Cledrau Croesi Caerdydd
Consultation has concluded
Dweud eich dweud ar brosiect Cledrau Croesi Caerdydd.
Mae Cyngor Caerdydd a Thrafnidiaeth Cymru (TrC) yn cydweithio i ddarparu tramffordd newydd rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd, cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd. Bydd yn gwella'r cysylltiad rhwng canol y ddinas a'r Bae, a bydd o fudd i'r ddinas a'r rhanbarth ehangach.
Yn amodol ar gyllid, bydd Cledrau Croesi Caerdydd yn rhedeg o ogledd-orllewin y ddinas, yr holl ffordd i'r dwyrain o'r ddinas gan gysylltu â gorsaf reilffordd arfaethedig ‘Parcffordd’.
I ddechrau'r broses hon, rhaid adeiladu cam cyntaf y cynllun rhwng Canol Caerdydd a Bae Caerdydd. Bydd hyn o'r diwedd yn sicrhau bod gan Butetown gysylltiad defnyddiol â chanol y ddinas, ar hyd y dramffordd newydd, gan ddarparu mwy o gapasiti i drigolion ac ymwelwyr gael mynediad at yr ystod eang o atyniadau sydd gan Gaerdydd i'w cynnig.
Rydym yn cynnal ymgynghoriad fel y gallwch ddweud eich dweud ar y cynigion cyn i ni gyflwyno'r cynlluniau terfynol fel rhan o Orchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gwaith (y broses gynllunio ar gyfer prosiect fel hwn).
Mae gennych tan 27 Hydref i roi eich barn ar y prosiect. Gallwch weld y cynigion a'r deunyddiau ymgynghori ar y dudalen hon, ac ymateb i'r arolwg trwy glicio ar y botwm isod.
Cefndir
Mae cam 1 Cledrau Croesi Caerdydd yn rhan o weledigaeth ehangach Cledrau Croesi Caerdydd a gyflwynwyd yn y Papur Gwyn Trafnidiaeth, a gyhoeddodd Cyngor Caerdydd ym mis Gorffennaf 2019.
Sicrhaodd Cyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â TrC, £100 miliwn o gyllid ar gyfer cam 1 Cledrau Croesi Caerdydd, i ddarparu tramffordd rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd. Sicrhawyd £50 miliwn gan Lywodraeth y DU, gyda chyllid cyfatebol o £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect.
Mae'r cynllun yn cyd-fynd yn llawn â'n dyheadau ar gyfer Metro De Cymru. Bydd yn cyd-fynd â'r gwaith sydd eisoes ar y gweill i adeiladu platfform newydd ar lein Bae Caerdydd i ganiatáu gwasanaethau cyflymach ac amlach gan ddefnyddio gwasanaeth trên-tram newydd sbon.
Dyma fydd y cynllun yn ei ddarparu:
- Adeiladu gorsaf newydd gyda dau blatfform yn rhan ddeheuol o faes parcio gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog, gyfleus er mwyn gallu cysylltu'n rhwydd â gorsaf Caerdydd Canolog.
- Cyswllt tramffordd newydd o ran ddeheuol maes parcio gorsaf Caerdydd Canolog, yn croesi drwy Sgwâr Callaghan ac yn ymuno â lein bresennol Bae Caerdydd
- Trydydd platfform yng ngorsaf Bae Caerdydd (yn ogystal â'r ail, sydd wrthi'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd)
- Gwella mannau cyhoeddus ar y lein i gysylltu cymunedau, lleoedd ac atyniadau cyfagos

Cynlluniau'r dyfodol
Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio gyda TrC ac yn ystyried y posibilrwydd o ddarparu cysylltiad newydd rhwng gorsaf Bae Caerdydd a gorsaf newydd sbon ar Stryd y Pierhead (Cam 1b Cledrau Croesi Caerdydd), sy'n amodol ar sicrhau cyllid ychwanegol ac felly nid yw'n cael ei gynnwys yn yr ymgynghoriad hwn.