Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru: Helpwch i lunio dyfodol teithio ar draws y rhanbarth

Rhannu Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru: Helpwch i lunio dyfodol teithio ar draws y rhanbarth ar Facebook Rhannu Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru: Helpwch i lunio dyfodol teithio ar draws y rhanbarth Ar Twitter Rhannu Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru: Helpwch i lunio dyfodol teithio ar draws y rhanbarth Ar LinkedIn E-bost Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru: Helpwch i lunio dyfodol teithio ar draws y rhanbarth dolen

Rydym yn archwilio ffyrdd o wella teithio ym Mae Abertawe a Gorllewin Cymru.

Rydym eisiau clywed eich barn cyn i ni ddatblygu'r cynlluniau hyn ymhellach.

Mae Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru yn gynllun hirdymor gennym i wella trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y rhanbarth. Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn ei ddatblygu ar y cyd â chynghorau lleol, Llywodraeth Cymru a Network Rail.

Ein nodau yw:

  • rhoi mynediad haws i'r rheilffordd i fwy o bobl a chysylltu cymunedau'n well
  • ei gwneud hi'n haws cyrraedd y gwaith, addysg, apwyntiadau meddygol a chyfleoedd hamdden
  • opsiynau trafnidiaeth gwell ar draws gorllewin Cymru a thu hwnt
  • rhoi mwy o ffyrdd i bobl deithio heb ddefnyddio car.

Mae'r cynigion hyn yn adeiladu ar astudiaeth fanwl a gynhaliwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2021. Rydym yn ystyried y newidiadau hyn mewn dwy ran (Cam A a Cham B).

Map rhwydwaith: fersiwn symlach

Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae'r cynigion hyn wedi'u datblygu ar y cyd gan Trafnidiaeth Cymru, Cydbwyllgor Corfforedig deorllewin Cymru, awdurdodau lleol rhanbarthol, Llywodraeth Cymru a Network Rail.

Mae'r cynigion yn adlewyrchu mewnbwn gan bartneriaid ledled y rhanbarth a'r diwydiant rheilffyrdd ehangach, er wyn helpu i greu gweledigaeth gyffredin ar gyfer gwella cysylltedd trafnidiaeth ar draws de-orllewin Cymru.

Mae gweithredu'r cynigion yn amodol ar sicrhau cyllid gan Lywodraeth y DU

Cam A: Abertawe i Ben-bre a Phorth Tywyn

Cam A yw'r gyfres o gynigion sydd wedi'i datblygu'n fwy.

Yr hyn sy'n cael ei gynnig:

  • Hyd at ddau drên ychwanegol yr awr rhwng Abertawe a Phen-bre a Phorth Tywyn
  • Gorsaf newydd bosibl yn y Cocyd
  • Platfform newydd yng ngorsaf Abertawe
  • Newidiadau yng ngorsaf Pembrey a Burry Port fel y gall trenau newid cyfeiriad yn haws
  • Teithiau mwy dibynadwy ar hyd y llwybr hwn.

Cam B: Abertawe i Rydaman, trwy Gastell-nedd

Mae Cam B mewn cyfnod cynharach. Mae angen mwy o waith o hyd cyn y gellir gwneud penderfyniadau terfynol.

Yr hyn sy'n cael ei gynnig:

  • Hyd at ddau wasanaeth trên newydd yr awr rhwng Abertawe a Rhydaman
  • Gorsafoedd newydd posib yng Nglandŵr, Winsh-wen, Treforys, Llandarcy, Felindre, Pont-lliw a Rhydaman
  • Trac newydd yn cysylltu dwy linell reilffordd
  • Gwelliannau eraill i'r trac a'r signalau i gefnogi'r gwasanaethau newydd

Pam rydym yn gofyn am eich barn?

