Beth yw Porth Wrecsam?

    Mae safle Porth Wrecsam i’r gorllewin o ganol dinas Wrecsam ac yn fras mae’n cynnwys y lleoliadau canlynol: 

    • Gorsaf Drenau Wrecsam Cyffredinol;
    • Cyn safle Jewson;
    • Hen safle Countrywide Store;
    • Cwt sgowtiaid ardal Wrecsam;
    • Depo Swyddfa’r Post; a
    • STōK Cae Ras, gan gynnwys yr ardal i’r dwyrain a maes parcio’r Brifysgol i’r gogledd.

    Beth yw WelTAG

    Mae cynllun canolfan drafnidiaeth Porth Wrecsam yn cael ei ddatblygu gan ddefnyddio WelTAG (canllawiau ar arfarnu trafnidiaeth Llywodraeth Cymru). Ar hyn o bryd, rydyn ni yng Ngham Dau WelTAG (Achos Busnes Amlinellol). Mae canllawiau WelTAG 2022  yn nodi fframwaith eang ar gyfer adnabod, arfarnu a gwerthuso atebion i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth. Mae’n helpu i ganfod y cynllun mwyaf buddiol ac yn caniatáu cymharu cynlluniau ar sail tebyg am debyg. 

    Mae proses WelTAG yn cynnwys pum cam sydd â'r bwriad o gynnwys cylch bywyd cynllun trafnidiaeth arfaethedig, o’r cysyniad i’r gwerthusiad ar ôl gweithredu. 

    Dyma bum cam WelTAG:

    • Cam Un – Achos Amlinellol Strategol.
    • Cam Dau – Achos Busnes Amlinellol.
    • Cam Tri – Achos Busnes Llawn.
    • Cam Pedwar – Cyflawni.
    • Cam Pump – Monitro a Gwerthuso.

    Pam Wrecsam?

    Wrecsam yw’r ddinas fwyaf yng Ngogledd Cymru ac felly mae gorsaf reilffordd Wrecsam Cyffredinol yn ganolfan bwysig ar gyfer symudiadau i mewn ac allan o’r ddinas ar drên. Mae’r orsaf reilffordd yn darparu mynediad da i’r ardal ehangach, gyda gwasanaethau uniongyrchol i arfordir Gogledd Cymru, cyrchfannau allweddol ar draws Gogledd-orllewin Lloegr a Chanolbarth Lloegr, yn ogystal â Chilgwri drwy Lein y Gororau. 

    Mae TrC wrthi’n cyflawni rhaglen Metro Gogledd Cymru, sy’n ceisio datblygu rhwydwaith trafnidiaeth aml-ddull sydd wedi’i drawsnewid ac sy’n addas ar gyfer gofynion y rhanbarth yn y byd modern. Rhan allweddol o hyn yw gwella’r ddarpariaeth mewn gorsafoedd rheilffordd allweddol ar draws y rhanbarth a mynediad atynt, gan gynnwys gorsaf Wrecsam Cyffredinol.

    Ar y cyd â hyn, mae’r cynigion ar gyfer safle Porth Wrecsam wedi cyflwyno cyfle i ddatblygu cyfnewidfa well o lawer rhwng dulliau trafnidiaeth yng ngorsaf drenau Wrecsam Cyffredinol, yn unol â’r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy a nodir yn strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Llwybr Newydd.

    Amcanion yr astudiaeth

    Fel rhan o astudiaeth flaenorol cam un WelTAG a gwblhawyd yn 2022, nodwyd set o amcanion astudio ynglŷn â gwelliannau i drafnidiaeth o fewn ac o amgylch safle Porth Wrecsam. 

    Bydd yr amcanion astudiaeth hyn yn cael eu defnyddio i lywio’r astudiaeth hon ac yn cael eu crynhoi fel a ganlyn:

    • Cysylltu busnesau a phobl yn well.
    • Cefnogi ffyniant economaidd Wrecsam a’r rhanbarth ehangach.
    • Gwella iechyd y cyhoedd a mynediad cyfartal.
    • Mynd i'r afael â newid hinsawdd a diogelu'r amgylchedd.

    Beth sydd wedi digwydd hyd yma?

    Mae’r prosiect wedi symud ymlaen drwy gam un WelTAG (achos strategol), a ddatblygodd ‘achos dros newid’ yn seiliedig ar y rhwystrau a’r cyfleoedd presennol ar y safle. Datblygwyd yr astudiaeth WelTAG mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a phartneriaid ehangach ar brosiect Porth Wrecsam. 

