Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru - Ymgynghoriad Statudol

Rhannu Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru - Ymgynghoriad Statudol ar Facebook Rhannu Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru - Ymgynghoriad Statudol Ar Twitter Rhannu Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru - Ymgynghoriad Statudol Ar LinkedIn E-bost Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru - Ymgynghoriad Statudol dolen

Mae'r ymgynghoriad hwn ar gyfer ymgyngoreion statudol a bennir ym Mil Gwasanaethau Bysiau (Cymru).

Croeso i'r dudalen ymgynghori ‘Dweud Eich Dweud’ ar gyfer drafft o’r Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru.

Mae’r dudalen hon yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen i'ch helpu chi i roi eich sylwadau ar y cynllun drafft.

Cyflwyniad i Ddiwygio’r Bysiau

Mae Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru wrthi’n cydweithio i baratoi ar gyfer Diwygio’r Bysiau. Gan ddibynnu ar ofynion cofrestru a thrwyddedau, mae’r system bresennol o ddadreoleiddio yn meddwl bod gweithredwyr yn gallu rhedeg gwasanaethau bws sy’n gwneud elw i'w busnesau. Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am gyllid ac am sicrhau gwasanaethau bws cymdeithasol angenrheidiol lle nad ydynt yn bodoli. Mae’r system gyfredol yn ei gwneud hi’n anodd uno gwasanaethau bws sy’n angenrheidiol yn fasnachol ac yn gymdeithasol â rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cydgysylltiedig.

O fewn y system newydd, caiff penderfyniadau ynghylch gwasanaethau bws yng Nghymru (gan gynnwys llwybrau, amserlenni, prisiau, oriau gweithredu a safon ansawdd gwasanaeth), eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru a byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig. Gall weithredwyr bws wneud cynnig i gael contractau amrywiol er mwyn rhedeg gwasanaethau yn unol â manylion a gytunir arnynt.

Dyma’r hyn yr ydym yn dymuno eu gwneud yn yr hirdymor, er mwyn denu mwy o bobl i ddefnyddio bysiau:

  • adeiladu rhwydwaith bysiau symlach sy’n cysylltu â gweddill y drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac sy’n hawdd i'w ddefnyddio (Un Rhwydwaith).
  • creu amserlenni wedi'u cydlynu sy’n hawdd eu defnyddio ac sy’n galluogi cysylltiadau ar draws trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru (Un Amserlen).
  • cyflwyno system docynnau symlach sy’n galluogi teithio ar draws trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru mewn ffordd fforddiadwy a chyson (Un Tocyn).

Gosodwyd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn y Senedd ym mis Mawrth 2025 a gan gymryd y bydd y Bil yn cael ei basio gan y Senedd, mae paratoadau i gyflawni’r trawsnewidiad hwn bellach ar waith. Rydym yn bwriadu cyflwyno Diwygio’r Bysiau yn ne-orllewin Cymru o haf 2027 ymlaen. Caiff Diwygio’r Bysiau ei gyflenwi drwy ddull darwahanedig a rhanbarthol gyda’r dyddiadau a rhanbarthau allweddol (fel y maent ar hyn o bryd) fel y ganlyn:

Gosodwyd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn y Senedd ym mis Mawrth 2025

  • De-orllewin Cymru - 2027 
  • Gogledd Cymru - 2028 
  • De-ddwyrain Cymru - 2029 
  • Canolbarth Cymru - 2030 

Byddwn yn parhau i ymgysylltu ac yn ymgynghori â rhanddeiliaid rhanbarthol ar hyd y ffordd a chaiff y newid cyhoeddus hwn ei gyflenwi dros amser gan gynnig gwasanaethau bws lleol sy’n ddiogel, yn integredig, yn gynaliadwy, yn effeithlon ac yn economaidd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch ein dull arfaethedig i Ddiwygio’r Bysiau yma: Diwygio’r bysiau yng Nghymru: ein map ffordd i fasnachfreinio | LLYW.CYMRU

Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) - Drafft o’r Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru

Mae’r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn gofyn bod Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru’n gweithio’n agos ag Awdurdodau Lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforaethol, gan ddefnyddio eu gwybodaeth leol i ddylunio a chynllunio gwasanaethau sy'n diwallu anghenion eu cymunedau. I ddangos y cydweithio agos hwn, mae’r Bil yn cynnwys gofyniad statudol lle’r ymgynghorir ag Awdurdodau Lleol a nifer o sefydliadau eraill.

Gan ddefnyddio'r wybodaeth a gofyn am safbwyntiau’r Awdurdodau Lleol, mae drafft o’r Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru wedi cael ei greu sy'n nodi'r llwybrau a’r safleoedd bysiau allweddol y mae'n rhaid eu darparu fel gwasanaethau bws lleol safonol. Yn achos gwasanaethau bws lleol hyblyg, mae’r cynllun drafft yn nodi’r ardal ddaearyddol ac unrhyw adrannau penodol lle bod angen i'r gwasanaeth weithredu yn ogystal ag unrhyw safleoedd bws allweddol. Gall gweithredwyr bysiau wedyn gynnig i gynnal y llwybrau hynny.

