
Arolwg cyhoeddus Llwybr Teithio Llesol Hwlffordd
Mae Cyngor sir Penfro a Trafnidiaeth Cymru wrthi’n archwilio ffyrdd o wella cerdded, olwynio a beicio rhwng gorsaf drenau Hwlffordd, Hen Bont a Swan Square. Rydyn ni hefyd yn chwilio am ffyrdd o wella mannau cyhoeddus yn yr ardal hon.
Nid ydym wedi creu unrhyw ddyluniadau eto. Rydyn ni am glywed gennych chi yn gyntaf. Bydd eich gwybodaeth leol yn ein helpu ni i ddeall sut caiff yr ardal ei defnyddio heddiw, yr hyn sy’n gweithio’n dda, yr heriau, a’r hyn y dylid ei ystyried wrth inni ddatblygu syniadau.
Mae’r map isod yn dangos yr ardal yr ydym yn ffocysu arni. Mae’n cynnwys Cartlett, Cylchfan Salutation Square, yr A40 rhwng Aldi a Chyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd, Mill Road, Hen Bont a Swan Square.

Dylai’r arolwg hwn gymryd tua 10 i 15 munud i'w gwblhau. Does dim atebion cywir nag anghywir, a does dim angen ateb unrhyw gwestiynau nad ydynt yn berthnasol i chi.
Bydd eich adborth yn helpu i lywio opsiynau dylunio’r dyfodol ar gyfer yr ardal hon.