    Ar y cyd â’r astudiaeth WelTAG flaenorol, mae uwchgynllun yn cael ei ddatblygu ar gyfer safle ehangach Porth Wrecsam, gan ymgorffori’r ganolfan drafnidiaeth arfaethedig o flaen yr orsaf. Mae’r uwchgynllun Porth Wrecsam ehangach yn cael ei ddatblygu gan Bartneriaeth Porth Wrecsam, gyda chydweithrediad agos â’r astudiaeth WelTAG hon. 

    Rydyn ni nawr ar y pwynt lle rydyn ni eisiau dechrau datblygu’r opsiynau posibl ar gyfer y ganolfan drafnidiaeth yn fanylach. Byddem yn croesawu syniadau ac awgrymiadau fel rhan o’r broses ymgysylltu hon i helpu i fwydo i mewn i’r dyluniadau, yn ogystal â chadarnhad bod y materion allweddol yn yr ardal yn cael sylw.

    Pam mae angen y cynllun?

    Mae’r ganolfan drafnidiaeth yn elfen allweddol o’r gwaith o adfywio Porth Wrecsam yn ehangach. Mae ailddatblygu trawsnewid safle’r porth yn gyfle i sicrhau bod cerddwyr, beicwyr a thrafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu gosod ar frig yr hierarchaeth dulliau teithio, gan alluogi adfywio a buddsoddiad economaidd, hyrwyddo twristiaeth, gwella cynhwysiant cymdeithasol a ffyrdd iach o fyw yn Wrecsam. 

    Nododd yr astudiaeth WelTAG flaenorol ‘Achos dros Newid’ ar y safle, gan amlinellu pam y byddai cynllun yn dod â manteision i’r ardal. Roedd yr astudiaeth flaenorol yn tynnu sylw at rai o’r rhwystrau sy’n wynebu teithwyr ar hyn o bryd:

    • Materion yn ymwneud â gwahanu’r rheilffyrdd a’r priffyrdd sy’n achosi rhwystrau ffisegol i symud yn yr ardal.
    • Nid yw rhwydwaith dyrys ac annigonol ar gyfer cerdded a beicio, nac arwyddion dryslyd a dulliau cyfyngedig o ganfod y ffordd chwaith yn cefnogi teithiau ar droed na beicio i’r ardal ehangach.
    • Seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwael a chyfleusterau cyfnewid yng ngorsaf drenau Wrecsam Cyffredinol, na fydd yn cefnogi statws uwchraddio’r orsaf yn unol â dyheadau’r dyfodol. 
    • Materion mynediad i bob defnyddiwr yng ngorsaf drenau Wrecsam Cyffredinol, gan gynnwys mynediad gwael i gerddwyr, lle cyfyngedig i storio beiciau, cyfleusterau cyfnewidfa bysiau gwael, a ffordd gul o gyrraedd yr orsaf. 
    • Maes parcio gorlif i gymudwyr ar strydoedd preswyl cyfagos, gan gynnwys Lôn Crispin. 
    • Materion yn ymwneud â mynediad i gerbydau a phryderon ynghylch diogelwch wrth Ffordd Dynesu’r Orsaf, wrth gyffordd Ffordd yr Wyddgrug, ac ar Lôn Crispin. 
    • Mae’r rhwydwaith ffyrdd o’i gwmpas yn wynebu tagfeydd ac oedi, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur ar hyd coridor yr A541 Ffordd yr Wyddgrug. Mae hyn yn cael ei waethygu gan ddibyniaeth uchel ar geir preifat yn Wrecsam.
    • Mae gan Wrecsam rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ac felly mae ardal sy’n dibynnu ar geir yn cynyddu anghydraddoldebau cymdeithasol. 

    Rydyn ni’n awyddus i glywed gennych chi os ydych chi’n meddwl bod y rhain yn gywir ar sail eich profiadau yng ngorsaf drenau Wrecsam Cyffredinol, ac os ydych chi’n meddwl y dylem ni fod yn ystyried problemau/cyfleoedd ychwanegol sy’n gysylltiedig â’ch profiad.

    Beth sy’n digwydd i fy adborth?