Rydym ni eisiau deall:

  • sut rydych chi'n teithio o gwmpas yr ardal ar hyn o bryd
  • a fyddech chi'n defnyddio'r gwasanaethau newydd hyn
  • pa orsafoedd a gwelliannau sydd bwysicaf i chi
  • sut y dylid dylunio gorsafoedd newydd a sut y dylid cael mynediad atynt
  • unrhyw beth arall rydych chi'n meddwl y dylem ei wybod.

Bydd eich adborth yn llywio'r ffordd y caiff y cynlluniau hyn eu datblygu'n uniongyrchol.

Digwyddiadau Galw Heibio

Fel rhan o'r broses ymgysylltu, byddwn yn cynnal digwyddiadau cyhoeddus 'galw heibio' dros yr wythnosau nesaf.

Byddem wrth ein bodd yn eich gweld!

  • Gorsaf Reilffordd Abertawe: Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 08:00 - 17:00
  • Gorsaf Reilffordd Porth Tywyn: Dydd Llun, 16 Tachwedd 08:00 - 11:00
  • Llyfrgell Porth Tywyn: Dydd Llun, 16 Tachwedd 12:00 - 15:00
  • Gorsaf Reilffordd Llanelli: Dydd Mercher, 18 Tachwedd 08:00 - 10:00
  • Canolfan Pentre Awel, Llanelli: Dydd Mercher, 18 Tachwedd 11:00 - 16:00
  • Llyfrgell Rhydaman: Dydd Iau, 19 Tachwedd 10:00 - 14:00
  • Gorsaf Reilffordd Castell-nedd: Dydd Gwener, 20 Tachwedd 08:00 - 16:00
  • Canolfan Gymunedol y Cocyd: Dydd Mercher, 25 Tachwedd 14:00 - 18:00
  • Canolfan Siopa The Quadrant, Abertawe: Dydd Iau, 26 Tachwedd 09:00 - 17:00

Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru: Atebion i'ch Cwestiynau

Rydyn ni wedi rhoi atebion at ei gilydd i rai o'r cwestiynau rydyn ni'n disgwyl y gallai fod gan bobl am Fetro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru. Os oes gennych gwestiwn nad yw wedi'i gynnwys yma, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar ein gwefan, neu dewch i un o'n digwyddiadau cyhoeddus.

Ynglŷn â'r Metro

Beth yw Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru?

Mae'n gynllun hirdymor i wella trafnidiaeth gyhoeddus ar draws de-orllewin Cymru. Y nod yw ei gwneud hi'n haws teithio rhwng trefi a phentrefi, mynd i'r gwaith, i'r ysgol neu i'r coleg a chyrraedd gwasanaethau lleol. Mae'n cael ei ddatblygu gan Trafnidiaeth Cymru, ar y cyd â chynghorau Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, yn ogystal â Llywodraeth Cymru a Network Rail.

Beth yw pwnc yr ymgynghoriad hwn?

Rydym am glywed eich barn ar gyfres o gynigion i wella gwasanaethau rheilffordd yn y rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys trenau amlach, gorsafoedd newydd posibl a gwelliannau i orsafoedd presennol. Nid oes penderfyniadau terfynol wedi'u gwneud eto a bydd eich adborth yn helpu i lunio'r hyn sy'n digwydd nesaf.

O ble y daeth y cynigion hyn?

Maent yn adeiladu ar astudiaeth fanwl a gynhaliwyd yn 2021, a oedd yn edrych ar ffyrdd o wella teithio ar y rheilffyrdd ar draws Bae Abertawe a Gorllewin Cymru. Gelwir yr astudiaeth honno yng Ngham 2 WelTAG Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru: adroddiad terfynol.

Ar ba gam mae'r cynigion hyn?

Mae Cam A (rhwng Abertawe a Phen-bre a Phorth Tywyn) yn fwy datblygedig ac wedi mynd drwy waith cynllunio a dylunio mwy manwl. Mae Cam B (rhwng Abertawe a Rhydaman) ar gam cynharach ac rydym yn dal i archwilio'r hyn sy'n bosibl.

