Gwibfws ​​Gogledd i Dde Cymru – Cynnig

Rhannu Gwibfws ​​Gogledd i Dde Cymru – Cynnig ar Facebook Rhannu Gwibfws ​​Gogledd i Dde Cymru – Cynnig Ar Twitter Rhannu Gwibfws ​​Gogledd i Dde Cymru – Cynnig Ar LinkedIn E-bost Gwibfws ​​Gogledd i Dde Cymru – Cynnig dolen

Mae'r ymgysylltiad wedi dod i ben

Gwibfws Gogledd i Dde Cymru – Cynnig

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio i wella cysylltedd rhwng Gogledd a De Cymru drwy ystyried coets gyflym neu ‘wibfws’ newydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin. Byddai'r gwasanaeth arfaethedig hwn yn gwella opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy ar hyd arfordir gorllewinol Cymru, wrth fod o fudd i gymunedau, twristiaid a myfyrwyr prifysgol ledled y rhanbarth.

Yn amodol ar gyllid, byddai'r gwasanaeth newydd hwn yn darparu amseroedd teithio cyflymach a chysylltiadau gwell rhwng trefi mawr a gorsafoedd rheilffordd, gyda chynlluniau i drosglwyddo i fysiau trydan dim allyriadau yn y dyfodol.

Byddai'r gwasanaeth yn sicrhau bod cymunedau ar hyd coridor y gorllewin wedi'u cysylltu'n well, gan ddarparu gwell mynediad at addysg, cyrchfannau twristiaeth a chyfleoedd cyflogaeth.

Rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn fel y gallwn ddarganfod sut rydych chi'n teimlo am y cynnig hwn. Bydd eich adborth yn helpu i lunio sut y gellir datblygu'r cyswllt trafnidiaeth arfaethedig hwn.

Byddai'r gwasanaeth arfaethedig yn:

  • Torri tua 90 munud oddi ar amser teithiau presennol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Galw yn lleoliadau allweddol gan gynnwys Caernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth, ac Aberaeron.
  • Cysylltu â gwasanaethau trên er mwyn hwyluso teithiau ymlaen.
  • Yn y pen draw yn rhedeg bob dwy awr drwy gydol y dydd.
  • Darparu bysiau cyfforddus gyda chyfleusterau sy'n addas ar gyfer teithiau hirach.

Mae gennych tan ddydd Gwener, 28 Mawrth i roi eich barn. Gallwch weld y cynigion a'r deunyddiau ymgynghori ar y dudalen hon a gallwch ymateb i'r arolwg trwy glicio ar y linc.

Cyflwyniad i’r gwasanaeth 

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gwmni nid-er-elw ac yn is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. Rydym yn gyfrifol am hyrwyddo opsiynau trafnidiaeth cynaliadwy sydd o fudd i gymunedau ledled Cymru ac sy'n cadw Cymru i symud. Rydym am i fwy o bobl ddewis trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded, olwynio a beicio yn hytrach na defnyddio'r car. Cefnogir y newid moddol hwn mewn cynllunio teithiau gan Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 sydd â chynaliadwyedd wrth ei gwraidd ac sy'n hanfodol er mwyn ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Mae TrC wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda sefydliadau partner, rhanddeiliaid, cymunedau, cwsmeriaid ac aelodau'r cyhoedd i sicrhau ein bod yn creu system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n cael ei siapio'n llwyr gan anghenion y bobl rydym yn eu gwasanaethu.

I gefnogi'r uchelgeisiau a ddisgrifir uchod, mae TrC wedi cynnal astudiaeth Cysylltedd Gogledd - De Cymru ar hyd arfordir gorllewin Cymru gan nad oes cysylltiad rheilffordd uniongyrchol ar hyd y coridor hwn ar hyn o bryd, ac mae opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus pellter hir yn wael. O ganlyniad i'r astudiaethau hyn, awgrymwyd gwasanaeth gwibfws ar hyd y coridor rhwng Bangor a Chaerfyrddin, gan dorri tua 90 munud oddi ar amser y daith gyfan ar fws/ trên ar hyn o bryd.

