Teclyn Cynllunio Teithiau
Beth ydyn ni'n ei wneud?
Rydym yn creu teclyn cynllunio teithiau newydd i helpu pobl Cymru a'r Gororau i deithio'n ddi-dor. P'un a ydych chi’n cerdded/olwynio, beicio, teithio ar y trên, ar y bws neu mewn car, rydym am greu teclyn y gallwch chi ei ddefnyddio ar gyfer eich hoff ffordd o deithio.
Rydym am ddod â'ch holl opsiynau teithio presennol ynghyd mewn un lle i wneud y broses o gynllunio eich teithiau yn haws - boed hynny ar gyfer gwaith neu hamdden.
Dyma fydd eich teclyn cynllunio felly mae angen i ni wybod beth sy'n bwysig i chi
Rydym yn awyddus i gael eich help chi i adeiladu teclyn cynllunio teithiau sy'n diwallu eich anghenion. Gallwch gymryd rhan mewn sawl ffordd:
- Cwblhau ein harolygon
- Cymryd rhan yn ein harolygon cyflym
Cyfle i gymryd rhan mewn raffl
Drwy gymryd rhan, rydych yn ein helpu nid yn unig i adeiladu teclyn cynllunio teithiau sy'n helpu i wneud TrC yn hoff ffordd Cymru o deithio, gallech hefyd fod â siawns o ennill un o’r gwobrau yn ein raffl.
Dywedwch wrthym am brofiad gwych a gawsoch wrth gynllunio taith
Rydym am i'n teclyn cynllunio teithiau ni fod y gorau. I'n helpu ni i gyflawni hynny, hoffem wybod am unrhyw brofiadau gwych rydych chi wedi'u cael gan ddefnyddio apiau (neu declynnau eraill) i gynllunio taith...
- Does dim straeon i'w dangos. Pam nad ydych chi'n rhannu un?