Porth y Gorllewin, Wrecsam
Ydych chi’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â Wrecsam yn rheolaidd? Os felly, rhowch eich barn ar y flaenoriaethau ar gyfer gwelliannau trafnidiaeth yn ardal orllewinol y ddinas drwy gwblhau ein harolwg a/neu nodi’r manylion ar ein map rhyngweithiol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mewn cydweithrediad â Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru, ac Uchelgais Gogledd Cymru, yn ceisio nodi’r gwelliannau trafnidiaeth sydd eu hangen yn ardal orllewinol Wrecsam i wella cysylltedd lleol a chefnogi twf cyflogaeth.
Yn yr ardal hon o Wrecsam, fel y dangosir isod, mae’r tir sydd wedi’i leoli rhwng Moneypenny a’r A483 yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac mae’n rhan o Fargen Twf y Gogledd, sef ‘Porth y Gorllewin, Wrecsam’. Mae Bargen Twf y Gogledd yn gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i fuddsoddi mwy nag £1 biliwn yng Ngogledd Cymru dros 15 mlynedd (hyd at 2036), gan gynhyrchu dros 4,000 o swyddi newydd, a £2.4 biliwn i’r economi. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad o £9miliwn ar safle Porth y Gorllewin, a allai gyfrannu hyd at £120miliwn i’r economi ranbarthol a datblygu 8,000 metr sgwâr o dir sy’n addas ar gyfer busnesau. Fodd bynnag, er mwyn hwyluso datblygiad cyflogaeth o ansawdd uchel ar y safle hwn, mae angen gwelliannau trafnidiaeth i wella mynediad drwy bob dull teithio.
I gyflawni hyn, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi comisiynu WSP i gynnal astudiaeth WelTAG er mwyn nodi a datblygu mesurau i gefnogi datblygiad safle Porth y Gorllewin, a gwella cysylltedd lleol ar yr un pryd.
Beth sydd wedi cael ei ystyried hyd yma fel rhan o’r prosiect?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi bod yn gweithio gyda WSP, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru, ac Uchelgais Gogledd Cymru i nodi materion allweddol sy’n ymwneud â thrafnidiaeth yn yr ardal leol. Nodwyd y materion canlynol hyd yma:
- Tagfeydd lleol sylweddol o amgylch safle Porth y Gorllewin yn ystod oriau brig. Mae hyn yn canolbwyntio'n arbennig ar Ysbyty Maelor Wrecsam a mynediad i'r A483 ac oddi yno trwy Gyffyrdd 4 (Ffordd Rhuthun) a 5 (Ffordd yr Wyddgrug);
- Pryderon diogelwch ar yr A483 Cyffordd 4 (Ffordd Rhuthun) oherwydd tagfeydd yn yr ardal leol sy’n gallu achosi ciwio sylweddol ar y gyffordd;
- Bysiau ddim yn ddibynadwy iawn oherwydd tagfeydd lleol;
- Dim ond i nifer bach o leoliadau y mae gwasanaethau bws uniongyrchol yn mynd, fel canol dinas Wrecsam, Brymbo a New Broughton;
- Cysylltedd gwael tuag at orsaf Wrecsam Cyffredinol o safle Porth y Gorllewin, yn enwedig ar droed, ar feic, neu ar olwyn;
- Llwybrau teithio llesol digyswllt tuag at Hightown / ardal ddeheuol Wrecsam;
- Cysylltiadau teithio llesol gwael tuag at leoliadau i’r gorllewin o Wrecsam, gan gynnwys Coed-poeth a Gwersyllt;
- Llwybrau teithio ar droed, ar feic, ac ar olwyn yn dod i ben oherwydd presenoldeb yr A483 a datblygiadau yn yr ardal lleol; and
- Problemau parcio sy’n gysylltiedig â safle Ysbyty Maelor Wrecsam.
Beth sy’n cael ei ystyried ym Mhorth y Gorllewin, Wrecsam?
Nid oes unrhyw gynigion manwl ar gyfer safle Porth y Gorllewin ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r safle yn eiddo i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a bwriedir iddo fod yn safle datblygu swyddfeydd o ansawdd uchel y gellir ei gyrraedd yn hawdd drwy ddulliau teithio cynaliadwy.