Dull Teithio Hyd Taith Arferol 
Car 3.5 awr – 4 awr
Bws T1/T2 presennol awr 20 munud
Rheilffordd (trwy Amwythig)  awr 20 munud 
Gwibfws TrawsCymru awr 45 munud

Awgrymir defnyddio gwibfws oherwydd bod astudiaethau blaenorol TrC wedi dod i'r casgliad nad yw seilwaith rheilffyrdd ar gyfer y daith gyfan yn ymarferol yn y tymor byr. Fodd bynnag, gallai ysgogi'r galw am drafnidiaeth gyhoeddus ar hyd y coridor hwn helpu i adeiladu'r sylfeini ar gyfer buddsoddiad mewn rheilffordd arfordir y gorllewin yn y dyfodol.

Rydym yn annog pawb sydd â diddordeb yn yr astudiaeth hon o gysylltiad gwibfws o’r Gogledd i’r De i rannu eu teimladau gyda ni. Hoffem glywed eich barn ar y gwasanaeth gwibfws hwn trwy ateb y cwestiynau isod.

Gyda'n gilydd, ein nod yw creu rhwydwaith trafnidiaeth y mae pobl eisiau ei ddefnyddio a sicrhau ei bod yn haws i bobl wneud dewisiadau trafnidiaeth mwy cynaliadwy nawr ac yn y dyfodol.

 Manylion y gwasanaeth 

Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am ddyluniad arfaethedig y gwasanaeth gwibfws hwn, wedi'i rhannu ar draws tair is-thema. Mae athroniaeth gyffredinol y gwasanaeth fel a ganlyn:

  • Gweithredu fel catalydd ar gyfer twristiaeth carbon isel a newid mewn dulliau teithio.
  • Gwella cysylltedd rhwng prifysgolion a phrif fannau o ddiddordeb.
  • Llwyddo i leihau hyd y daith gyfan gan 90 munud, o'i gymharu â thrafnidiaeth gyhoeddus bresennol.
  • Cystadlu â’r amser y mae’n ei gymryd i wneud y daith mewn car
  • Bod yn wasanaeth cost isel a symlach i'w weithredu o'i gymharu ag opsiynau rheilffyrdd eraill.
  • Cefnogi'r achos dros fuddsoddiad mewn trawsnewid y rheilffyrdd a buddsoddiad rhanbarthol dros y tymor hir.

Dylunio’r llwybr 

Mae'r ffigur canlynol yn cynnwys trosolwg lefel uchel o lwybr arfaethedig y gwasanaeth. Sylwch mai gwasanaeth gyda nifer cyfyngedig o stopiau yw hwn sy'n caniatáu iddo gyflawni amseroedd teithio cystadleuol o’u cymharu â’r car. Er ein bod yn ymgysylltu â chi er mwyn dod i ddeall eich barn ar alinio’r llwybr hwn, rhaid deall y bydd arosfannau ychwanegol yn cael effaith negyddol ar y math hwn o wasanaeth cyflym. Byddai natur y gwasanaeth hwn, a fyddai’n cynnwys nifer cyfyngedig o stopiau, hefyd yn lleihau'r risg o gystadlu â gwasanaethau bws presennol TrawsCymru.

Mae'r ffigur hefyd yn tynnu sylw at yr ymdrech i integreiddio'r gwasanaeth hwn â'r rheilffyrdd a lle gellid gwneud gwelliannau posibl i’r ffordd y gallai pobl gyfnewid rhwng dulliau teithio neu le y gellid defnyddio gwelliannau presennol/sydd wedi’u cynllunio. Sylwch mai ein cynllun cychwynnol yw treialu'r gwasanaeth gwibfws hwn i redeg yn llai aml, gan ddefnyddio cerbydau diesel i sicrhau ei hyfywedd cyn newid y gwasanaeth i fod yn wasanaeth dim.