Gan ein bod bellach wedi paratoi drafft o’r Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, mae’n rhaid inni, cyn cyhoeddi’r cynllun, ymgynghori â chi fel ymgynghorai statudol i glywed eich safbwyntiau chi yn swyddogol.

Beth Sydd Wedi Newid, felly?

De-orllewin Cymru – Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig

Rydym yn bwriadu cyflwyno Diwygio’r Bysiau i dde-orllewin Cymru yn haf 2027. Mae’r cam cyntaf hwn mewn diwygio’r bysiau yn y rhanbarth wedi gweld Trafnidiaeth Cymru ac Awdurdodau Lleol wrthi’n cydweithio i ddatblygu cynnig ar gyfer y rhwydwaith bysiau. Rydym bellach yn ymgysylltu’n swyddogol â rhanddeiliaid a’r cyhoedd ar y Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig hwn sy’n cynnwys manylion am y llwybrau a’u hamlder.

Rydym wedi defnyddio’r rhwydwaith cyfredol fel man cychwyn i ddatblygu’n Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig. Dylunnir y Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig fel ei fod yn bosib ei gyflawni â’r cyllid presennol. Rydym wedi rhoi ein hegwyddorion o ran cynllunio rhwydwaith ar waith er mwyn datblygu rhwydwaith symlach, dileu dyblu lle bo'n bosib, a chydlynu gwasanaethau. Mewn achosion lle bod gennym fynediad at ddata ynghylch y galw teithio yn ogystal â dibynadwyedd gwasanaethau bysiau ac amodau gweithredu, rydym wedi ei ddefnyddio i gefnogi’r gwaith cynllunio’r rhwydwaith. Mae’r newidiadau yr ydym wedi eu gwneud yn seiliedig ar:

  • Cael rhwydwaith symlach, sy’n hawdd ei esbonio, cofio a dod o hyd iddo.
  • Llwybrau craidd sy’n gweithredu’n rheolaidd a all ddenu’r defnydd uchaf.
  • Cyfnewidfeydd rhwng gwasanaethau bws er mwyn galluogi teithiau cyflymach i fwy o gyrchfannau. 
  • Gwasnaethau mwy uniongyrchol

Gellir pennu newidiadau arfaethedig yn ne-orllewin Cymru yn y cynllun drwy system alffaniwmerig lle bod gan wasanaeth rhif penodol. Er enghraifft, ‘a1’. Yr eithriad i hyn yw gwasanaethau TrawsCymru, sydd yn barod yn defnyddio T5, T6 a.y.y.b. ac sydd ddim bellach yn newid y rhain yn y cynllun. Noder bod hyn at ddibenion ymrwymiad ac ymgynghoriad yn unig.

Powys – Rhwydwaith ‘Pontio i Fasnachfreinio’ Arfaethedig

Mae’r fenter ‘Pontio i Fasnachfreinio’ wedi gweld Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Ceredigion a Trafnidiaeth Cymru’n cydweithio i fwyafu gwelliannau i wasanaethau bws lleol a’r system drafnidiaeth ehangach rhwng nawr a 2030, cyn cyflwyno’r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) a chyflenwi Diwygio’r Bysiau yn rhanbarth Canolbarth Cymru.

Mae Trafnidiaeth Cymru’n cefnogi’r awdurdodau lleol gyda rhoi gwelliannau i'r rhwydwaith ar waith, ochr yn ochr â datblygiadau eraill megis cyflwyno fflyd newydd, symleiddio opsiynau ar gyfer prynu tocynnau a menter ar gyfer prisiau’n seiliedig ar bellter.

Mae Cyngor Sir Powys wedi creu rhwydwaith gwell ac wedi ymgynghori arno, ac mae hyn wedi’i gynnwys yn y drafft hwn o’r Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru. Mae’r rhwydwaith arfaethedig hwn yn ddibynnol ar refeniw digonol o fewn Cyngor Sir Powys. Mae gwelliannau i'r rhwydwaith ‘Pontio i Fasnachfreinio’ ym Mhowys yn cynnwys:

  • Cynnydd o 24% mewn pellter (milltiroedd) (439k o filltiroedd ychwanegol, o 1.81 i 2.25). Cyflawnwyd hyn diolch i gynnydd mewn cyllid gan Gyngor Sir Powys.
  • Cyflwyno oriau gweithredu hirach a gwasanaethau ddydd Sul ar brif wasanaethau bws cyflym a TrawsCymru.
  • Caiff gwasanaethau TrawsCymru (T2, T4 a T6) eu contractio gan TrC.
  • Cynigir parthau fflecsi (h.y. Trafnidiaeth Ymatebol i Alw) newydd ychwanegol mewn cydweithrediad â Trafnidiaeth Cymru yn Llanidloes (6 diwrnod yr wythnos) a Rhaeadr (5 diwrnod yr wythnos). Mae ffiniau gweithredol ac oriau gweithredu yn dal i gael eu pennu. Felly mae ffiniau'r parthau hyn ddim yn ymddangos ar y cynllun drafft ar hyn o bryd.

