Porth Bangor - Ardal yr Orsaf
Consultation has concluded
Gwybodaeth am y prosiect
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC), ochr yn ochr â Chyngor Gwynedd (CG), wedi nodi cyfle yng Ngorsaf Bangor – y prysuraf ar hyd Arfordir y Gogledd – i wella'r croeso i Ddinas Bangor, a gwella’r broses o gyfnewid gyda dulliau teithio ymlaen.
Nod yr astudiaeth Porth Bangor – Ardal yr Orsaf hon yw deall y problemau a'r rhwystrau a wynebir wrth deithio i Orsaf Reilffordd Bangor, ac oddi yno ac wrth ei defnyddio, gyda'r nod hefyd o gyflawni'r amcanion lefel uchel canlynol:
- Gwella'r croeso i ddinas Bangor;
- Gwella’r broses o gyfnewid â dulliau teithio ymlaen; a
- GwellaParhau i ddarllen
Gwybodaeth am y prosiect
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC), ochr yn ochr â Chyngor Gwynedd (CG), wedi nodi cyfle yng Ngorsaf Bangor – y prysuraf ar hyd Arfordir y Gogledd – i wella'r croeso i Ddinas Bangor, a gwella’r broses o gyfnewid gyda dulliau teithio ymlaen.
Nod yr astudiaeth Porth Bangor – Ardal yr Orsaf hon yw deall y problemau a'r rhwystrau a wynebir wrth deithio i Orsaf Reilffordd Bangor, ac oddi yno ac wrth ei defnyddio, gyda'r nod hefyd o gyflawni'r amcanion lefel uchel canlynol:
- Gwella'r croeso i ddinas Bangor;
- Gwella’r broses o gyfnewid â dulliau teithio ymlaen; a
- Gwella profiad defnyddwyr yn yr orsaf.
Er mwyn helpu i gwblhau'r astudiaeth hon a datblygu opsiynau posibl mwyaf addas ar gyfer eu gweithredu yng Ngorsaf Reilffordd Bangor, mae WSP wedi cael comisiwn gan Trafnidiaeth Cymru i baratoi Achos Busnes Amlinellol WelTAG Cam Dau. Bydd hwn yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i gwblhau fel rhan o ddatblygu Uwchgynllun Bangor, gan weithredu ar yr argymhellion o fewn hwn sy'n amlygu potensial yr ardal, a sut y gall gyfrannu at gefnogi prosiectau adfywio eraill sydd ar waith ledled y Ddinas.
Dweud eich dweud ar-lein
Byddem yn ddiolchgar am unrhyw ymatebion i'r arolwg isod, neu syniadau ychwanegol ar gyfer ein map. Fel arall, gallwch ddarparu sylwadau mwy cyffredinol yn y llyfr gwesteion. Bydd sylwadau/adborth a wnaed yn y cyfnod cynnar hwn yn ein helpu i ddatblygu'r opsiynau cynllunio yn seiliedig ar yr anghenion/rhwystrau presennol.
Dweud eich dweud yn bersonol
Os byddai'n well gennych siarad â ni wyneb yn wyneb, byddwn yn Pontio (yn yr adeilad, y tu allan i'r fynedfa i Undeb y Myfyrwyr) ar 23 Tachwedd rhwng 12yp a 5yp, neu yng Ngorsaf Bangor ar 29 Tachwedd rhwng 12yp a 7:30yh.
Cysylltwch â thîm y prosiect
- e-bost: PorthBangorGateway@wsp.com
- Post (Marc eitem er sylw: Prosiect Porth Bangor): Trafnidaeth Cymru, 3 Llys Cadwyn, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 4TH
Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfnod ymgysylltu hwn?
Bydd awgrymiadau'n cael eu hasesu o’u cymharu â phroses ddiffiniedig a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o gyflwyno rhestr fer o opsiynau a fydd yn cyfrannu at yr amcanion, yn ogystal â pholisïau ac asesiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol o’u cymharu â ffactorau cynaliadwyedd, cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Os caiff yr opsiynau ar y rhestr fer hon eu derbyn, byddwn yn symud ymlaen (yn amodol ar gyllid a chytundeb partneriaid â’r opsiwn) drwy Gam 3 (dylunio manwl) gan ddisgwyl Cam 4 (adeiladu/ gweithredu).
-
Rydym eisiau clywed am eich profiadau presennol o’r croeso a’r gyfnewidfa a ddarperir yng Ngorsaf Bangor er mwyn inni allu helpu i gyfrannu at gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd yr arolwg hwn yn ein helpu i nodi patrymau a galw gan bobl a dulliau teithio o bob math - dylai’r arolwg gymryd tua 5 munud i’w lenwi.
Rhannu Arolwg Porth Bangor: Ardal yr Orsaf ar Facebook Rhannu Arolwg Porth Bangor: Ardal yr Orsaf Ar Twitter Rhannu Arolwg Porth Bangor: Ardal yr Orsaf Ar LinkedIn E-bost Arolwg Porth Bangor: Ardal yr Orsaf dolen
Personol
Personol
Ymgysylltu |
Hoffem gael eich meddyliau ar y prosiect hwn a sut y dylem barhau i'w ddatblygu. Dilynwch y prosiect i gael gwybod am y diweddariadau.
