Cledrau Croesi Caerdydd

Rhannu Cledrau Croesi Caerdydd ar Facebook Rhannu Cledrau Croesi Caerdydd Ar Twitter Rhannu Cledrau Croesi Caerdydd Ar LinkedIn E-bost Cledrau Croesi Caerdydd dolen

Dweud eich dweud ar brosiect Cledrau Croesi Caerdydd.

Mae Cyngor Caerdydd a Thrafnidiaeth Cymru (TrC) yn cydweithio i ddarparu tramffordd newydd rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd, cam cyntaf Cledrau Croesi Caerdydd. Bydd yn gwella'r cysylltiad rhwng canol y ddinas a'r Bae, a bydd o fudd i'r ddinas a'r rhanbarth ehangach.

Yn amodol ar gyllid, bydd Cledrau Croesi Caerdydd yn rhedeg o ogledd-orllewin y ddinas, yr holl ffordd i'r dwyrain o'r ddinas gan gysylltu â gorsaf reilffordd arfaethedigParcffordd’.

I ddechrau'r broses hon, rhaid adeiladu cam cyntaf y cynllun rhwng Canol Caerdydd a Bae Caerdydd. Bydd hyn o'r diwedd yn sicrhau bod gan Butetown gysylltiad defnyddiol â chanol y ddinas, ar hyd y dramffordd newydd, gan ddarparu mwy o gapasiti i drigolion ac ymwelwyr gael mynediad at yr ystod eang o atyniadau sydd gan Gaerdydd i'w cynnig.

Rydym yn cynnal ymgynghoriad fel y gallwch ddweud eich dweud ar y cynigion cyn i ni gyflwyno'r cynlluniau terfynol fel rhan o Orchymyn Deddf Trafnidiaeth a Gwaith (y broses gynllunio ar gyfer prosiect fel hwn).

Mae gennych tan 27 Hydref i roi eich barn ar y prosiect. Gallwch weld y cynigion a'r deunyddiau ymgynghori ar y dudalen hon, ac ymateb i'r arolwg trwy glicio ar y botwm isod.

Cefndir

Mae cam 1 Cledrau Croesi Caerdydd yn rhan o weledigaeth ehangach Cledrau Croesi Caerdydd a gyflwynwyd yn y Papur Gwyn Trafnidiaeth, a gyhoeddodd Cyngor Caerdydd ym mis Gorffennaf 2019.

Sicrhaodd Cyngor Caerdydd, mewn partneriaeth â TrC, £100 miliwn o gyllid ar gyfer cam 1 Cledrau Croesi Caerdydd, i ddarparu tramffordd rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd. Sicrhawyd £50 miliwn gan Lywodraeth y DU, gyda chyllid cyfatebol o £50 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect.

Mae'r cynllun yn cyd-fynd yn llawn â'n dyheadau ar gyfer Metro De Cymru. Bydd yn cyd-fynd â'r gwaith sydd eisoes ar y gweill i adeiladu platfform newydd ar lein Bae Caerdydd i ganiatáu gwasanaethau cyflymach ac amlach gan ddefnyddio gwasanaeth trên-tram newydd sbon.

Dyma fydd y cynllun yn ei ddarparu:

  • Adeiladu gorsaf newydd gyda dau blatfform yn rhan ddeheuol o faes parcio gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog, gyfleus er mwyn gallu cysylltu'n rhwydd â gorsaf Caerdydd Canolog.
  • Cyswllt tramffordd newydd o ran ddeheuol maes parcio gorsaf Caerdydd Canolog, yn croesi drwy Sgwâr Callaghan ac yn ymuno â lein bresennol Bae Caerdydd
  • Trydydd platfform yng ngorsaf Bae Caerdydd (yn ogystal â'r ail, sydd wrthi'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd)
  • Gwella mannau cyhoeddus ar y lein i gysylltu cymunedau, lleoedd ac atyniadau cyfagos

Cynlluniau'r dyfodol

Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio gyda TrC ac yn ystyried y posibilrwydd o ddarparu cysylltiad newydd rhwng gorsaf Bae Caerdydd a gorsaf newydd sbon ar Stryd y Pierhead (Cam 1b Cledrau Croesi Caerdydd), sy'n amodol ar sicrhau cyllid ychwanegol ac felly nid yw'n cael ei gynnwys yn yr ymgynghoriad hwn.

Rhannu Map ar Facebook Rhannu Map Ar Twitter Rhannu Map Ar LinkedIn E-bost Map dolen

Map

tua 1 mis

Gan ddefnyddio'r bin, tynnwch sylw at ardaloedd ar y map allai greu cyfle neu yr hoffech wneud sylw amdanynt. 

Diweddaru: 20 Sep 2024, 02:34 PM