Rhwydwaith Gogledd Cymru
Rydym wedi lansio Rhwydwaith Gogledd Cymru, gweledigaeth buddsoddi tymor hir i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, aml-amser i Ogledd Cymru, gyda'r Metro yn ei chalon, yn cysylltu â Mersyside, Sir y Fflint a Gogledd Lloegr ehangach. Bydd Rhwydwaith Gogledd Cymru yn cysylltu pobl â swyddi, cyfleoedd, cymuned a bywyd gwell.
Y Weledigaeth: Drwy Rwydwaith Gogledd Cymru, byddwn yn adeiladu rhwydwaith i wneud y mwyaf o gyfleoedd ar draws ein rhanbarth trawsffiniol.Mae'r weledigaeth wedi'i gosod i gysylltu pobl a chymunedau yng Ngogledd Cymru a'r rhanbarthau cyfagos â swyddi, cyfleoedd, gweithgareddau hamdden ac ansawdd bywyd gwell.
Dyma gyfle i gymunedau a busnesau roi adborth ar y weledigaeth a thrafnidiaeth gyhoeddus yn y rhanbarth.
Fodd bynnag, rhaid inni fod yn glir; er bod rhai newidiadau’n digwydd nawr, mae hon yn weledigaeth feiddgar ar gyfer dyfodol hirdymor y rhanbarth. Ni fyddwn yn gallu gwneud popeth y gallai pobl ei eisiau yn y cam cyntaf.
Y rhwydwaith rydyn ni'n sôn amdano yw un sy'n mynd â ni i 2035 a thu hwnt. Mae hwn yn gyfle i drawsnewid sut mae pobl yn teithio ar draws y rhanbarth, gan ddatgloi twf economaidd, gwella mynediad at swyddi a gwasanaethau a chefnogi dyfodol mwy cynaliadwy i'n cymunedau.
Pa newidiadau fydd Gogledd Cymru yn eu gweld?
- Buddsoddi mewn seilwaith er mwyn caniatáu gwasanaethau rheilffordd amlach
- Cysylltiadau rheilffordd newydd rhwng Gogledd Cymru a Lerpwl
- Llwybrau bysiau a choetsys newydd
- Trydaneiddio trenau a bysiau - lleihau allyriadau carbon
- Gorsafoedd rheilffordd newydd a gwell ar y rhwydwaith
- System docynnau sy’n haws ei defnyddio
- Cyflwyno talu wrth fynd - gwneud teithio ar y trên yn rhwyddach
Rydym am glywed gan y rhai sy'n byw ac yn gweithio yn rhanbarth Gogledd Cymru yn ogystal â'r rheini sy'n teithio iddo ar yr hyn sydd bwysicaf iddynt er mwyn helpu i ddyfnhau'r weledigaeth hon.
Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'r adborth-
Bydd y data a gesglir o'r ymgysylltiad hwn yn cael ei ddadansoddi, ei werthuso, ei grynhoi a'i gyhoeddi ar ffurf adroddiad. Tîm Rhaglen Rhwydwaith Gogledd Cymru fydd yn berchen ar yr adroddiad hwn, a fydd yn defnyddio'r wybodaeth er mwyn;
- Llywio timau’r prosiect sy'n cyflawni'r blaenoriaethau cyflawni uniongyrchol, i addasu neu ddiwygio unrhyw brosiectau 'ar lawr gwlad' neu sydd brosiectau sy'n ddechrau'n cyn bo hir i wneud unrhyw newidiadau neu welliannau cadarnhaol perthnasol, lle bynnag y bo'n ymarferol bosibl.
- Cyfrannu at achos(ion) busnes y blaenoriaethau datblygu Cyfrannu at achos(ion) busnes y blaenoriaethau datblygu uniongyrchol i ddangos gofynion rhanddeiliaid a'r gymuned gyda'r nod o gryfhau achosion ymhellach
- Mireinio Gweledigaeth Rhwydwaith Gogledd Cymru ymhellach
- Gweithio gyda phartneriaid rhanddeiliaid i rannu adborth perthnasol ar gyfer blaenoriaethau cydlynol megis gyda'n partneriaid awdurdod lleol sy’n gweithio gyda TrC ar ddiwygio’r bysiau yn y dyfodol a'r timau trafnidiaeth ranbarthol sy'n arwain ar y cynlluniau trafnidiaeth ranbarthol ar gyfer y rhanbarth, yr ymgynghorwyd arnynt yn ddiweddar.