Strategaeth a gweledigaeth Bangor (cyswllt allanol)
Dyddiadau pwysig
-
23 Tachwedd 2022
-
29 Tachwedd 2022
-
23 Rhagfyr 2022
Amserlen
-
Cyhoeddi Uwchgynllun Dinas Bangor
Porth Bangor - Ardal yr Orsaf wedi gorffen y cam hwnCreu Uwchgynllun Dinas Bangor, a amlinellodd weledigaeth ar gyfer Dinas Bangor – o fewn hyn, awgrymwyd gwelliannau lefel uchel i Ardal yr Orsaf er mwyn gwella'r croeso i'r Ddinas.
-
Nodi gorsaf Bangor fel pwynt cyfnewid allweddol drwy Raglen Metro Gogledd Cymru. Cynnal ymchwiliad WelTAG cam 1 lefel uchel.
Porth Bangor - Ardal yr Orsaf wedi gorffen y cam hwn -
Ailwampio Sherpa'r Wyddfa a gwasanaeth T10 TrawsCymru
Porth Bangor - Ardal yr Orsaf wedi gorffen y cam hwnMae gorsaf Bangor yn bwynt cyfnewid allweddol rhwng gwasanaethau rheilffordd a dulliau teithio ymlaen. Gan gydnabod hyn, mae rhwydwaith Sherpa'r Wyddfa a gwasanaethau T10 newydd TrawsCymru bellach yn gweithredu i'r Orsaf (sy'n ategu’r gwasanaethau presennol i gyrchfannau fel Porthaethwy, Biwmares, Y Felinheli, Caernarfon a Phorthmadog).
-
Ymgynghoriad Cyngor Gwynedd ar ddiweddariad i fapiau teithio llesol (gan gynnwys llwybrau i/o'r orsaf)
Porth Bangor - Ardal yr Orsaf wedi gorffen y cam hwn -
Adborth y cyhoedd ar faterion a syniadau sy'n ymwneud ag ardal yr orsaf
Porth Bangor - Ardal yr Orsaf ar hyn o bryd ywAr hyn o bryd rydym yn ymgysylltu ynghylch y prosiect hwn i gasglu syniadau ac adborth i helpu i gyfrannu at gynlluniau cysyniadol gwelliannau i ardal astudiaeth Ardal yr orsaf.
-
Dan adolygiad
Dyma gyfnod sydd ar y gweill ar gyfer Porth Bangor - Ardal yr OrsafMae cyfraniadau i'r ymarfer ymgysylltu hwn ar gau i'w gwerthuso a'u hadolygu. Bydd tîm y prosiect yn adrodd yn ôl ar ganlyniadau allweddol.
-
Adroddiad WelTAG 2
Dyma gyfnod sydd ar y gweill ar gyfer Porth Bangor - Ardal yr OrsafBydd y cynlluniau cysyniadol sy’n seiliedig ar yr adborth a geir yn cael eu harfarnu yn unol â Chanllawiau WelTAG. Ceir crynodeb o hyn o fewn adroddiad Cam 2, a fydd yn cael ei gyflwyno i bartïon i ystyried pa opsiwn (os o gwbl) y dylid bwrw ymlaen ag ef tuag at gynllunio manwl ac yn y pendraw, ei weithredu.
-
WelTAG cam 3
Dyma gyfnod sydd ar y gweill ar gyfer Porth Bangor - Ardal yr OrsafAr yr amod y cytunir ar opsiwn i fwrw ymlaen ag ef, bydd gwaith cynllunio manwl yn dechrau. Bryd hynny bydd ymgynghoriad cyhoeddus mwy ffurfiol yn cael ei gynnal i gasglu adborth ar fanylion y cynllun.
-
WelTAG cam 4
Dyma gyfnod sydd ar y gweill ar gyfer Porth Bangor - Ardal yr OrsafDyma'r cyfnod pryd bydd yr ateb a ffefrir yn cael ei weithredu.
-
WelTAG cam 5
Dyma gyfnod sydd ar y gweill ar gyfer Porth Bangor - Ardal yr OrsafYn ystod y cam hwn byddwn yn monitro ac yn gwerthuso pa mor dda y mae'r opsiwn a weithredwyd yn gweithio, mewn ymdrech i sicrhau y gwireddir manteision – gyda mân addasiadau lle bo angen.
Cwestiynau cyffredin
- Ble mae'r cynllun wedi'i leoli?
- Beth yw 'WelTAG'?
- Pam Bangor?
- Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?
- Pam y mae angen y cynllun hwn?
- Amlygodd yr Achos dros Newid gyfleoedd hefyd sy'n gysylltiedig â’r canlynol:
- Beth sy'n digwydd i fy adborth a fy sylwadau?
- Beth pe bawn i’n meddwl am rywbeth ar ôl i'r rownd hon o ymgysylltu gau? A fyddaf yn cael cyfle i wneud sylw ar y cynlluniau ar ôl iddynt gael eu cynnig?
- Pwy sy'n gyfrifol, yn y pen draw, am benderfynu ar y gwelliannau arfaethedig i Orsaf Bangor a'r llwybrau cyfagos?
- Beth pe bai parti sy'n gyfrifol am benderfyniad terfynol yn penderfynu nad yw eisiau symud y prosiect yn ei flaen bellach?