O ran mynediad i gerbydau, cynigir ar hyn o bryd y dylid darparu ffordd gyswllt newydd drwy’r safle rhwng Ffordd Rhuthun yn y gorllewin a chylchfan Moneypenny yn y dwyrain. Dyma fyddai’r brif ffordd fynediad tuag at Ysbyty Maelor Wrecsam o gyffordd 4 yr A483, gan olygu na fyddai angen i bobl deithio ar hyd ochr de-orllewinol Ffordd Croesnewydd.
Er mwyn atal pobl rhag teithio ar hyd Ffordd Croesnewydd ar ôl i safle Porth y Gorllewin gael ei ddatblygu, cynigir y dylai’r rhan o Ffordd Croesnewydd rhwng Signalau Porth y Gorllewin a’r tai i’r dde gael ei phedestraneiddio. Fodd bynnag, bydd mynediad yn cael ei gadw ar hyd y rhan hon o Ffordd Croesnewydd ar gyfer cerbydau gwasanaethau brys ac o bosibl bysiau gwasanaethau lleol.
Dangosir crynodeb o’r cynigion cyfredol isod.
Pam rydym yn ymgysylltu â’r cyhoedd?
Rydym eisiau deall yn fanylach y problemau a’r heriau allweddol y mae pobl leol yn eu hwynebu wrth deithio yn yr ardal leol. Mae gennym ddiddordeb hefyd yn y blaenoriaethau lleol ar gyfer gwelliannau trafnidiaeth yn yr ardal, yn ogystal â barn y cyhoedd ar y cynigion sy’n cael eu hystyried ar safle Porth y Gorllewin.
Rhoi eich barn ar-lein
Byddem yn ddiolchgar pe gallech chi dreulio ychydig bach o amser yn ymateb i’n harolwg a nodi unrhyw faterion a chyfleoedd penodol gan ddefnyddio’r map isod.
Mae’r cyfnod ymgysylltu ar agor nawr a bydd yn para tan Mawrth 21ain, 2025.
Rhoi eich barn yn bersonol
Os byddai’n well gennych siarad â ni a rhoi adborth yn bersonol, bydd aelodau o dîm y prosiect ar gael yn y lleoliadau canlynol ar y dyddiadau a nodir:
- Ysbyty Maelor Wrecsam – Prif Fynedfa (Ffordd Croesnewydd, Wrecsam, LL13 7TD) – dydd Llun 17 Chwefror, 11:00-18:00.
- Canolfan Gymunedol Plas Pentwyn (Ffordd y Castell, Coedpoeth, LL11 3NU) – dydd Mercher 19 Chwefror, 14:00-19:00.
- Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Clywedog – Derbynfa (Ffordd Rhuthun, Wrecsam, LL13 7UB) – dydd Mercher 5 Mawrth, 16:45-20:00.
Bydd copïau papur o’r ffurflenni adborth yn Gymraeg a Saesneg ar gael yn y sesiynau galw i mewn, neu gellir eu codi o leoliadau yn Llyfrgell Wrecsam (Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1AU).
Cysylltu â thîm y prosiect.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r prosiect, rydym wedi darparu rhestr o gwestiynau cyffredin ar y dde. Os na allwch chi ddod o hyd i ateb i’ch cwestiwn yn y fan honno, neu os hoffech chi roi unrhyw adborth nad yw’n cael ei gwmpasu gan yr arolwg a’r map, mae croeso i chi gysylltu â thîm y prosiect drwy’r ffyrdd canlynol:
- E-bost: PorthWesternGateway@wsp.com
- Post (At Sylw: Porth y Gorllewin – Tîm Trafnidiaeth): Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, De Ffordd yr Abaty, Wrecsam, LL13 9PW
Beth fydd yn digwydd ar ôl i’r cyfnod ymgysylltu ddod i ben?
Bydd yr holl awgrymiadau a fydd yn dod i law yn cael eu hystyried wrth ddatblygu astudiaeth WelTAG Porth y Gorllewin, Wrecsam. Bydd hyn yn helpu i lywio’r gwaith o ddylunio mesurau a allai gynnig y budd mwyaf i’r ardal leol, o ran galluogi datblygu ar safle Porth y Gorllewin ac ar gyfer cysylltedd trafnidiaeth lleol.
Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ystyried y camau nesaf ar gyfer rhoi’r mesurau a nodwyd ar waith, ochr yn ochr â Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru.
Porth y Gorllewin, Wrecsam - Map Rhyngweithiol
Ychwanegwch eich sylwadau i'r map trwy defnyddio y teclyn 'pin'.