Rhwydwaith Bysiau De-orllewin Cymru
Eich gwasanaeth bws, Eich Llais – dweud eich dweud ar ein Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig
Mae Awdurdodau Lleol yn Ne-orllewin Cymru a Thrafnidiaeth Cymru yn cydweithio i gynnig gwneud gwelliannau i'r rhwydwaith bysiau, wrth baratoi ar gyfer diwygio bysiau yn ehangach.
Rydym am glywed gennych i helpu i fireinio ein rhwydwaith bysiau lleol arfaethedig cyn ei gyflwyno yn 2027.
Rhannwch eich barn ar ein rhwydwaith bysiau lleol arfaethedig ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru
I ddenu mwy o bobl i ddefnyddio bysiau, rydym am adeiladu rhwydwaith bysiau symlach sydd wedi'i gysylltu â gweddill trafnidiaeth gyhoeddus Cymru. Rydym am iddo fod yn hawdd i'w ddefnyddio (Un Rhwydwaith), gydag amserlenni cydgysylltiedig hawdd eu defnyddio ac sy'n caniatáu cysylltiad ar draws trafnidiaeth gyhoeddus Cymru (Un Amserlen). Bydd ganddo system docynnu symlach sy'n galluogi pobl i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus Cymru gyda phrisiau fforddiadwy a chyson (Un Tocyn).
Er mwyn cyflawni'r nod hwn, mae'r gyfraith ynghylch y ffordd y mae gwasanaethau bysiau yn cael eu rheoli yn newid. Mae'r Bil Diwygio Bysiau yn mynd drwy'r Senedd ac rydym yn anelu at gyflwyno masnachfreinio gan ddechrau yn rhanbarth De-orllewin Cymru, o Haf 2027. Gallwch ddarganfod mwy am beth yw masnachfreinio bysiau yma.
Y cam cyntaf i'n paratoi ar gyfer diwygio bysiau ar gyfer y rhanbarth yw bod Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol yn datblygu cynnig ar y cyd ar gyfer y rhwydwaith bysiau yn Ne-orllewin Cymru. Ei enw arno yw Rhwydwaith Sylfaenol Arfaethedig. Dyma'r rhwydwaith y credwn y gallwn ei ddarparu o fewn terfynau ein hadnoddau presennol ac ar y cynnig hwn yr hoffem gael adborth arno.
Rydym yn gwybod na fydd ein rhwydwaith sylfaen arfaethedig yn plesio pawb. Dyna pam hoffem gael eich barn am ein Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig, am y dewisiadau rydym yn eu hystyried ac a ydym wedi gwneud y penderfyniadau cywir ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru. Bydd adborth yn ein helpu i fireinio ein cynigion a bydd casglu mewnbwn y cyhoedd nawr yn helpu i sicrhau bod gennym wasanaeth cadarn ar waith yn Ne-orllewin Cymru yn 2027.
Felly, ymunwch â ni, a dweud eich dweud ar ein rhwydwaith bysiau arfaethedig. Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 23 Medi 2025.
Cefndir
Diwygio Bysiau
Golyga Masnachfreinio Bysiau y bydd penderfyniadau am wasanaethau bysiau yng Nghymru (gan gynnwys llwybrau, amserlenni, prisiau, oriau gweithredu a safonau ansawdd gwasanaeth) yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig (CJC). Gall gweithredwyr bysiau ymgeisio am gontractau o amryw faint i redeg gwasanaethau i'r manylebau y cytunir arnynt.
Fel rhan o ddiwygio bysiau, bydd awdurdodau lleol, Cyd-bwyllgorau Corfforedig, gweithredwyr bysiau, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru oll yn cydweithio i ddylunio rhwydweithiau a gwasanaethau bysiau gwell a ddarperir yn bennaf trwy fasnachfreinio. Gyda’r cyllid sydd ar gael, byddwn yn blaenoriaethu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pobl a chymunedau orau. Mae masnachfreinio yn dwyn ynghyd cryfderau gweithredwyr preifat, trefol a chymunedol wrth ddarparu gwasanaethau'n effeithlon o fewn rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi’i chydlynu a’i chynllunio’n effeithiol. Bydd y newid hwn o fudd i bobl Cymru wrth ddarparu ar gyfer anghenion a gwahaniaethau lleol a rhanbarthol.
Amserlenni
Mae'r Bil Diwygio Bysiau yn mynd drwy'r Senedd ac rydym yn anelu at gyflwyno masnachfreinio o Haf 2027. Mae gwaith yn mynd rhagddo i baratoi ar gyfer y newid hwn. Mae dull rhanbarthol yn cael ei ddefnyddio i ddiwygio bysiau. Dyma'r dyddiadau a'r trefniadau rhanbarthol allweddol (ar hyn o bryd):
- De-orllewin Cymru - 2027
- Gogledd Cymru - 2028
- De-ddwyrain Cymru - 2029
- Canolbarth Cymru – 2030
Mwy am ein Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid lleol ar sail ranbarthol i adolygu rhwydweithiau bysiau a blaenoriaethu'r gwasanaethau pwysicaf i gymunedau. Mae'r gwaith hwn yn helpu i alinio cyllid cenedlaethol â gwybodaeth a blaenoriaethau lleol. Bydd y timau rhanbarthol hyn yn bwydo i banel cenedlaethol lle byddwn yn dod â phedwar cynrychiolydd rhanbarthol o lywodraeth leol, a chynrychiolwyr gweithredwyr, teithwyr ac undebau llafur ynghyd i ddatblygu ein dull o weithredu diwygio bysiau. Mae'r dull cydweithredol hwn yn ganolog i ddod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd.
Mae Trafnidiaeth Cymru a phedwar awdurdod lleol yn Ne-orllewin Cymru wedi bod yn datblygu cynnig ar y cyd ar gyfer y rhwydwaith bysiau yn y rhanbarth hwn ac ar ei chyfer. Yr enw rydyn ni wedi’i roi ar y cynnig yw Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig.
Rydym wedi defnyddio'r rhwydwaith presennol fel y man cychwyn i ddatblygu ein Rhwydwaith Sylfaen Arfaethedig. Rydym wedi defnyddio’r wybodaeth sydd gennym am y galw sydd am deithio, dibynadwyedd gwasanaethau bysiau ac amodau gweithredu i’n helpu i lunio'r Rhwydwaith.
Dyma'r rhwydwaith arfaethedig yr ydym yn casglu adborth arno trwy'r ymgysylltiad hwn ac fe allwch chi gyfrannu ato;
- Llwybrau bysiau ac amlder; lle mae bysiau'n stopio a'r llwybrau y maent yn eu teithio
- Sut ydym yn cyfaddawdu wrth ddylunio'r rhwydwaith; er enghraifft, yw darparu teithiau cyflymach yn bwysicach na pha mor aml y mae'r bws yn stopio?
- Sut mae rheoli'r newid, fel y caiff ei gyflawni mor esmwyth â phosibl o 2027 ymlaen
- Ffactorau eraill sy'n siapio profiadau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau bysiau yn Ne Cymru.
Cwblhewch yr arolwg ar-lein, ond os nad yw hynny'n bosibl cysylltwch â'n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid neu ffoniwch 02920 031 272 a byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu.