Hwlffordd

Rhannu Hwlffordd ar Facebook Rhannu Hwlffordd Ar Twitter Rhannu Hwlffordd Ar LinkedIn E-bost Hwlffordd dolen

Mae Cyngor Sir Penfro a Trafnidiaeth Cymru yn archwilio ffyrdd o wella cerdded, olwynio a beicio rhwng gorsaf drenau Hwlffordd, Hen Bont, Ysgol Uwchradd Hwlffordd a Swan Square. Rydyn ni hefyd yn edrych ar ffyrdd o wella mannau cyhoeddus yn yr ardal hon.

Does dim dyluniadau wedi’u creu eto. Rydyn ni’n dymuno clywed gennych chi’n gyntaf. Bydd eich gwybodaeth leol yn ein helpu ni i ddeall sut y defnyddir yr ardal heddiw, yr hyn sy’n gweithio’n dda, yr heriau, a’r hyn y dylid eu hystyried wrth inni ddechrau datblygu syniadau.

Mae’r ardal yr ydym yn ffocysu arni yn cynnwys Cartlett, Cyffordd Sgwâr Salutation, yr A40 rhwng Aldi a Chyfnewidfa Drafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd, Ffordd y Felin, Hen Bont a Swan Square.

Dweud eich dweud

Rydyn ni wedi lansio arolwg byr er mwyn casglu’ch safbwyntiau. Dylai gymryd tua 10 i 15 munud ichi ei gwblhau a does dim atebion cywir nag anghywir. Gallwch ddod o hyd iddo yma.

Dewch i siarad â ni

Rydyn ni’n cynnal dau ddigwyddiad galw heibio lle y gallwch siarad â’r tîm prosiect, gweld gwybodaeth ynghylch y cynigion, a rhannu’ch safbwyntiau wyneb yn wyneb. Does dim angen archebu lle, galwch heibio pan fo’n gyfleus i chi.

  • Dydd Mawrth 10 Tachwedd, Haverhub, 16:30 - 19:30
  • Dydd Sadwrn 14 Tachwedd, Sgwâr Castell (tu allan), 10.00 - 16:00

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Bydd eich adborth yn ein helpu ni i ddeall anghenion a chyfleoedd yr ardal hon cyn datblygu unrhyw gynigion ar gyfer dyluniadau. Byddwn yn defnyddio’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu i lywio cam nesaf y prosiect. Disgwylir i’r gwaith cynllunio ac adeiladu digwydd dros y 2 i 4 mlynedd nesaf, a bydd ymgynghoriadau pellach unwaith i’r dyluniadau gael eu creu.

Mae’r arolwg yn cau am 23:59 ar 22 Tachwedd 2026.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar 033 33 211 202. Gwell gennych chi negeseuon? Cysylltwch â ni ar WhatsApp ar 07790 952507.

Diolch am gymryd yr amser i rannu’ch safbwyntiau.

Cyngor Sir Penfro a Trafnidiaeth Cymru

  • Mae Cyngor sir Penfro a Trafnidiaeth Cymru wrthi’n archwilio ffyrdd o wella cerdded, olwynio a beicio rhwng gorsaf drenau Hwlffordd, Hen Bont a Swan Square. Rydyn ni hefyd yn chwilio am ffyrdd o wella mannau cyhoeddus yn yr ardal hon.  

    Nid ydym wedi creu unrhyw ddyluniadau eto. Rydyn ni am glywed gennych chi yn gyntaf. Bydd eich gwybodaeth leol yn ein helpu ni i ddeall sut caiff yr ardal ei defnyddio heddiw, yr hyn sy’n gweithio’n dda, yr heriau, a’r hyn y dylid ei ystyried wrth inni ddatblygu syniadau.

    Mae’r map isod yn dangos yr ardal yr ydym yn ffocysu arni. Mae’n cynnwys Cartlett, Cylchfan Salutation Square, yr A40 rhwng Aldi a Chyfnewidfa Trafnidiaeth Gyhoeddus Hwlffordd, Mill Road, Hen Bont a Swan Square.

    Dylai’r arolwg hwn gymryd tua 10 i 15 munud i'w gwblhau. Does dim atebion cywir nag anghywir, a does dim angen ateb unrhyw gwestiynau nad ydynt yn berthnasol i chi.

    Bydd eich adborth yn helpu i lywio opsiynau dylunio’r dyfodol ar gyfer yr ardal hon.

    Take Survey
    Rhannu Arolwg cyhoeddus Llwybr Teithio Llesol Hwlffordd ar Facebook Rhannu Arolwg cyhoeddus Llwybr Teithio Llesol Hwlffordd Ar Twitter Rhannu Arolwg cyhoeddus Llwybr Teithio Llesol Hwlffordd Ar LinkedIn E-bost Arolwg cyhoeddus Llwybr Teithio Llesol Hwlffordd dolen
Cyhoeddi: 28 Hyd 2026, 09:13 AC