehefin y llynedd fe wnaethom ddatblygu amserlen newydd i gael y gorau o'n trenau newydd sbon sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd. Mae'r amserlen newydd hon yn cysylltu Coryton, Penarth a Chaerffili
Oherwydd nifer y trenau sy'n rhedeg ar rwydwaith y Cymoedd, mae'r amser rhwng y trenau’n dynn iawn yn Coryton a Phenarth . Mae hyn yn golygu pan fydd oedi ar un trên, gall gael sgîl-effaith yn hawdd iawn ar y trenau y tu ôl iddo. Nid yw’n hawdd ennill yr amser hwnnw’n ôl, neu fel rydym yn ei alw, ‘adfer yr amserlen’, heb achosi rhagor o darfu.
Os yw'r trên yn rhedeg yn hwyr iawn, fe all olygu gorfod terfynu'n gynnar, yn Tŷ glas er enghraifft, neu redeg yn gyflym heibio sawl gorsaf i ddiwedd y llwybr er mwyn adfer y sefyllfa. Mae hyn yn gweithio trwy effeithio ar y nifer lleiaf o bobl yn gyffredinol ond rydym yn deall yr effaith y mae'n ei chael ar y rhai sy'n defnyddio'r gorsafoedd yr ydym yn eu methu.
Nid yw ein trenau newydd ar gyfer llwybr Coryton/Penarth/Caerffili yn hollol barod eto. Pan gânt eu cyflwyno yn ddiweddarach yr haf hwn, bydd ganddynt sbardun cyflymach, mwy o gapasiti a mwy o hygyrchedd. Gyda mwy o gerbydau a mwy o ddrysau i fynd ar y trên a dod oddi arno, gallwn arbed eiliadau a munudau hanfodol wrth i ni gael trenau i mewn ac allan o orsafoedd. Yn ystod taith gyfan, mae'r arbedion bach hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Cyflwynom yr amserlen newydd pan wnaethom fel y gallai cwsmeriaid fwynhau mwy o’r manteision yn gynt, yn hytrach na gorfod aros i’r holl drenau newydd gael eu cyflwyno. Roedd hyn hefyd yn golygu y gallem ddod i arfer â'r strwythur gweithredu newydd a nodi unrhyw newidiadau yr oedd angen eu gwneud.
Er bod y rhan fwyaf o'r llwybrau wedi'u gwella, mae hwn yn un maes y mae angen i ni weithio arno.
Ein ymroddiad i chi:
Yn y tymor byr, byddwn yn cyflwyno cynllun newydd o 24 Mawrth a fydd yn gweld y gwasanaethau hyn yn rhedeg yn gyflym rhwng Caerffili a Chaerdydd Heol y Frenhines. Bydd hyn yn creu mwy o amser adfer yn yr amserlenni ac yn darparu gwasanaeth cyflym i Gaerdydd ar gyfer cwsmeriaid Caerffili. Er na fyddwn yn galw yn Llys-faen, Llanisien na Lefel Uchel y Mynydd Bychan sydd a'r lein Coryton, mae gan y gorsafoedd hyn bedwar trên yr awr i bob cyfeiriad o hyd. Caiff hyn ei gyflwyno am gyfnod prawf.
Rydym yn addo, os bydd yn rhaid i ni redeg trên yn gyflym i un cyfeiriad, byddwn yn sicrhau ei fod yn stopio i'r cyfeiriad arall. Felly os yw trên yn rhedeg yn hwyr i Gangen Coryton, byddwn yn methu’r gorsafoedd ar y daith i fyny i Coryton ond yn sicrhau bod y gwasanaeth yn galw ym mhob stop ar y daith i lawr o Coryton.
Rydym am ymrwymo y byddwn yn gwella ein gwybodaeth i gwsmeriaid ac yn darparu'r wybodaeth hon mewn modd amserol.
Rydym am ymrwymo i ddiogelu rhai trenau allweddol yn ystod amseroedd ysgol a chymudo yn y bore/nos.
Rydym am ymrwymo i wrando a bod yn agored i syniadau penodol.
Rydym am ymrwymo i gynnal ein gwasanaeth ar reilffordd Penarth ac i gyflawni gwelliannau perfformiad trwy ein grŵp pwrpasol.