Dyheadau’r dyfodol ar gyfer Caerdydd Canolog i Heol Casnewydd

Rhannu Dyheadau’r dyfodol ar gyfer Caerdydd Canolog i Heol Casnewydd ar Facebook Rhannu Dyheadau’r dyfodol ar gyfer Caerdydd Canolog i Heol Casnewydd Ar Twitter Rhannu Dyheadau’r dyfodol ar gyfer Caerdydd Canolog i Heol Casnewydd Ar LinkedIn E-bost Dyheadau’r dyfodol ar gyfer Caerdydd Canolog i Heol Casnewydd dolen

Consultation has concluded

Mae cael cysylltiad trafnidiaeth gyhoeddus newydd rhwng Caerdydd Canolog a Heol Casnewydd drwy’r Bae wedi bod yn un o uchelgeisiau Trafnidiaeth Cymru (TrC), Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd ers tro.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn ystyried opsiynau posibl ar gyfer gwneud estyniadau pellach i’r llinell rhwng Caerdydd Canolog a Heol Casnewydd, drwy linell Bae Caerdydd a Phorth Teigr. Byddai hyn yn rhan o welliannau yn y dyfodol, ar ôl cwblhau gorsaf Butetown a’r gwaith arfaethedig i uwchraddio llinell Bae Caerdydd a gorsaf Bae Caerdydd, a byddai’n amodol ar sicrhau cyllid.

Bydd ymgynghoriad saith wythnos yn cael ei lansio a bydd y cyhoedd a rhanddeiliaid yn cael eu gwahodd i gymryd rhan. Bydd opsiynau coridor yn cael eu cyflwyno i’r cyhoedd a byddwn yn gofyn am adborth yn ehangach. Bydd canfyddiadau’r ymgynghoriad yn sail i’r achos busnes amlinellol ar gyfer estyniad posibl i’r llinell o Gaerdydd Canolog i Heol Casnewydd yn y dyfodol, fel y gallwn ddechrau paratoi cynnig.

Yn dilyn adroddiad canfyddiadau’r ymgynghoriad, byddwn yn ceisio lleihau nifer yr opsiynau llwybr i un, gyda’r bwriad o fwrw ymlaen â’r gwaith cynllunio, yn amodol ar sicrhau cyllid.

  • Rhannwch eich barn drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i chi ei lenwi.  

    Os byddai’n well gennych beidio â llenwi ein harolwg, gallwch ddefnyddio un o’n teclynnau digidol eraill, rhoi eich ymateb i ni yn ysgrifenedig drwy anfon e-bost at engagement@tfw.wales neu gymryd rhan yn un o’n gweithdai wyneb yn wyneb. Mae manylion y gweithdai sydd ar y gweill ar gael yn trc.cymru/ymgysylltu  

    Sylwch: mae’n bosibl y bydd ymatebion yr arolwg ar gael i’r cyhoedd ar ôl i’r cyfnod ymgysylltu ddod i ben. Fel arfer, bydd hyn ar ffurf adroddiad ar ganlyniadau’r ymarfer ymgysylltu, ond bydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu a’i phrosesu’n briodol yn unol â gofynion deddfwriaeth preifatrwydd a diogelu data. Edrychwch ar ein polisi preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth: Datganiad Preifatrwydd | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)

    Consultation has concluded
    Rhannu Arolwg ar Facebook Rhannu Arolwg Ar Twitter Rhannu Arolwg Ar LinkedIn E-bost Arolwg dolen