A oes gwelliannau rheilffordd eraill wedi'u cynllunio ar gyfer y rhanbarth?

Oes. Efallai eich bod wedi gweld cynigion eraill ar gyfer de-orllewin Cymru, gan gynnwys trenau amlach i Ddoc Penfro ac Aberdaugleddau, a gwasanaeth rheilffordd ysgafn neu drên tram posibl rhwng Abertawe a Chastell-nedd. Mae'r cynigion hyn yn ar wahân i Fetro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru ac nid ydynt yn rhan o'r ymgynghoriad hwn.

Gallwch ddarllen mwy am y cynigion hyn yma: dolen i ddogfen Ymlaen, Gyda'n Gilydd.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio'n benodol ar Fetro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru, gan gwmpasu Cam A (Abertawe i Ben-bre a Phorth Tywyn) a Cham B (Abertawe i Rydaman). Dim ond ar gyfer y cynigion Metro hyn y bydd eich adborth yn yr arolwg hwn yn cael ei ddefnyddio.

Beth am wasanaethau bws yn ne-orllewin Cymru?

Er nad ydym yn ymgynghori ar wasanaethau bws fel rhan o'r prosiect hwn, mae TrC yn newid rhwydwaith bysiau Cymru. Un o'r prif ffyrdd rydym yn gwneud hyn yw drwy gyflwyno ffordd newydd o redeg gwasanaethau bws, o'r enw masnachfreinio.

Mae bwriad i gyflwyno masnachfreinio yn ne-orllewin Cymru yn 2028, ac yna yng ngogledd Cymru yn 2029, ac yn ne-ddwyrain a chanolbarth Cymru yn 2030.

Ble gallaf ddysgu mwy am fasnachfreinio bysiau?

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am fasnachfreinio bysiau yng Nghymru yma: Masnachfreinio bysiau | Trafnidiaeth Cymru.

Cost a chyllid

Faint fydd hyn yn ei gostio?

Nid oes gennym gostau terfynol eto. Bydd y costau'n dibynnu ar benderfyniadau sydd eto i'w gwneud ynghylch dyluniad a chwmpas pob cynnig.

A yw'r cyllid wedi'i warantu?

Dim eto. Bydd angen rhagor o gyllid i ddatblygu dyluniadau manwl ac i gynnal rhagor o weithgareddau ymgynghori cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Gorsafoedd

A fydd cyfleusterau parcio ceir yn y gorsafoedd newydd?

Bydd hyn yn amrywio yn ôl y lleoliad. Efallai y bydd gan rai gorsafoedd gyfleusterau parcio a theithio. Gallai fod gan eraill gyfleusterau parcio cyfyngedig neu ddim cyfleusterau parcio o gwbl, yn dibynnu ar y safle a sut y disgwylir i bobl deithio yno.

A fydd cyfleusterau cadw beiciau yn y gorsafoedd newydd?

Bydd, mae darparu lle i barcio beiciau yn cael ei ystyried fel rhan o'r dyluniad ar gyfer yr holl orsafoedd newydd arfaethedig.

Sut fydd pobl yn cyrraedd y gorsafoedd drwy gerdded, beicio neu ar fws?

Rydym yn edrych ar sut mae pob gorsaf yn cysylltu â llwybrau cerdded a beicio lleol a gwasanaethau bws. Bydd eich adborth ar hyn yn helpu i lunio'r dyluniadau terfynol.

A fydd staff yn y gorsafoedd?

Disgwylir na fydd staff yn y rhan fwyaf o'r gorsafoedd newydd arfaethedig, er y gall hyn amrywio. Byddwn yn darparu rhagor o fanylion wrth i'r cynlluniau ddatblygu.

Trenau a gwasanaethau

Pa wasanaethau trên fydd yn galw yn y gorsafoedd newydd?

Rydym yn dal i weithio ar yr amserlenni ac ar ba wasanaethau fydd yn galw ble. Bydd rhagor o fanylion yn dilyn wrth i'r cynlluniau ddatblygu.