Dylunio’r Gwasanaeth  

Yr uchelgais yn y pen draw yw cyflwyno gwasanaeth sy’n rhedeg bob dwy awr, sy'n cyd-fynd â gwasanaethau lleol eraill ac sy'n sicrhau'r cysylltiad mwyaf â'r rhwydwaith rheilffyrdd, a hynny oll tra’n cydbwyso costau. Mae amlder y gwasanaeth hwn hefyd yn gofyn am gost cyfalaf ymlaen llaw ar gyfer cerbydau sydd yn fwy rhesymol, hyd yn oed os byddwn yn cyflwyno fflyd dim allyriadau.

Dylunio’r Cerbydau a’r Cyfleusterau

Mae'r defnydd o goets ar gyfer y gwasanaeth hwn yn rhoi’r posibilrwydd o ddarparu nifer o gyfleusterau nad yw'n bosibl trwy ddefnyddio bws. Hynny yw, byddai modd cyflwyno toiledau, cyfleusterau storio bagiau mawr, byrddau, seddi lledorwedd, mwy o le i ymestyn eich coesau ac ati, tra'n cynnal gofynion hygyrchedd trwy gynnwys lifftiau i gadeiriau olwyn, ardaloedd ar gyfer cadeiriau olwyn ac offer sain/gweledol digonol ayyb.

Yn yr un modd, mae ffocws ar gyfleusterau galw ar hyd y llwybr yn bryder allweddol. Mae'r ffigur isod yn cynnwys enghreifftiau o nifer o gyfleusterau, ac rydym yn croesawu eich barn ar flaenoriaeth pob un mewn arosfannau. Mae enghreifftiau'n cynnwys nodweddion diogelwch megis teledu cylch cyfyng, goleuadau, seddi, lleoedd i storio beiciau, mannau gwyrdd, darpariaeth gwybodaeth amser real a chyfleusterau croesi wedi'u huwchraddio.

Yn olaf, mae digideiddio'r gwasanaeth hwn a'r hwylustod o’i ddefnyddio’n hollbwysig. Ein huchelgais yw cynnwys y broses archebu a phrynu tocynnau ar gyfer y gwasanaeth hwn ar ein ap ffôn symudol. Mae angen ystyriaeth bellach o hyd o ran strwythur prisiau a'n gallu i gynnig cynigion prisiau targed/strategol, er enghraifft, cysylltu â'r Pas Archwilio Cymru sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd.

  • Y camau nesaf 

    Bydd yr arolwg ar agor tan 28 Mawrth 2025 ac, unwaith y bydd yn dod i ben, byddwn yn lawrlwytho'r data crai ac yn dechrau’r broses ddadansoddi. Byddwn hefyd yn defnyddio'r teclyn deallusrwydd artiffisial 'Wordnerds' er mwyn ddadansoddi a chynhyrchu themâu a theimladau yn seiliedig ar y data a gasglwyd. Caiff yr holl ymatebion eu trin yn unol â'r holl gyfreithiau perthnasol sy'n ymwneud â diogelu data personol, gan gynnwys Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU. Mae rhagor o wybodaeth am sut y mae TrC yn casglu data ar ein gwefannau ar gael yma: TrC: Datganiad Preifatrwydd. 

    Cyflwyno’r canlyniadau    

    Pan ddaw'r ymgysylltiad a'r arolwg i ben, caiff y canlyniadau eu dadansoddi a'u paratoi ar ffurf adroddiad. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi a bydd ar gael ar dudalen we TrC. Pwrpas yr adroddiad yw cyflwyno disgrifiad o'r ymgysylltiad â'r cyhoedd a rhanddeiliaid a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgysylltu. Mae hyn yn cynnwys canfyddiadau allweddol ein hymgysylltiad. Yna caiff yr adroddiad ei gyflwyno fel rhan o'r achos busnes i Lywodraeth Cymru, i'w ystyried ymhellach ac i ystyried camau posibl yn y dyfodol. 

    Mae'r ymgysylltiad wedi dod i ben

    Rhannu Arolwg Gwibfws Gogledd i Dde Cymru ar Facebook Rhannu Arolwg Gwibfws Gogledd i Dde Cymru Ar Twitter Rhannu Arolwg Gwibfws Gogledd i Dde Cymru Ar LinkedIn E-bost Arolwg Gwibfws Gogledd i Dde Cymru dolen