    Bydd eich adborth yn cael ei ystyried fel rhan o’r gwaith o ddatblygu dyluniadau’r ganolfan drafnidiaeth a dilysu’r materion a’r cyfleoedd a nodwyd. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod y cynigion yn cyd-fynd â disgwyliadau’r cyhoedd. Byddant yn cael eu hystyried ochr yn ochr â’r amcanion, yr achos dros newid a’r polisïau a’r dyheadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, er mwyn datblygu’r opsiynau ar y rhestr fer sydd â’r nod gorau o oresgyn y problemau a manteisio i’r eithaf ar y cyfle.

    Beth os ydw i’n meddwl am rywbeth ar ôl i’r rownd ymgysylltu yma ddod i ben? Oes cyfle i mi roi sylwadau ar y cynlluniau pan fyddan nhw’n cael eu cynnig?

    Oes, ar yr amod bod y cynllun yn cael ei ddatblygu, byddem yn rhagweld ymgynghoriad cyhoeddus yn crynhoi canfyddiadau astudiaeth cam dau WelTAG, cyn bwrw ymlaen â dyluniad manwl yr opsiwn sy’n cael ei ffafrio.

    Byddai gofyn hefyd bod y cynllun yn dilyn unrhyw brosesau statudol cysylltiedig, er enghraifft, gofynion cynllunio os yw’n berthnasol.

    Pwy sy’n gyfrifol yn y pen draw am benderfynu ar y gwelliannau arfaethedig yn safle canolfan drafnidiaeth Porth Wrecsam?

    Mae Partneriaeth Porth Wrecsam yn cynnwys partneriaid o TrC, Llywodraeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Phrifysgol Wrecsam. Mae’r safle ei hun yn eiddo i nifer o berchnogion tir gwahanol ac felly bydd y penderfyniad terfynol i fwrw ymlaen, neu beidio, ar yr awdurdod / perchennog tir perthnasol. 

    Fel partner allweddol ar brosiect Porth Wrecsam, mae TrC yn gyfrifol am ddatblygu’r cynigion ynglŷn â gorsaf drenau Wrecsam Cyffredinol a’r ganolfan drafnidiaeth arfaethedig. Rydyn ni’n ceisio datblygu’r cynllun mewn ffordd sy’n lliniaru risgiau posibl ac yn cynyddu cyfraniadau at amcanion polisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, gyda’r bwriad y bydd hyn yn gweithredu fel sail ddibynadwy i awdurdodau perthnasol wneud penderfyniad a chefnogi cyllid cyfalaf yn y dyfodol.

    A yw’r prosiect hwn yn gysylltiedig â gwelliannau arfaethedig i deithio llesol Ffordd yr Wyddgrug?

    Er nad yw’n uniongyrchol gysylltiedig â’r gwelliannau teithio llesol arfaethedig ar hyd Ffordd yr Wyddgrug, bydd canolfan drafnidiaeth arfaethedig Porth Wrecsam yn ystyried sut mae’r safle’n rhyngweithio â dyheadau’r llwybr teithio llesol ehangach. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy’n gyfrifol am ddatblygu gwelliannau teithio llesol Ffordd yr Wyddgrug, hefyd yn bartner ar y prosiect hwn ac felly mae cyfleoedd i gynyddu i’r eithaf ar fanteision rhyngweithio rhwng y ddau gynllun yn cael eu hystyried yn weithredol.

    Os na allaf ddod i unrhyw un o'r digwyddiadau wyneb yn wyneb ac nad wyf am gwblhau'r arolwg ar-lein, a fydd copïau papur ar gael?

    Bydd copïau o’r arolygon ar gael i’w casglu o swyddfa gwybodaeth gorsaf drenau Wrecsam Cyffredinol a hefyd Tŷ Pawb (i'w gadarnhau)

    Gallwch chi gwblhau’r arolwg yn unrhyw un o’r lleoliadau uchod a phostio eich arolwg wedi’i gwblhau yn y blwch diogel. 

    Gallwch chi ddychwelyd eich arolwg wedi’i lenwi drwy’r post i ganolfan drafnidiaeth Porth Wrecsam, Trafnidiaeth Cymru, Tŷ Ellice (Uned H), Pentref Busnes Wrecsam, Ellice Way, Wrecsam, LL13 7YL. 

    Neu, gallwch chi anfon eich arolwg wedi’i lenwi dros e-bost i engagement@tfw.wales

    Sut mae gofyn am gopi o’r arolwg mewn print bras?

    Gallwch chi ofyn am gopi o'r arolwg mewn print bras o engagement@tfw.wales