Pa mor aml fydd trenau'n rhedeg?

Ar gyfer Cam A, rydym yn cynnig hyd at ddau drên ychwanegol yr awr rhwng Abertawe a Phen-bre a Phorth Tywyn.

Ar gyfer Cam B, rydym yn archwilio'r posibilrwydd o hyd at ddau drên yr awr rhwng Abertawe a Rhydaman, gan greu gwasanaeth newydd ar lwybr nad yw'n cael ei wasanaethu gan drenau teithwyr ar hyn o bryd.

A fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y gwasanaethau trên presennol?

Nid ydym yn disgwyl i'r gwasanaethau presennol gael eu lleihau. Ein nod yw ychwanegu at yr hyn sydd eisoes ar gael, yn hytrach na thynnu unrhyw beth i ffwrdd.

Pam mae angen cyfleusterau troi trenau'n ôl?

Mae cyfleuster troi trenau'n ôl yn rhan o'r rheilffordd sy'n galluogi trenau i newid cyfeiriad yn ddiogel a dechrau taith newydd. Mae cyfleusterau troi trenau'n ôl yn helpu i ddarparu mwy o hyblygrwydd wrth redeg gwasanaethau trên, gan ganiatáu i rai gwasanaethau ddod i ben a dechrau mewn gorsaf heb effeithio ar drenau eraill ar y llinell. Mae hyn yn helpu i wella dibynadwyedd ac yn cefnogi gwasanaethau amlach.

Ble maen nhw'n cael eu cynnig?

Rydym yn cynnig cyfleusterau troi trenau'n ôl mewn tri lleoliad. Yng Ngham A, byddai cyfleuster troi trenau'n ôl ym Mhen-bre a Phorth Tywyn yn galluogi rhai gwasanaethau i ddod â'u taith i ben yno cyn dychwelyd tuag at Abertawe. Yng Ngham B, byddai cyfleusterau troi trenau'n ôl ym Mhontarddulais a Rhydaman yn helpu i gefnogi gwasanaethau amlach ar y llinell rhwng Abertawe a Rhydaman.

Cyfle i ddweud eich dweud

Sut gallaf roi fy adborth?

Gallwch lenwi ein holiadur dolen neu ddod i un o'n digwyddiadau cyhoeddus. Mae manylion am ddyddiadau a lleoliadau ar ein gwefan.

Beth sy'n digwydd i fy adborth?

Byddwn yn defnyddio eich ymatebion i helpu i lunio cam nesaf y broses ddylunio. Cyhoeddir crynodeb o'r adborth a sut mae wedi dylanwadu ar y cynlluniau unwaith y bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Os bydd y cynigion yn mynd yn eu blaenau, caiff rowndiau pellach o waith ymgynghori eu cynnal wrth i'r dyluniadau gael eu datblygu'n fanylach, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol.

  • Mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn am eich barn ar gynigion i wella gwasanaethau rheilffordd yn ne-orllewin Cymru. Rydym yn ymgynghori ar yr hyn sy'n bwysig i chi. Bydd eich atebion yn helpu i lunio camau nesaf y broses ddylunio. 

    Gallwch hepgor unrhyw gwestiynau nad ydynt yn berthnasol i chi. Dylai'r arolwg gymryd tua 10 munud i'w gwblhau. 

    Diolch am gymryd rhan. 

    Ymatebwch i'r arolwg
    Rhannu Arolwg Ymgynghoriad Cyhoeddus Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru ar Facebook Rhannu Arolwg Ymgynghoriad Cyhoeddus Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru Ar Twitter Rhannu Arolwg Ymgynghoriad Cyhoeddus Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru Ar LinkedIn E-bost Arolwg Ymgynghoriad Cyhoeddus Metro Bae Abertawe a Gorllewin Cymru dolen
Diweddaru: 03 Tach 2026, 03:43 PM