Dyheadau’r dyfodol ar gyfer Caerdydd Canolog i Heol Casnewydd

Rhannu Dyheadau’r dyfodol ar gyfer Caerdydd Canolog i Heol Casnewydd ar Facebook Rhannu Dyheadau’r dyfodol ar gyfer Caerdydd Canolog i Heol Casnewydd Ar Twitter Rhannu Dyheadau’r dyfodol ar gyfer Caerdydd Canolog i Heol Casnewydd Ar LinkedIn E-bost Dyheadau’r dyfodol ar gyfer Caerdydd Canolog i Heol Casnewydd dolen

Consultation has concluded

Mae cael cysylltiad trafnidiaeth gyhoeddus newydd rhwng Caerdydd Canolog a Heol Casnewydd drwy’r Bae wedi bod yn un o uchelgeisiau Trafnidiaeth Cymru (TrC), Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd ers tro.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn ystyried opsiynau posibl ar gyfer gwneud estyniadau pellach i’r llinell rhwng Caerdydd Canolog a Heol Casnewydd, drwy linell Bae Caerdydd a Phorth Teigr. Byddai hyn yn rhan o welliannau yn y dyfodol, ar ôl cwblhau gorsaf Butetown a’r gwaith arfaethedig i uwchraddio llinell Bae Caerdydd a gorsaf Bae Caerdydd, a byddai’n amodol ar sicrhau cyllid.

Bydd ymgynghoriad saith wythnos yn cael ei lansio a bydd y cyhoedd a rhanddeiliaid yn cael eu gwahodd i gymryd rhan. Bydd opsiynau coridor yn cael eu cyflwyno i’r cyhoedd a byddwn yn gofyn am adborth yn ehangach. Bydd canfyddiadau’r ymgynghoriad yn sail i’r achos busnes amlinellol ar gyfer estyniad posibl i’r llinell o Gaerdydd Canolog i Heol Casnewydd yn y dyfodol, fel y gallwn ddechrau paratoi cynnig.

Yn dilyn adroddiad canfyddiadau’r ymgynghoriad, byddwn yn ceisio lleihau nifer yr opsiynau llwybr i un, gyda’r bwriad o fwrw ymlaen â’r gwaith cynllunio, yn amodol ar sicrhau cyllid.

Llyfr Gwesteion

Rhowch wybod i ni beth yw eich barn am ein cynlluniau i wella gorsaf Caerdydd Canolog drwy roi eich sylwadau yn ein llyfr gwesteion.  

Cofiwch y bydd eraill yn gallu gweld y sylwadau rydych chi’n eu rhoi, ac y byddant yn cael eu cymedroli. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n gyfrinachol ond bydd eich enw defnyddiwr yn cael ei ddangos.   

Consultation has concluded
Mae angen i chi fod wedi mewngofnodi i roi sylwadau yn y llyfr gwesteion hwn. Cliciwch yma i Mewngofnodi Neu  Cofrestrwch i gymryd rhan