Am ogledd a de-ddwyrain Cymru, noder, mae’r cynllun drafft yn manylu ar y rhwydwaith cyfredol yn y rhanbarthau hyn. Mae hyn gan fod Diwygio’r Bysiau yn cael ei gyflawni drwy ddull darwahanedig. Mae trafodaethau cynnar ynghylch dylunio’r rhwydwaith ar waith gyda’r Awdurdodau Lleol yn y rhanbarthau hyn a chaiff newidiadau eu cynnwys mewn fersiynau o’r cynllun drafft yn y dyfodol.

  • Sut i gyflwyno’ch safbwyntiau 

    Gweler dolen isod i'n map rhyngweithiol sy’n dangos y llwybrau a’r prif fannau esgyn a disgyn sy’n ffurfio’r drafft o’r Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru.  

    Noder, rydym wedi cynnwys prif fannau esgyn o fewn pyrth ar gyfer gwasanaethau bws lleol hyblyg (gwasanaethau ‘fflecsi’) yn ogystal ag ar hyd llwybrau penodedig. Mae’r prif fannau hyn yn cynnwys yr ardaloedd a chymunedau allweddol lle y dylai gwasanaeth bws lleol penodedig neu hyblyg wasanaethu.  

    Am wybodaeth ynghylch llwybr penodol yn ein drafft o’r Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, cliciwch/tapiwch ar y llwybr ar y map a bydd gwybodaeth yn ymddangos ar y chwith. Defnyddiwch y teclyn chwilio i edrych ar wasanaeth sy’n agos at ardaloedd penodol sy’n eich ymddiddori.   

    Cliciwch ar y sgwâr gwyn sydd ar y chwith i agor y map mewn sgrin lawn mewn tab newydd. Os hoffech chi roi sylwadau ar lwybrau unigol, gallwch chi adael sylw ar y map rhyngweithiol neu gynnwys hyn mewn cyflwyniad ysgrifenedig.

    Sylwadau am y map

    Gallwch bostio sylwadau ar lwybr neu le penodol, drwy glicio ar y botwm sylwadau glas ar y faner ddu ar frig y dudalen, wrth ymyl ‘mewngofnodi’.

    Bydd gennych y dewis o rannu eich enw a'ch cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn postio sylwadau ar y map. Bydd y wybodaeth hon yn helpu Trafnidiaeth Cymru i ddeall pa randdeiliad statudol sy'n ymateb. Mae eich gwybodaeth wedi'i diogelu, ac ni fyddwch yn gallu gweld sylwadau a bostiwyd gan eraill.

    Dewiswch y lle neu’r llwybr yr hoffech chi ollwng y sylw arno ar y map ac ysgrifennwch neges yn y blwch postio sylw.

    Os ydych chi’n rhoi sylwadau ar lwybr penodol, bydd y map yn nodi’r llwybrau cyfagos, dewiswch y llwybr yr ydych chi’n rhoi sylwadau arno o’r rhestr ostwng. Os ydych chi eisiau rhoi adborth ar leoliad, ond nid llwybr penodol, dewiswch ‘dim’ o’r rhestr ostwng.

    Os hoffech chi roi sylw ar arosfan bws benodol ar hyd y llwybr rydych chi wedi’i ddewis, byddwch chi hefyd yn gallu dewis arosfan bws o’r rhestr ostwng.

    Cliciwch ar y ddolen arolwg isod a chofrestrwch ar Engagement HQ i gwblhau'r ffurflen arolwg ar-lein.

    1. Byddwch yn derbyn e-bost gyda dolen ddilysu

    2. Cliciwch ar y ddolen, gwiriwch eich cyfrif a chwblhewch yr arolwg 

    Mae'r ymgynghoriad hwn ar gyfer ymgyngoreion statudol a bennir ym Mil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Rydym yn gofyn am safbwyntiau ar y cynllun drafft yn unig. Am unrhyw sylwadau eraill, e-bostiwch engagement@tfw.wales.    

    Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw dydd Mawrth 7 Hydref 2025.  

    CYMERWCH RAN YN YR AROLWG
    Rhannu Cyflwynwch eich adborth ar Drafft o’r Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru - Ymgynghoriad Statudol ar Facebook Rhannu Cyflwynwch eich adborth ar Drafft o’r Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru - Ymgynghoriad Statudol Ar Twitter Rhannu Cyflwynwch eich adborth ar Drafft o’r Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru - Ymgynghoriad Statudol Ar LinkedIn E-bost Cyflwynwch eich adborth ar Drafft o’r Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru - Ymgynghoriad Statudol dolen
Diweddaru: 08 Awst 2025, 09:17 AC