Gorsafoedd newydd rhwng Caerdydd a Chyffordd Twnnel Hafren gyda gwell gwasanaethau trawsffiniol
Consultation has concluded
1. Darllenwch yr wybodaeth yn y ddogfen ymgynghori (lawrlwytho)
3. Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin (lawrlwytho), os oes gennych gwestiynau sy'n weddill
Dywedwch wrthym beth yw eich barn am ein cynlluniau ar gyfer gorsafoedd newydd rhwng Caerdydd Canolog a Chyffordd Twnnel Hafren, a chynigion newydd ar gyfer gwasanaethau trên.
Rydyn ni eisiau ei gwneud hi’n haws i bawb deithio’n fwy cynaliadwy, p’un ai ydyn ni’n cysylltu â ffrindiau neu deulu, yn mynd i’r gwaith, neu’n mynd i gyfleoedd addysg a hamdden.
Rydyn ni’n datblygu cynigion ar gyfer pum gorsaf reilffordd newydd rhwng Caerdydd Canolog a Chyffordd Twnnel Hafren a gwasanaethau rheilffordd trawsffiniol newydd i newid y ffordd mae pobl yn teithio ar draws un o goridorau trafnidiaeth prysuraf Cymru.
Mae’r cynigion yn rhan o argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ar gyfer mynd i’r afael â thagfeydd cerbydau ar Draffordd yr M4. Canfu’r comisiwn nad oedd gan bobl ddewisiadau teithio da yn lle’r draffordd ac argymhellodd y dylid datblygu ‘Rhwydwaith o Ddewisiadau Amgen’ i roi gwell opsiynau i bobl deithio ar drên, bws, cerdded a beicio.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud ag elfennau craidd rheilffyrdd y rhwydwaith hwnnw, sy’n cael eu datblygu o dan ein rhaglen Prif Linell De Cymru. Rydyn ni’n gweithio gyda Network Rail, yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru.
Nod y cynllun yw gwella cysylltedd rhwng cymunedau maestrefol a chyrchfannau rhanbarthol allweddol yn De-ddwyrain Cymru a de orllewin Lloegr drwy wasanaethau a gorsafoedd newydd.
Bydd gorsafoedd newydd yn Nwyrain Caerdydd (Newport Road), Gorllewin Casnewydd, Somerton, Llan-wern, a Magwyr a Gwndy yn darparu gwell mynediad at y rheilffordd i gymunedau yn Ne Cymru.
Bydd y gorsafoedd newydd yn cael eu gwasanaethu gan wasanaethau presennol a newydd rhwng Caerdydd a Cheltenham, a gwasanaethau newydd rhwng Caerdydd a Bryste. Bydd o leiaf dau, a hyd at bedwar trên yr awr i bob cyfeiriad yn galw yn y gorsafoedd arfaethedig.
Byddant yn ddiogel ac yn hygyrch gyda chyfleusterau storio beiciau diogel, gan ei gwneud yn haws i’n cwsmeriaid gerdded, mynd ar olwynion neu feicio i’r gorsafoedd ac oddi yno.
Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod y cynigion hyn yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu yn y ffordd orau. Dyna pam rydyn ni eisiau clywed gennych chi
Dweud eich dweud, isod.