Hyb Trafnidiaeth Porth Wrecsam
Consultation has concluded
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn bwriadu trawsnewid yr ardal o amgylch gorsaf Wrecsam Cyffredinol yn canolfan drafnidiaeth leol ac mae aelodau o’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i rannu eu safbwyntiau. Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Wrecsam, a phartneriaid ehangach, i gyflwyno cynllun adfywio mawr yn yr ardal o amgylch gorsaf reilffordd Wrecsam Cyffredinol, y cyfeirir ato fel ‘Porth Wrecsam’. Mae prosiect Porth Wrecsam yn cynnwys ailddatblygu stand Kop yn STōK Cae Ras, yn ogystal â’r posibiliadau adfywio sy’n gysylltiedig â gorsaf reilffordd Wrecsam Cyffredinol. Fel rhan o’rParhau i ddarllen |
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn bwriadu trawsnewid yr ardal o amgylch gorsaf Wrecsam Cyffredinol yn canolfan drafnidiaeth leol ac mae aelodau o’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i rannu eu safbwyntiau. Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gweithio ochr yn ochr â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Llywodraeth Cymru, Prifysgol Wrecsam, a phartneriaid ehangach, i gyflwyno cynllun adfywio mawr yn yr ardal o amgylch gorsaf reilffordd Wrecsam Cyffredinol, y cyfeirir ato fel ‘Porth Wrecsam’. Mae prosiect Porth Wrecsam yn cynnwys ailddatblygu stand Kop yn STōK Cae Ras, yn ogystal â’r posibiliadau adfywio sy’n gysylltiedig â gorsaf reilffordd Wrecsam Cyffredinol. Fel rhan o’r prosiect hwn, mae TrC wedi nodi cyfle i ddatblygu canolfan drafnidiaeth newydd o flaen yr orsaf. Bydd hyn yn golygu bod modd trawsnewid yr ardal gyda’r nod o gyflawni’r pethau canlynol:
Mae TrC wedi comisiynu WSP i ddatblygu astudiaeth cam dau WelTAG (achos busnes amlinellol) i fwrw ymlaen â chynigion ar gyfer canolfan drafnidiaeth Porth Wrecsam. Pwrpas yr astudiaeth yw datblygu ymhellach opsiynau posibl ar gyfer y canolfan drafnidiaeth yng nghyd-destun a chefnogi uchelgeisiau adfywio ehangach cynllun Porth Wrecsam. Pam ydyn ni’n ymgysylltu â’r cyhoedd? Nod yr astudiaeth yw deall yn fanylach y problemau a’r heriau y mae aelodau o’r cyhoedd a busnesau yn eu hwynebu wrth deithio yn ôl ac ymlaen ac wrth ddefnyddio gorsaf reilffordd Wrecsam Cyffredinol. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn cofnodi amrywiaeth eang o faterion a chyfleoedd posibl yn yr ardal, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion canolfan drafnidiaeth Porth Wrecsam ar yr un pryd. Dweud eich dweud ar-lein Byddem yn ddiolchgar pe gallech dreulio ychydig o amser yn ymateb i’n harolwg isod. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod y cynigion hyn yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu yn y ffordd orau. Dyna pam rydyn ni eisiau clywed gennych chi. Dweud eich dweud yn bersonol Os byddai’n well gennych siarad â ni ac adborth yn bersonol, bydd aelodau o dîm y prosiect ar gael yn y lleoliadau canlynol ar y dyddiadau a amlinellir:
Bydd ffurflenni adborth papur yn y Gymraeg a Saesneg ar gael yn y sesiynau galw heibio, neu gellir casglu'r rhain yn ystod y cyfnod ymgysylltu o Swyddfa docynnau gorsaf Wrecsam Cyffredinol,Tŷ Pawb (Stryd y Farchnad, Wrecsam LL13 8BB) a Llyfrgell Wrecsam (Ffordd Rhosddu Wrecsam LL11 1AU), o 14 Tachwedd. Cysylltu â thîm y prosiect Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r prosiect, rydyn ni wedi darparu rhestr o gwestiynau cyffredin i’r dde. Os nad yw eich cwestiwn wedi’i gynnwys ymysg y rhain, mae croeso i chi gysylltu â thîm y prosiect drwy:
Beth fydd yn digwydd ar ôl i’r cyfnod ymgysylltu ddod i ben? Bydd yr holl awgrymiadau a ddaw i law yn cael eu hystyried wrth ddatblygu opsiynau dylunio ar gyfer y ganolfan drafnidiaeth. Bydd opsiynau ar y rhestr fer yn cael eu hystyried yn erbyn eu cyfraniad tuag at gyflawni amcanion y prosiect yn ogystal ag uchelgeisiau polisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Byddwn hefyd yn ystyried eu gallu tebygol i gyflawni – yn ogystal â manteision a/neu effeithiau ar ffactorau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Os bydd yr opsiynau hyn ar y rhestr fer yn cael eu derbyn ar gyfer cynnydd, byddwn wedyn yn symud ymlaen (yn amodol ar gyllid a chytundeb partneriaid ar yr opsiynau) i gam 3 WelTAG. Bryd hynny, byddem yn gofyn am adborth penodol ar y dyluniadau manylach. |
-
Rhannwch eich barn drwy gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i chi ei lenwi. Os byddai’n well gennych beidio â llenwi ein harolwg, gallwch roi eich ymateb i ni yn ysgrifenedig drwy anfon e-bost at PorthWrexhamGateway@wsp.com neu gymryd rhan yn un o'n digwyddiadau wyneb yn wyneb.
Sylwch: mae’n bosibl y bydd ymatebion yr arolwg ar gael i’r cyhoedd ar ôl i’r cyfnod ymgysylltu ddod i ben. Fel arfer, bydd hyn ar ffurf adroddiad ar ganlyniadau’r ymarfer ymgysylltu, ond bydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n gyfrinachol. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu a’i phrosesu’n briodol yn unol â gofynion deddfwriaeth preifatrwydd a diogelu data. Edrychwch ar ein polisi preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth: Datganiad Preifatrwydd | Trafnidiaeth Cymru (trc.cymru)
Rhannu Arolwg Canolfan Drafnidiaeth Porth Wrecsam ar Facebook Rhannu Arolwg Canolfan Drafnidiaeth Porth Wrecsam Ar Twitter Rhannu Arolwg Canolfan Drafnidiaeth Porth Wrecsam Ar LinkedIn E-bost Arolwg Canolfan Drafnidiaeth Porth Wrecsam dolen
Dyddiadau allweddol
-
07 Tachwedd → 19 Rhagfyr 2023
Dyddiadau allweddol
-
14 Tachwedd 2023
-
15 Tachwedd 2023
-
29 Tachwedd 2023
Pwy sy’n gwrando
-
Trafnidiaeth Cymru
E - bost Engagement@tfw.wales
Cwestiynau Cyffredin
- Beth yw Porth Wrecsam?
- Beth yw WelTAG
- Pam Wrecsam?
- Amcanion yr astudiaeth
- Beth sydd wedi digwydd hyd yma?
- Pam mae angen y cynllun?
- Beth sy’n digwydd i fy adborth?
- Beth os ydw i’n meddwl am rywbeth ar ôl i’r rownd ymgysylltu yma ddod i ben? Oes cyfle i mi roi sylwadau ar y cynlluniau pan fyddan nhw’n cael eu cynnig?
- Pwy sy’n gyfrifol yn y pen draw am benderfynu ar y gwelliannau arfaethedig yn safle canolfan drafnidiaeth Porth Wrecsam?
- A yw’r prosiect hwn yn gysylltiedig â gwelliannau arfaethedig i deithio llesol Ffordd yr Wyddgrug?
- Os na allaf ddod i unrhyw un o'r digwyddiadau wyneb yn wyneb ac nad wyf am gwblhau'r arolwg ar-lein, a fydd copïau papur ar gael?
- Sut mae gofyn am gopi o’r arolwg mewn print bras?